'Pontio' parc cenedlaethol yng Nghymru a'r Ariannin 'am y tro cyntaf'

Gwion Elis-Williams (dde) gyda Damián Mujica, sef pennaeth parciau cenedlaethol de Ariannin
- Cyhoeddwyd
Mae cynllun newydd wedi'i lansio sy'n gefeillio parc cenedlaethol o'r Ariannin gydag un o Gymru am y tro cyntaf erioed.
Cafodd seremoni arbennig ei chynnal wythnos diwethaf i nodi'r cyfeillgarwch rhwng Parc Cenedlaethol Eryri a Los Alerces ym Mhatagonia gyda'r gobaith y bydd y cynllun yn eu helpu i ddysgu oddi wrth ei gilydd a chreu cysylltiadau.
Cafodd y seremoni gefeillio ei chynnal yng nghanolfan ymwelwyr y parc draw yn yr Andes fore Sadwrn, 26 Medi.
Dywedodd Gwion Elis-Williams, oedd yn cynrychioli Eryri yn y seremoni, mai'r gobaith ydy dysgu mwy am ei gilydd "ym meysydd diwylliant, addysg, cadwraeth a thwristiaeth gynaliadwy".
"Er bod y ddau barc filoedd o filltiroedd ar wahân, mae ganddyn nhw fwy yn gyffredin nag y byddech efallai'n ei ddisgwyl."

Bu perfformiad o gerdd 'Eryri' (R Williams Parry) gan ddisgybl lleol, Miranda Tardón Córdoba
Un o'r pethau cyffredin hynny, yn ôl Gwion sy'n byw draw yn Nhrevelin, ydy maint.
"Mae Los Alerces tua 2,600 cilomedr sgwâr, ac Eryri tua 2,100. Felly, mae'r ddau yn barciau mawr iawn. Er bod Los Alerces tua 20% yn fwy.
"Mae tirwedd y ddau barc wedi'u siapio gan rewlifoedd, dros gannoedd o filoedd o flynyddoedd."
Mae Gwion wedi bod yn rhan o grŵp bach o bobl, gan gynnwys Margarita Green a Sara Borda Green, sydd wedi bod yn gweithio ar y cynllun ers mis Medi 2023.
"Dwi'n aelod o bwyllgor llywodraethwyr Ysgol y Cwm, ond wedi tyfu fyny yn Eryri yn Llanllechid, felly ar stepan ddrws y Carneddau," meddai.

Cafodd Memorandwm ei arwyddo rhwng y ddau barc
Ond er y tebygrwydd o ran brawdoliaeth, esboniodd Gwion fod yna wahaniaethau rhwng y parciau hefyd.
"Mae dros 26,000 o bobl yn byw ac yn gweithio yn Eryri. Yma yn Los Alerces, dim ond tua 250 o bobl sy'n byw o fewn ffiniau'r parc.
"Yn Eryri, mae ffermio mynydd wedi chwarae rhan enfawr, yn enwedig ffermio defaid.
"Ac yn ystod y chwyldro diwydiannol, mi ddaeth gogledd Cymru yn ganolfan ddiwydiannol bwysig, gyda llechi ardal Eryri yn cael eu hallforio o Gymru i bob rhan o'r byd."

Cafodd llwy garu wedi'i chrefftio gan y grefftwraig Marilyn Jones ei chyflwyno i Barc Cenedlaethol Eryri
"Mae tua 20% o Eryri wedi'i orchuddio gan goed: mae'r coedwigoedd derw acw yn cael eu galw'n goedwigoedd glaw Celtaidd," meddai Gwion.
"Yma yn Los Alerces, mae dros 70% o'r parc wedi'i orchuddio gan goedwigoedd cynhenid, sy'n cynnwys y goedwig law Fadlifiaidd.
"Ac ymhlith y coed hynny mae'r Alerce wrth gwrs - Fitzroya Cupressoides - un o goed mwyaf rhyfeddol y byd.
"Dyna pam mai un o brif flaenoriaethau Los Alerces yw gwarchod ei goedwigoedd a'i ecosystemau," meddai Gwion.

Clywodd y gynulleidfa nifer o siaradwyr gwadd, gan gynnwys Maragrita Green (chwith) o bwyllgor Ysgol y Cwm, Sara Borda Green a Natalia Taux
Cafodd yr anthemau cenedlaethol eu canu, nifer o siaradwyr o wahanol sefydliadau, arwyddo Memorandwm, cyfnewid anrhegion ac adrodd cerdd 'Eryri' gan R Williams Parry i gloi'r digwyddiad.
Yna, aeth pawb i barhau â'r dathliadau yn Ysgol y Cwm lle y bu cyd-adrodd a gwledd.
Bu dawnsio gwerin gan griw ifanc o Drevelin ac mi gafodd calendr arbennig ei gyflwyno gan ddisgyblion yr ysgol uwchradd i nodi'r digwyddiad.
"Mae'r calendr yn cynnwys darluniau o fywyd gwyllt Eryri a Los Alerces."
Ychwanegon nhw yn y datganiad: "O gopaon creigiog Eryri i goedwigoedd hynafol yr Andes - mae'r gefeillio wedi adeiladu pont rhwng dau barc cenedlaethol sydd filoedd o filltiroedd ar wahân, ac yn ddathliad o gyfeillgarwch, diwylliant a'r hyn y gallwn ei gyflawni gyda'n gilydd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ionawr

- Cyhoeddwyd8 Gorffennaf

- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2025
