Llofruddiaethau Tooze: Rhyddhau dyn 87 oed heb gamau pellach

Harry a Megan Tooze
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Harry a Megan Tooze eu canfod wedi eu saethu ar fferm Tŷ Ar y Waun yn Llanhari yn 1993

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 87 oed a gafodd ei arestio mewn cysylltiad â llofruddiaeth cwpl yn ne Cymru dros 30 o flynyddoedd yn ôl wedi cael ei ryddhau heb unrhyw gamau pellach.

Cafodd Harry a Megan Tooze, oedd yn eu 60au, eu canfod wedi eu saethu yn eu fferm yn Llanhari, Rhondda Cynon Taf yng Ngorffennaf 1993.

Cafodd y dyn ei arestio ym mis Rhagfyr 2025 ar amheuaeth o lofruddiaeth, ond mae Heddlu'r De wedi cadarnhau nad yw bellach dan ymchwiliad ac na fydd yn wynebu camau pellach.

Mae'r adolygiad fforensig o'r achos, sy'n cael ei arwain gan uned ymchwilio i droseddau mawr Heddlu De Cymru, yn parhau.

Ddydd Gwener, dywedodd y ditectif uwch-arolygydd Mark O'Shea: "Rydym dal wedi ymroi i ddatrys yr achos ofnadwy yma a ddigwyddodd dros dri degawd yn ôl.

"Dydy hi byth yn rhy hwyr i gysylltu, hyd yn oed ar ôl yr holl amser yma, dwi'n apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth am y llofruddiaethau i siarad â ni, oherwydd fe allai'r wybodaeth yna arwain at sicrhau cyfiawnder i'r teulu."

Mae teuluoedd Harry a Megan Tooze yn dal i dderbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol ac yn ymwybodol o ddiweddariadau yn yr achos.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.