Codi arian at ymchwil canser, tra'n derbyn cemotherapi

- Cyhoeddwyd
Mae Megan Jones Roberts o Aberystwyth wedi bod yn codi arian i elusennau ers degawdau. Ac am hynny, mae wedi derbyn enwebiad am wobr Gwneud Gwahaniaeth y BBC, sy'n dathlu rhai o bobl arbennig ein cymunedau.
Dros y blynyddoedd, drwy gynnal digwyddiadau fel cyngherddau a boreau coffi yn yr ardal, mae hi wedi codi £143,000 i achosion da – ac yn anelu am y £150,000.
Mae hi'n parhau gyda'r gwaith, er ei bod hi'n mynd drwy driniaeth cemotherapi ar hyn o bryd.
'Rhoi rhywbeth yn ôl'
Mae codi arian yn y gwaed, gan fod Megan yn dilyn ôl troed ei rhieni a oedd yn weithgar ym mhentref Talgarreg ger Llandysul gyda digwyddiadau cymunedol ac elusennol.
Mae hi wedi bod yn casglu arian "ers dwi'n cofio", meddai, a hynny at achosion mor amrywiol â Phlant Mewn Angen a'r Eisteddfod Genedlaethol.
Un o'r achosion da sydd yn agos iawn at galon Megan yw ymchwil canser, ac mae wedi codi llawer o arian i'r achos dros y blynyddoedd.
Mae Megan a'i brawd yn mynd drwy driniaeth cemotherapi ar hyn o bryd yn Ysbyty Bronglais, felly mae Megan yn gwerthfawrogi'r cyfle i allu rhoi yn ôl a helpu eraill a fydd yn ei sefyllfa hi rhywdro.
"Dwi wedi bod yn codi arian ar gyfer Ymchwil Canser Cymru achos dwi'n teimlo bod e'n bwysig iawn fod arian yn cael ei godi i helpu'r ymchwil yna, er mwyn darganfod pethau fydd yn gwella, falle dim fi, ond pobl fydd yn mynd drwy ganser.
"Dwi ‘di bod ynghlwm gyda codi arian ers dwi’n cofio"
Megan Jones Roberts yn sgwrsio ar Bore Cothi ar BBC Radio Cymru
"O'n i'n gorfod bod mewn yn yr ysbyty rhyw fis yn ôl am naw diwrnod, ac roedd y gofal o'n i'n ei gael ar y ward canser, o'dd e heb ei ail. Does dim geiriau i'w gael i ddweud faint maen nhw'n ei wneud i chi.
"Mae ambell i glaf angen mwy o ofal nag eraill, ond maen nhw'n dod rownd gyda gwên ar eu gwyneb, unrhyw amser o'r dydd a'r nos.
"Felly rhoi rhywbeth yn ôl i'r ysbyty am y gofal y'n ni'n ei gael a rhoi rhywbeth yn ôl i Ymchwil Canser Cymru hefyd, gan obeithio bydd yr arian yn gwneud lles i bobl eraill hefyd."
Achos arall sydd yn cael budd o ymdrech Megan yw clefyd Alzheimer's, a hynny am reswm dilys iawn.
"Mae ngŵr i, yn anffodus, ag Alzheimer's arno fe, a dwi wedi bod yn codi arian ar gyfer Alzheimer's Cymru.
"Fydd hyn yn rhy hwyr i 'ngŵr i ond bydd o help gobeithio i bobl eraill a fydd gydag Alzheimer's yn y dyfodol."

Megan ar faes Eisteddfod y Garreg Las eleni, yn rhinwedd ei swydd fel Cadeirydd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru
'Credu'n gryf mewn cymdeithas'
Er ei salwch, mae Megan yn parhau i fod yn weithgar iawn; yn cario 'mlaen gyda'r gwaith codi arian drwy drefnu digwyddiadau, ac hefyd ei gwaith gwirfoddol o fewn y gymuned, sydd mor bwysig iddi.
"Dwi wedi trefnu'r Steddfod yn Aberystwyth, dwi'n gadeirydd ar y papur bro, Yr Angor a dwi'n llywydd ar gangen Merched y Wawr Aberystwyth. Dwi'n Gadeirydd Cymdeithas Eisteddfodau Cymru, a dwi wedi bod ynghlwm ers blynyddoedd ag Eisteddfod Capel y Fadfa Talgarreg.
"Mae wedi bod yn brofiad i roi rhywbeth nôl mewn cymdeithas, achos dwi'n credu'n gryf mewn cymuned a chymdeithas, a rhoi rhywbeth nôl i'r ardaloedd dwi wedi cael fy nwyn i fyny ynddyn nhw."

Megan oedd Tywysydd y Parêd Gŵyl Dewi yn Aberystwyth yn 2026
Eleni, nid yn unig mae Megan wedi ennill lle ar restr fer Gwobrau Gwneud Gwahaniaeth, mae hi hefyd wedi cael ei henwebu am MBE.
Er ei bod hi ddim eisiau "brolio dim" am ei holl waith, ac yn cydnabod yr holl gymorth mae hi'n ei gael gan eraill, mae hi'n falch iawn fod rhywun "yn meddwl gymaint" ohoni hi i gynnig ei henw, meddai.
"Oedd e'n sypreis mawr i glywed mod i ar y rhestr fer. Dwi'n teimlo anrhydedd fod rhywun wedi mynd i roi'n enw i 'mlaen i gael y fath glod.
"Dwi ddim yn trefnu'r cyngherdde 'ma er mwyn cael clod o gwbl. Dwi'n cael hwyl yn eu trefnu nhw.
"Beth dwi'n licio'i weld ydy llond stafell o Gymry Cymraeg yn mwynhau eu hunain ac yn codi arian yr un ffordd."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl

- Cyhoeddwyd28 Mawrth 2024

- Cyhoeddwyd27 Ionawr
