Unig siop lyfrau Cymraeg Sir Conwy yn ailagor fel menter gymunedol

Siop Bys a Bawd wedi'i hadnewydduFfynhonnell y llun, Bys a Bawd Pawb
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Bys a Bawd Pawb bod y siop wedi gweld "gweddnewidiad llwyr i'r strwythur mewnol"

  • Cyhoeddwyd

Bydd unig siop lyfrau Cymraeg Sir Conwy yn ailagor ei drysau fel menter gymunedol ddydd Mercher, wedi pum mis o waith adnewyddu a "llafur cariad anferthol gan y fro gyfan".

Ym mis Mawrth daeth y newyddion bod y gymuned wedi llwyddo yn eu hymgyrch i ddiogelu siop lyfrau Bys a Bawd yn Llanrwst.

Cafodd y siop ei sefydlu dros 70 mlynedd yn ôl, a gan fod y perchennog presennol yn ymddeol, llwyddodd grŵp lleol Bys a Bawd Pawb i ddenu cyfranddalwyr i fuddsoddi yn y fenter a chadw'r siop ar agor.

Mae adeilad y siop wedi bod ar gau ers hynny, a'r busnes wedi ail-leoli i swyddfa Menter Iaith Conwy yn ystod y gwaith adnewyddu.

Ond bydd y siop yn ailagor ar ei newydd wedd am 09:30 fore Mercher.

Iola Gilbert a Nia Clwyd OwenFfynhonnell y llun, Bys a Bawd Pawb
Disgrifiad o’r llun,

Mae maer Llanrwst Iola Gilbert a chadeirydd Bys a Bawd Pawb yn falch o weld y siop yn ailagor ddydd Mercher

Llwyddodd pobl Dyffryn Conwy a thu hwnt i godi dros £125,000 mewn cyfranddaliadau i brynu'r adeilad, wedi i'r perchennog Dwynwen Berry roi'r siop ar y farchnad.

Mae'r fenter hefyd wedi denu grantiau ariannol gan nifer o ffynonellau gwahanol - Perthyn, Cronfa Fferm Wynt Coedwig Clocaenog, Rhaglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru, Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a benthyciad gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru.

Dywedodd menter Bys a Bawd Pawb bod y siop wedi gweld "gweddnewidiad llwyr i'r strwythur mewnol, buddsoddiad ariannol a gwaith crefftwyr lleol i ailagor y gofod fel busnes cymunedol llwyddiannus".

'Profiad anhygoel'

Yn ôl cadeirydd Cymdeithas Bys a Bawd Pawb, y cynghorydd sir lleol, Nia Clwyd Owen: "Mae wedi bod yn llafur cariad anferthol gan y fro gyfan, ysbryd o fentergarwch a chefnogaeth broffesiynol gan sefydliadau fel Menter Iaith Conwy ynghyd â chrefftwyr lleol i gyrraedd lle rydyn ni heddiw.

"Mae wedi bod yn brofiad anhygoel a dwi'n edrych ymlaen yn arw at weld wynebau cwsmeriaid hen a newydd wrth i ni ailagor y siop wythnos yma!"

Yn ôl maer Llanrwst, y cynghorydd tref Iola Gilbert: "Rydyn ni'n ffodus iawn o gael cigyddion annibynnol, siopau bwyd llwyddiannus, siopau nwyddau cartref hyfryd, siop flodau, tafarndai traddodiadol a llawer, llawer mwy yn parhau ar ein strydoedd yn Llanrwst.

"Y gobaith wrth ychwanegu Bys a Bawd Pawb yn ei ôl ar ei newydd wedd yw y bydd yn parhau i dderbyn cefnogaeth trigolion lleol i'n tref farchnad ac i ddenu cwsmeriaid o bell ac agos draw i fwynhau'r arlwy sydd gan Llanrwst i'w chynnig."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig