Crynodeb

  1. 'Rwy'n meddwl llawer am fy nhad yr wythnos yma' - Delyth Wynwedi ei gyhoeddi 10:09 GMT+1 6 Awst

    Delyth Wyn

    Mae'r actores o Aberteifi a merch y diweddar brifardd Dic Jones, Delyth Wyn y tu allan i'r Babell Lên bore heddiw.

    Mae hi'n paratoi ar gyfer sesiwn sy'n cael ei arwain ganddi hi, ei chwaer, Rhian Medi ac Eddie Ladd. Enw'r perfformiad yw Talwrn Merched y Wawr, ac mae'n ddathliad o ferched cryfion o ranbarthau Penfro, Ceredigion a Chaerfyrddin.

    Dywedodd Delyth ei bod "yn Eisteddfod wych a bendigedig.

    "Wrth gwrs rwy'n meddwl llawer am fy nhad yr wythnos yma a pha mor sbeshal ydyw e bod y Steddfod yn ein hardal ni."

  2. Gwobrwyo Tlws Sbardun i Elliw Joneswedi ei gyhoeddi 10:02 GMT+1 6 Awst

    Elliw Jones

    Elliw Jones oedd enillydd Tlws Sbardun yn y Tŷ Gwerin brynhawn ddoe, a hynny ar achlysur 10 mlwyddiant y wobr.

    Cafodd y gystadleuaeth ei chynnal am y tro cyntaf yn Eisteddfod Sir Fynwy a'r enillydd cyntaf oedd Elidyr Glyn.

    Mwy yma.

  3. 'Mi oedd o'n hwb mawr, does dim dwywaith am hynny.'wedi ei gyhoeddi 09:41 GMT+1 6 Awst

    Bydd Gwobr Goffa Osborne Roberts yn cael ei chynnal yn y Pafiliwn heddiw am 11:55. Eleni, mae'n 75 o flynyddoedd ers sefydlu'r wobr.

    Mae'r wobr - y Rhuban Glas i gantorion rhwng 19 a 25 oed - yn cael ei gyfrif fel un o brif wobrau'r Eisteddfod Genedlaethol.

    Mae Mary Lloyd Davies, un o gyn-enillwyr y gystadleuaeth wedi bod yn sôn wrth Cymru Fyw am arwyddocâd y gystadleuaeth. Mwy yma.

  4. Mae'r haul yn disgleiriowedi ei gyhoeddi 09:31 GMT+1 6 Awst

    Mae'r haul yn disgleirio yn Llantwd ar hyn o bryd, a'r maes yn barod am ddiwrnod prysur arall.

    Maes yr Eisteddfod
    Maes yr Eisteddfod
  5. Cymru Connection Elis ac Iwanwedi ei gyhoeddi 09:23 GMT+1 6 Awst

    Ar raglen Tocyn neithiwr, cafodd Elis James sgwrs gydag Iwan Griffiths cyn perfformio stand yp yn y Pafiliwn.

    Rhannodd Elis fod 33 aelod o'r teulu yn dod i'w wylio!

    Roedd cyfle hefyd i roi cynnig ar gêm o bodlediad Elis a John Robbins, sef Cymru Connection. Yr her yw darganfod Cymry y mae Elis a'r holwr yn eu hadnabod mewn llai na munud... ond doedd dim angen cymaint o amser â hynny ar faes yr Eisteddfod!

  6. Noson i'w chofio i Gôr Taflaiswedi ei gyhoeddi 09:14 GMT+1 6 Awst

    Côr Taflais o Gaerdydd ddaeth i'r brig yng nghystadleuaeth y côr agored yn y Pafiliwn neithiwr.

    Cafodd y côr ei ffurfio yn 2023 a daethon nhw yn ail yn y gystadleuaeth yma llynedd.

    Gwyliwch ran o'u perfformiad isod. Mae holl ganlyniadau ddoe o'r Pafiliwn a chlipiau uchafbwyntiau yma.

    Disgrifiad,

    Côr agored heb fod yn llai nag 20 mewn nifer

  7. Defnyddio darllenydd sensitifrwydd ym mhroses feirniadu'r Eisteddfod?wedi ei gyhoeddi 09:07 GMT+1 6 Awst

    Darllenydd sensitifrwydd

    Mae disgwyl i aelodau llys yr Eisteddfod drafod argymhelliad y Brifwyl i gynnig gwasanaeth darllenydd sensitifrwydd i feirniaid sy'n dymuno hynny.

    Mae'r mater wedi dod fwy i'r amlwg ers atal y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol 2024.

    Mae'r union reswm dros ganslo'r fedal yn parhau yn ddirgelwch, ond ers y digwyddiad mae sawl trafodaeth wedi bod ar sicrhau sensitifrwydd mewn llenyddiaeth, a hawl pob awdur i ysgrifennu y tu hwnt i'w brofiad personol.

    Mwy yma.

  8. Llongyfarchiadau Penbleth!wedi ei gyhoeddi 09:06 GMT+1 6 Awst

    PenblethFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

    Penbleth oedd enillwyr cystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2026 ar y maes brynhawn ddoe.

    Mae'r gystadleuaeth yn cael ei chynnal yn flynyddol mewn partneriaeth rhwng Maes B a'r BBC er mwyn "darganfod talent cerddoriaeth gyfoes Cymraeg newydd".

    Y rhai oedd wedi cyrraedd y tri olaf eleni, ac yn perfformio ar Lwyfan y Maes nos Fercher, oedd Heledd a Mared, Lucy Borja, a Penbleth.

    Mwy yma.

  9. Croeso i Lantwd!wedi ei gyhoeddi 08:58 GMT+1 6 Awst

    Mae gohebwyr Cymru Fyw yn barod i grwydro'r maes unwaith eto.

    Arhoswch gyda ni yn ystod y dydd i ddilyn y cyfan.