Elin yng nghanol y gemwaithwedi ei gyhoeddi 15:12 GMT+1 6 Awst
Mae Elin Mair wedi bod yn brysur yn gwerthu gemwaith ar ei stondin drwy'r wythnos.

Ethol Tudur Dylan i fod yn Archdderwydd nesaf
Medal y Dramodydd fydd prif seremoni'r dydd yn y Pafiliwn
Gwyliwch y cystadlu'n ddi-dor ar wasnaeth Sedd yn y Pafiliwn
Mae Elin Mair wedi bod yn brysur yn gwerthu gemwaith ar ei stondin drwy'r wythnos.

Dewch i adnabod yr Archdderwydd nesaf, Tudur Dylan ychydig yn well gyda cwestiynau cyflym BBC Cymru Fyw!
Yn gynharach heddiw ar y maes, cyhoeddwyd mai ef fydd yn olynu Mererid Hopwood. Mwy yma.
Mae criw Côr y Môr o ardal Llanusyllt ger Dinbych y Pysgod wedi cyrraedd maes yr Eisteddfod yn eu pinc llachar ac yn mwynhau'r haul.

Draw yn y Pafiliwn, mae'r Athro Siwan Davies wedi derbyn Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg Eisteddfod y Garreg Las ar y llwyfan.
Gwyliwch ran o'r seremoni isod.
Mwy yma.
Wrth ymateb i benodiad ei fab Tudur Dylan fel yr Archdderwydd newydd, dywedodd y cyn-archdderwydd, y Parchedig John Gwilym Jones ei fod yn teimlo "boddhad a balchder arbennig".
Yn siarad ar raglen Dros Ginio, dywedodd y Parchedig Jones - a fu'n Archdderwydd rhwng 1993 a 1996 - ei fod yn teimlo "bod 'na rhyw fachyn gyda'r gorffennol - yr holl draddodiad Eisteddfodol sydd gyda ni fel teulu".
"Mae rhywun yn gwybod hefyd fod y gwaith yn weddol sicr yn nwylo Dylan," meddai.
Pan ofynnwyd iddo a oedd ganddo unrhyw gyngor i'w fab am olynu Mererid Hopwood yn y rôl, dywedodd: "Dim angen imi ddweud hyn wrtho ef... ond i ofalu bod paratoad ar gyfer pob seremoni a phob pwyllgor fel bod 'na nodiadau parod gydag ef ar gyfer y gwaith.
"Ond does dim rhaid imi ddweud hynny wrtho ef. Mae'n siŵr o ofalu am hynny'n well na dim."
Bydd Tudur Dylan hefyd yn dilyn ôl troed ei ewythr y Parchedig T James Jones a fu'n Archdderwydd rhwng 2009 a 2013.
Mae criw Cabarela yn perfformio'n y Babell Lên eto heno, a hynny gyda'r sioe newydd Aber TŷFi.
Mae'r sioe wedi ei ysgrifennu'n arbennig ar gyfer Eisteddfod y Garreg Las, a hynny ar achlysur 800 mlynedd ers gosod sylfaeni'r ŵyl.
Meddai Iestyn o griw Cabarela: "Mae'n sioe sy'n olrhain hanes yr Eisteddfod ond mewn ffordd cwbl Cabarel-aidd a stiwpid!"
Ychwanegodd Miriam Isaac: "Ryda ni'n lwcus iawn, mae pobl yn dod pob blwyddyn i'n cefnogi ni."
Yn ogystal â'r sioe lwyfan, mae cast Cabarela hefyd wedi cynhyrchu cyfres i sianel YouTube S4C o'r enw Rêl Housewives o'r Eisteddfod Genedlaethol.
Gwrandewch ar sgwrs Miriam ac Iestyn gyda Carwyn Blayney ar Radio Cymru isod.

Meg ac Efa
Ac mae mwy ar y maes sydd hefyd yn edrych ymlaen at wylio perfformiad Betsan heno.
Roedd Meg ac Efa yn crwydro'r Eisteddfod ar ôl mwynhau noson agoriadol Maes B.
Mae wedi bod yn brofiad "anhygoel hyd yma", meddai Efa a gafodd "amser gwych ym Maes B neithiwr".
"Heno, dwi'n edrych ymlaen yn fawr at Cordia, a rili edrych mlaen i weld fy ffrind Betsan yn canu.
"Mae'r awyrgylch ar y maes wedi bod yn arbennig drwy'r wythnos."
Ychwanegodd Meg: "Dw i'n licio'r ffaith bod cymaint o bethau gwahanol ymlaen drwy'r wythnos – mae wastad rhywbeth i wneud."
Gan gynnwys galw heibio stondin Nathan a Carla am baned am ddim...

Fe fydd Betsan yn perfformio yn Maes B am y tro cyntaf heno, ac mae hi'n edrych ymlaen at y profiad.
Meddai: “Dwi mor excited ond hefyd yn rili nerfus.
"Dyma set gyntaf fi yn Steddfod, a fi mor falch bo' fi wedi cael y cyfle. Mae mor bwysig i fi berfformio yn Gymraeg a dwi jyst methu aros i bawb glywed yr holl ganeuon Cymraeg dwi wedi eu cyfansoddi.”
Daw Betsan o Gaerdydd yn wreiddiol, ac fe wnaeth hi ryddhau ei chân Gymraeg gyntaf, sef Awst yn 2025.

Ffynhonnell y llun, Côr TaflaisRoedd côr Taflais o Gaerdydd yn dathlu neithiwr ar ôl ennill cystadleuaeth y côr agored.
Dywedodd Gronw Ifan, arweinydd y côr wrth Cymru Fyw fod "ciwiau neithiwr yn dyst i pa mor boblogaidd a safonol yw’r gystadleuaeth yma.
"Mae'n siom nad oedd cefnogwyr yn gallu mynd mewn i gefnogi ar ôl ymarfer am fisoedd."
Yn gynharach heddiw yng nghynhadledd i'r wasg foreol yr Eisteddfod, dywedodd Betsan Moses ei bod yn falch fod llwyfannau amrywiol yr Eisteddfod yn profi'n boblogaidd.
Mae'n debyg fod Aled Hughes wedi cerdded milltiroedd o amgylch y maes yr wythnos hon tra'n darlledu ar raglenni Radio Cymru.
Dywedodd wrth Cymru Fyw: "Mae wedi bod yn wythnos ddi-fai, hyfryd a chroeso arbennig gan bawb".

Fe wnaeth Côr Ffrindiau Melin Gruffydd godi gwên yn y Pafiliwn yn ystod cystadleuaeth côr lleisiau soprano ac alto.
Dyma flas o'u haddasiad o gân adnabyddus gan Electric Light Orchestra, yn arbennig ar gyfer Eisteddfod y Garreg Las.
Mae Dafydd yn rhan o griw darlledu yr Eisteddfod, ac mae'n brysur yn cadw trefn ar y corau merched ar hyn o bryd!
Cofiwch fod modd gwylio holl gystadlu'r Pafiliwn yn ddi-dor ar wasanaeth Sedd yn y Pafiliwn ar iPlayer ac S4C Clic.


Mae'n amser cinio ar y maes.
Mae Fflur o Gaerdydd gweithio'n gwerthu mefus gyda siocled. Dywedodd fod y stondin wedi bod yn boblogaidd iawn gyda phlant yn ystod yr wythnos.

Ymwelwyr yn aros i brynu bwyd ar y maes brynhawn dydd Iau
Yn ystod ei sesiwn gyda Beti George mae'r cyn farnwr, Nic Parry wedi sôn am sut bu ei waith darlledu yn ddihangfa iddo yn ystod ei yrfa.
Wrth gyfeirio at achosion dirdynnol yr oedd wedi gweithio arnyn nhw, meddai: "Un o'r cryfderau sydd gen i, alla'i ddelio gyda rhywbeth - ar y pryd mae'n ddirdynnol ac fe allai symud o allan o fy meddwl. Mae angen i chi neud, achos mae'r nesaf yn dod.
"Mae 'na fwy o bwysau ar farnwyr, mae 'na fwy o farnwyr nawr yn dioddef o iselder ac yn colli gwaith. Ond mae gen i'r gallu yna, a falle bod y darlledu yn help hefyd, fod y ddihangfa yna".

Wrth i git newydd tîm rygbi Cymru gael ei ddatgelu am y tro cyntaf ar y maes, fe gafodd Aled Hughes sgwrs gyda Gareth Thomas a Kieran Hardy, dau o chwaraewyr Cymru.
"Ni'n hapus gyda'r cit newydd - mae'n gyfforddus iawn i'w wisgo" meddai Gareth.
Fe eglurodd Kieran fod elfennau o ail git y tîm, sef y crys â dyluniad gwyn wedi ei ysbrydoli gan elfennau o hanes Cymru.
Gwrandewch yn llawn isod.
Mae Rhydian o Lan Ffestiniog wedi hen flino ateb yr un cwestiwn dro ar ôl tro ar y maes, felly mae wedi prynu bag i wneud y gwaith drosto...
"Mae'r bag wedi dod i mewn yn handi, dwi'n cael arbed ateb y cwestiwn!" meddai.


Cafodd Cymru Fyw sgwrs gyda Tudur Dylan ar y maes yn fuan wedi'r cyhoeddiad ei fod wedi'i ethol yn Archdderwydd nesaf Gorsedd Cymru.
Meddai: "Mae o'n fraint. Mae o'n fraint a nerfusrwydd wrth gwrs, achos mae rhywun yn dilyn ôl troed pobl fel Myrddin ap Dafydd a Mererid Hopwood.
"Ond yr unig beth i'w ddweud ydi na'i drio 'ngorau yn y gwaith.
"Dwi'n falch mai dim ond tair mlynedd ydi o. Dyna fo, mae rhywun yn cael y sac ar ôl tair mlynedd a bydd hynny'n fy siwtio i'n iawn!"
Mae canlyniadau cyntaf y dydd o gystadlu'r Pafiliwn wedi cael eu cyhoeddi.
Llongyfarchiadau mawr i Erin Fflur Jardine am ennill y Rhuban Glas offerynnol 16 ac o dan 19 oed.
Mae mwy o ganlyniadau ac uchafbwyntiau fideo yma.

Mae Beti George yn holi Nic Parry, Llywydd Llys yr Eisteddfod ar y maes ar hyn o bryd.
Bydd y sgwrs yn cael ei darlledu mewn rhifyn arbennig o Beti a'i Phobol yn fuan.


Roedd drysau Maes B yn agor am y tro cyntaf neithiwr.
Yn perfformio ar y brif lwyfan roedd Tonnau, Tew Tew Tennau a Candelas tra bod Allfa, Breichiau Hir a DJ Moonshine ar lwyfan Tacsi i'r Tywylwch.
Dyma rai lluniau o'r noson.
Ffynhonnell y llun, Sam Stevens/Maes B
Ffynhonnell y llun, Sam Stevens/Maes B
Ffynhonnell y llun, Sam Stevens/Maes B
Ffynhonnell y llun, Sam Stevens/Maes B
Ffynhonnell y llun, Sam Stevens/Maes B