Crynodeb

  1. Llwyfan Encore yn denu'r dorfwedi ei gyhoeddi 12:58 GMT+1 1 Awst

    Dyma rai golygfeydd o babell Encore, sy'n llwyfan ar gyfer perfformiadau ymlaciol a chynnes.

    Mae amserlen holl lwyfannau'r maes yma, dolen allanol.

    Côr Hafodwenog yn ymarfer cyn cystadlu
    Disgrifiad o’r llun,

    Côr Hafodwenog yn ymarfer cyn cystadlu

    Gwawr Edwards yn perfformio
    Disgrifiad o’r llun,

    Gwawr Edwards yn perfformio

  2. Yr Arglwydd Rhys yn cyrraedd y Maes wrth i'r Eisteddfod ddathlu 850wedi ei gyhoeddi 12:44 GMT+1 1 Awst

    I ddathlu cwblhau Castell Aberteifi ym mis Rhagfyr 1176 cafodd cystadleuaeth arbennig ei chynnal ymhlith beirdd a cherddorion o dan nawdd yr Arglwydd Rhys ap Gruffydd.

    Er nad oedd y gair 'Eisteddfod' yn cael ei ddefnyddio'n gyffredin tan sawl canrif yn ddiweddarach, mae'r digwyddiad yn cael ei ystyried fel un a wnaeth ragflaenu yr Eisteddfod Genedlaethol.

    Yn gynharach yn yr haf bu pyped Yr Arglwydd Rhys yn teithio trwy drefi a phentrefi lleol Eisteddfod y Garreg Las am wythnos gyfan.

    A heddiw mae e wedi cyrraedd y Maes.

    Rhaid cael llun o ymweliad yr Arglwydd Rhys
    Disgrifiad o’r llun,

    Rhaid cael llun o ymweliad yr Arglwydd Rhys

    rhys
  3. Golwg ar y Maes o uchodwedi ei gyhoeddi 12:36 GMT+1 1 Awst

    Maes

    Un o'r cwestiynau cyntaf wrth gyrraedd y Maes bob blwyddyn yw 'sut faes yw e?'

    Wel dyma gipolwg o'r awyr.

    Yn ôl un stondinwr mae digon o le ar y Maes - mae'r stondinau gyda'i gilydd mewn un lle, y stondinau bwyd gyda'i gilydd mewn man arall a Llwyfan y Maes ar y naill ochr a'r Pafiliwn ar yr ochr arall.

  4. Mae Radi wedi'i choroni'n barod!wedi ei gyhoeddi 12:34 GMT+1 1 Awst

    Mae Radi o Groeslan ger Llandysul wedi hel sawl sticer ac wedi'i choroni.

    Ddydd Llun fe fydd prifardd yr Eisteddfod yn cael ei goroni - y testun eleni oedd 'Adnabod'.

    Damian Walford Davies fydd yn traddodi'r feirniadaeth.

    Yn ôl un o'r beirniaid mae 41 wedi ymgeisio.

    Radi
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Radi, 6 oed o Groeslan, eisoes wedi'i choroni

  5. Amser cinio ar y maeswedi ei gyhoeddi 12:26 GMT+1 1 Awst

    Ffion, Leah, Michael, Menna a Mared o Tudraeth a Chwm Gwaun
    Disgrifiad o’r llun,

    Ffion, Leah, Michael, Menna a Mared o Tudraeth a Chwm Gwaun

    Mae'r criw yma'n mwynhau eu cinio wrth edrych ymlaen at wythnos fawr. Bydd Mared yn rhan o'r ddawns flodau a Leah yn llawforwyn yn ystod prif seremonïau’r Pafiliwn.

    Mae'r ddwy wedi bod yn brysur yn ymarfer dros yr wythnosau diwethaf a roedden nhw'n llawn canmoliaeth o'u hathrawes, Sioned Page Jones sydd wedi arwain yn 'rili gwd!'.

    Platiau Bach, Aberteifi
    Disgrifiad o’r llun,

    Dyma'r tro cyntaf i Fwyty Platiau Bach o Aberteifi fod â stondin arlwyo yn yr Eisteddfod.

    Gwenan a Lowri
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Gwenan a Lowri wedi bod yn brysur iawn yn y cwt hufen iâ, wrth i Eisteddfodwyr fanteisio ar y tywydd da.

  6. Gwyliwch gystadlu'r Pafiliwn yn fywwedi ei gyhoeddi 12:25 GMT+1 1 Awst

    Mae cystadlu'r dydd wedi dechrau yn y Pafiliwn a gallwch wylio'r cyfan yn ddi-dor ar iPlayer neu ar S4C Clic, dolen allanol.

    Yn hwyrach heddiw, bydd canlyniadau ac uchafbwyntiau fideo o gystadlaethau'r dydd i'w gweld ar Cymru Fyw.

    Sedd yn y Pafiliwn
  7. Golffiwr y dyfodol ym mhrysurdeb Pentre'r Garreg Las?wedi ei gyhoeddi 12:24 GMT+1 1 Awst

    Eisteddfod
    Disgrifiad o’r llun,

    Ethel, 2 oed, o Sir Benfro yn cael tro ar y golff

    Eisteddfod
    Eisteddfod
    Eisteddfod
  8. Angen gwneud 'penderfyniadau amhoblogaidd' oherwydd costau cynyddolwedi ei gyhoeddi 12:13 GMT+1 1 Awst

    Ar ddiwrnod cyntaf yr Eisteddfod Genedlaethol mae Cadeirydd Bwrdd yr Eisteddfod wedi rhybuddio bod angen gwneud "penderfyniadau amhoblogaidd" oherwydd costau cynyddol.

    Mewn cynhadledd i’r wasg dywedodd Nic Parry fod angen gwneud penderfyniadau sy’n “seiliedig ar y realiti economaidd".

    “Mae yna broblemau dwi’n trio sortio nhw efo gwên ar fy ngwyneb. Ond beth dwi wedi deffro iddo fo ydy’r ffaith fod hwn yn fusnes mawr, busnes miliynau o bunnau.

    "Da ni’n gorfod gwneud penderfyniadau busnes. Ni’n delio efo pres cyhoeddus. Mae’r ymwneud mae’r sefydliad yma’n gorfod gwneud efo Llywodraeth a phartneriaid yn rhywbeth mae'n rhaid i ni neud."

    Nic ParryFfynhonnell y llun, Aled Llywelyn

    Ychwanegodd fod yr Eisteddfod Genedlaethol yn “rhywbeth gwerthfawr iawn i’w warchod, ond mae’n rhaid iddi gael ei gwarchod yn y ffordd iawn.”

    “Weithiau mae ‘na benderfyniadau sydd ddim mor boblogaidd yn cael eu gwneud ond dyna’n cyfrifoldeb ni fel ceidwad pwrs cyhoeddus ac fel rhai sy’n goflau am sefydliad mor unigryw.

    “Y gwir amdani ydy mai costau byw yn cynyddu mae’n costau ni yn cynyddu, mae costau busnes yn cynyddu a chostau tanwydd.

    “Hefyd costau tracfyrddau- 'taisai ni angen mwy byddech chi’n cael braw o wybod faint fyddai’r cynnydd. ‘Da ni fel corff sy’n gyfrifol am arian cyhoeddus yn gorfod rheoli hynny.”

    Cafodd Nic Parry, sy'n gyn-farnwr, ei benodi yn Llywydd y Llys a Chadeirydd Bwrdd yr Eisteddfod yn 2025 wedi proses recriwtio agored..

  9. Mari Grug: 'Golygu'r byd cael fy newis gan y bobl leol'wedi ei gyhoeddi 12:09 GMT+1 1 Awst

    Mae'n mynd i fod yn wythnos brysur iawn i Mari Grug, Llywydd Eisteddfod y Garreg Las.

    Wrth siarad â Cymru Fyw fore Sadwrn, meddai: "Mae cael bod yn Llywydd yn Eisteddfod y Garreg Las yn anrhydedd enfawr.

    "Mae cael fy newis gan y bobl leol, achos bo' fi yn rhoces leol - dwi'n rhoces o Fynachlog Ddu yng ngogledd sir Benfro - yn golygu'r byd i fi.

    Gwyliwch y sgwrs isod ⬇️

    Disgrifiad,

    Mari Grug cyn iddi annerch torf y pafiliwn brynhawn Sadwrn

  10. Artist o Dyddewi yn ennill y Fedal Aur am Gelfyddyd Gainwedi ei gyhoeddi 12:01 GMT+1 1 Awst

    SaraFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae gwaith Sarah yn adrodd straeon o'i chynefin

    Yn hwyrach ddydd Sadwrn bydd y Fedal Aur am Gelfyddyd Gain yn cael ei chyflwyno i'r artist amlgyfrwng Sarah Williams o ardal Tyddewi.

    Ganwyd Sarah Williams yn Sir Benfro ac aeth i Ysgol Gynradd Croesgoch, Hwlffordd ac yna Ysgol Uwchradd Tyddewi.

    Ar ôl cwblhau cwrs sylfaen yng Ngholeg Celf a Thechnoleg Caerfyrddin aeth ymlaen i astudio BA yn y celfyddydau cain ym Mhrifysgol Aberystwyth.

    Erbyn hyn mae'n gweithio o'i stiwdio ger Niwgwl.

    Mae'n artist ers dros 30 mlynedd ac wedi arddangos ei gwaith mewn nifer o orielau ar draws Cymru, ond eleni yw'r flwyddyn gyntaf iddi arddangos ei gwaith yn Y Lle Celf ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol.

    SarahFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
    Gwaith Sarah Williams ar y Maes
    Disgrifiad o’r llun,

    Gwaith Sarah Williams ar y Maes

  11. Sgwrs â rhieni balch Mari Grug: 'Wythnos brysur tu hwnt i'n teulu ni'wedi ei gyhoeddi 11:55 GMT+1 1 Awst

    Ann, Cerwyn a Gwenan
    Disgrifiad o’r llun,

    Ann, Cerwyn a Gwenan yn falch bod yr Eisteddfod yn eu hardal

    Mae hi'n wythnos arbennig i Ann a Cerwyn Davies o Fynachlog Ddu, sef rhieni Llywydd yr Eisteddfod, Mari Grug. Dywedodd Ann wrth Cymru Fyw:

    "Mae'n wych bod yr Eisteddfod yn Llantwd a ry'n i yn rhieni balch iawn. Rydyn ni'n edrych ymlaen at gefnogi Mari yn ystod ei hwythnos brysur.

    Fy mrawd John Cwmbetws Davies yw Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith hefyd felly mae'n wythnos tu hwnt o brysur i'n teulu ni."

    Ychwanegodd Cerwyn: "Fe ges i fy enwi ar ôl Foel Cwm Cerwyn, bryncyn sydd i'w weld o'r maes. Mae'r maes mewn llecyn braf iawn."

    Mae eu ffrind Gwenan Powell o Rydlewis hefyd yn "hynod falch" bod yr Eisteddfod yn eu bro.

  12. Dewch i ŵyl Llantwd, da chiwedi ei gyhoeddi 11:52 GMT+1 1 Awst

    Y croeso ym mro'r EisteddfodFfynhonnell y llun, Sian Jones
    Disgrifiad o’r llun,

    Y croeso ym mro'r Eisteddfod

    Ceri Wyn Jones yw awdur y cywydd croeso eleni a dyma i chi rai cwpledi sy'n cyfleu bwrlwm y croeso.

    A wês whant dod i Lantwd,

    I ŵyl pob gŵyl? Wês, glei Gwd...

    Yn fyddin dangnefeddus,

    wrth ysgwydd yr Arglwydd Rhys,

    dewch i ŵyl Llantwd, da chi,

    dewch â'ch bryd ar gydgodi

    tŷ sydd gystal â phalas,

    y gaer glyd o garreg las.

    Ceri Wyn Jones
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r Prifardd Ceri Wyn Jones wedi ennill Cadair a Choron yr Eisteddfod Genedlaethol

  13. Cadw'r Maes yn lân - gwaith pwysig!wedi ei gyhoeddi 11:45 GMT+1 1 Awst

    Wrth i'r Maes lenwi mae gwaith y ddau yma yn prysuro.

    Mae Kieran a Brandon ymhlith y rhai sy'n cadw'r Maes yn lân.

    k a b
  14. Ymlacio ar ôl cystadluwedi ei gyhoeddi 11:40 GMT+1 1 Awst

    Mae Band Pres Bwrdeistref Casnewydd yn ymlacio ar y Maes tra'n aros am ganlyniad cystadlaethau'r ail a'r thrydedd adran.

    Yn ôl Molly, fu'n chwarae rhan unigol ar y corned: "Rydyn ni wedi dod oddi ar y llwyfan yn fodlon iawn gyda'n perfformiad.

    "Roedd chwech yn cystadlu i gyd a dwi'n hapus gyda fy rhan solo."

    Band Pres Bwrdeistref Casnewydd
  15. Amser cinio? Mae diwrnod rhai wedi dechrau'n gynnar!wedi ei gyhoeddi 11:34 GMT+1 1 Awst

    Y plismyn lleol yn mwynhau crempog
    Disgrifiad o’r llun,

    Y plismyn lleol yn mwynhau crempog

    Mae'r teulu yma o Gaerdydd yn mwynhau diwrnod cyntaf y Brifwyl
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r teulu yma o Gaerdydd yn mwynhau diwrnod cyntaf y Brifwyl

  16. Croeso mawr yn Aberteifi - 'Byddwch chi 'na whap!'wedi ei gyhoeddi 11:26 GMT+1 1 Awst

    AberteifiFfynhonnell y llun, Rhidian Huw Evans

    Mae tref Aberteifi yn hynod o falch bod y Brifwyl eleni yn agos iawn i'w chartref cyntaf - sef yn y castell yn 1176.

    Ac oes mae 'na groeso mawr yn y dref yn ne Ceredigion - sydd ond ychydig o filltiroedd o Lantwd.

    ArwyddFfynhonnell y llun, Rhidian Huw Evans
    AberteifiFfynhonnell y llun, Rhidian Huw Evans
  17. Carys Ifan: 'Yr ardal 'ma yn hawlio Gruff Rhys o'r Super Furries'wedi ei gyhoeddi 11:22 GMT+1 1 Awst

    "Mae wedi bod yn fraint, mae'n agos at ddwy flynedd ers i ni gychwyn ar y siwrne 'ma," medd Carys Ifan, yr is-gadeirydd diwylliannol yn y gynhadledd i'r wasg.

    "Mae'n ddydd Sadwrn prysur.

    "Dechre heddiw gyda bang o ran y cystadlu, ond wedyn ma' Super Furries ar lwyfan y maes am y ro cyntaf ers 30 mlynedd".

    Dywedodd bod yr ardal yma yn "hawlio" Gruff Rhys fel un o'r ardal "achos gath e ei eni yn Hwlffordd!

    Dywedodd y bydd digon o amser i bobl fynd o wylio Sioe yr Eisteddfod 'Sefyll ar y Sgwâr' yn gyntaf ac yna i weld y Super Furries a fydd yn cychwyn am 21:20 heno.

    Gruff RhysFfynhonnell y llun, Getty Images
  18. Y gronfa leol wedi codi mwy o arian nag unrhyw un arall yn hanes y Brifwylwedi ei gyhoeddi 11:19 GMT+1 1 Awst

    Disgrifiad,

    Dywed John Davies bod y gefnogaeth wedi bod yn 'gampwaith rhyfeddol'

    Mae cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las yn dweud fod pobl yr ardal wedi codi mwy o arian nag unrhyw gronfa leol arall yn hanes y Brifwyl.

    Ym mis Mehefin dywedodd John Davies, bod £515,000 yn y coffrau a bellach mae'r swm dros £530,000.

    £400,000 oedd y targed ariannol a osodwyd ar gyfer y tair sir sy'n rhan o Eisteddfod y Garreg Las.

    "Braf oedd cyrraedd y lan yn saff heb unrhyw fad achub," ychwanegodd John Cwmbetws.

    Mae'r Eisteddfod wastad wedi pwysleisio nad cystadleuaeth yw hi rhwng ardaloedd gan ei bod hi'n haws codi arian mewn rhai ardaloedd na'i gilydd.

    Gorsedd y Beirdd yng NghrymychFfynhonnell y llun, Ceri Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Gorsedd y Beirdd yng Nghrymych

  19. Tatws am ddim ar y Maes - neu 'Tato newy' Sir Benfro' falle!wedi ei gyhoeddi 11:13 GMT+1 1 Awst

    Mae'r Eisteddfod yn fan da i gael bathodyn neu feiro am ddim.

    Yn sir y tato newy' - dyw hi ddim yn syndod efallai bod tatws am ddim ar y Maes!

    tatws
  20. Tair sir yn cydweithio am y tro cyntaf erioedwedi ei gyhoeddi 11:05 GMT+1 1 Awst

    Mae'r Brifwyl eleni yn un go hanesyddol - yn dathlu pen-blwydd 850 ond hefyd mae'r brifwyl yn torri tir newydd wrth i dair sir gydweithio am y tro cyntaf.

    "Roedd dewis y safle yn bwysig iawn," meddai John Davies, cadeirydd y pwyllgor gwaith.

    "Mae yn sir Benfro, ond mor agos â phosibl at Geredigion (Aberteifi oedd cartref digwyddiad tebyg yn 1176).

    "Am y tro cyntaf erioed, mae tair sir yn cydweithio'n llawn ar drefniadau'r Eisteddfod.

    "Mae'r drindod sirol wedi gweithio'n wych."

    Arwydd CroesoFfynhonnell y llun, Catrin Jones