Crynodeb

  1. Ciw i'r pafiliwn i weld y corau - 10 côr yn cystadluwedi ei gyhoeddi 14:41 GMT+1 1 Awst

    ciw

    (isod) Mae Gerallt Rhys Jones a Sara Meredydd o Gemaes a Phenegoes, Machynlleth - cartref eisteddfod 2027 yn ciwio i fynd i weld cystadleuaeth y corau yn y pafiliwn ac yn gobeithio am lwc dda i Aelwyd Penllys.

    Gerallt Rhys Jones a Sara Meredydd o Gemaes a Phenegoes, Machynlleth - cartref eisteddfod 2027 yn ciwio i fynd i weld cystadleuaeth y corau yn y pafiliwn ac yn gobeithio am lwc dda i Aelwyd Penllys
    Disgrifiad o’r llun,

    Gerallt Rhys Jones a Sara Meredydd o Gemaes a Phenegoes, Machynlleth

  2. Pwy sy'n cofio enillwyr y prif gystadlaethau yn 1976?wedi ei gyhoeddi 14:34 GMT+1 1 Awst

    Yn sgil gwahardd Dic Jones o gystadleuaeth y gadair, Alan Llwyd a enillodd y goron a'r gadair - dyma'r eildro iddo gyflawni y dwbwl. 'Troeon Bywyd' oedd testun ei gerddi ar gyfer y Goron.

    'Nid Mudan mo'r Môr enillodd y Fedal Ryddiaith o waith Marged Prtichard o Finffordd ger Porthmadog.

    Ni chyflwynwyd yr un ddrama hir i'w hystyried ar gyfer Tlws y Ddrama.

    nid mudan
  3. Lle arbennig yn yr Eisteddfod eleni i awdl y Gwanwynwedi ei gyhoeddi 14:26 GMT+1 1 Awst

    Mae aelodau'r corau cerdd dant yn hen gyfarwydd bellach â rhannau o awdl 'Y Gwanwyn' Dic Jones gan mai perfformio detholiad o'r awdl yw'r gystadleuaeth i gôr cerdd dant dros 20 mewn nifer.

    Awdl Dic Jones oedd ffefryn beirniaid y gadair yn Eisteddfod Aberteifi yn 1976 ond gan fod Dic yr Hendre yn aelod o Bwyllgor Llenyddol yr Eisteddfod cafodd ei wahardd o'r gystadleuaeth a chadeiriwyd Alan Llwyd a oedd hefyd yn deilwng.

    Yn sicr bydd cryn ganu ar y geiriau 'Bydd gwanwyn a bydd geni'n dragywydd' nos Wener.

    Mae chwech o gorau yn cystadlu - sef Côr Tôn-teg, Côr Cymunedol Llanuwchllyn a'r Cylch, Côr Merched Ystum Taf, Côr Merched Llangwm, Lleisiau Gwyddno a Lleisiau Tywi.

    Yn y Babell Lên fore Gwener cyfle i glywed teulu a ffrindiau Dic Jones yn hel atgofion amdano ar y maes ddydd Mercher bydd perfformiad o'r awdl gyfan.

    Dic JonesFfynhonnell y llun, bbc
  4. Wythnos brysur i'r arwyddfardd - ond mae'n edrych ymlaenwedi ei gyhoeddi 14:16 GMT+1 1 Awst

    Arwyddfardd Gorsedd y Beirdd yn edrych ymlaenFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
    Disgrifiad o’r llun,

    Arwyddfardd Gorsedd y Beirdd yn edrych ymlaen

    Cafodd y Parchedig Beti Wyn James ei phenodi yn Arwyddfardd Gorsedd y Beirdd yn 2022 a hi yw'r fenyw gyntaf erioed i ymgymryd â’r rôl.

    Yr Arwyddfardd sy'n gofalu am ddodrefn a regalia'r Orsedd.

    Mae'n gyfrifol am orymdeithiau'r Orsedd a chynorthwyo'r Cofiadur gyda chyfarwyddo'r seremonïau.

    Mae'n edrych ymlaen yn fawr - ac mae'r gwisgoedd yn barod ar gyfer gorseddogion profiadol a newydd.

    gwisgoedd yr orseddFfynhonnell y llun, LLun cyfrannydd
  5. Cadeirydd y pwyllgor gwaith: Y gronfa leol wedi codi £540,000wedi ei gyhoeddi 14:06 GMT+1 1 Awst
    Newydd dorri

    John Davies, Cwmbetws yw cadeirydd y pwyllgor gwaith eleni ac mae wedi bod yn gyfnod prysur iawn iddo fe a'i dîm.

    Mae e newydd gyhoeddi o'r llwyfan bod y gronfa leol eleni wedi cyrraedd £540,000 - y swm mwyaf y mae pwyllgor lleol wedi'i godi. Y nod a osodwyd oedd £400,000.

    Dyw'r byd eisteddfodol ddim yn ddieithr i John Cwmbetws gan fod ei fam a'i chwaer yn cystadlu.

    Yn Eisteddfod Aberteifi roedd e'n 13 oed ac yn gweithio fel 'runner' i'r prif stiward.

    Yn 1986 adeg Eisteddfod Abergwaun roedd e'n trefnu digwyddiadau gyda'r Ffermwyr Ifanc ac yn ystod Eisteddfod Tyddewi 2002 roedd e'n arweinydd Cyngor Sir Penfro.

    Mae wedi bod yn brofiad arbennig bod yn gadeirydd, meddai, ond beth fydd pawb yn ei wneud ar yr 8fed o Awst?!!!!

    John Cwm Betws
  6. Gwrando'n fyw ar BBC Radio Cymruwedi ei gyhoeddi 14:03 GMT+1 1 Awst

    BBC Radio Cymru

    Mae darlledu Radio Cymru o'r Eisteddfod wedi dechrau. Cliciwch ar frig y dudalen hon i ymuno ag Aled, Ffion a Carwyn.

    Maen nhw'n darlledu tan 17:30 heddiw gydag uchafbwyntiau'r cystadlu, perfformiadau byw a digonedd o hwyl yr Eisteddfod.

    Radio Cymru
  7. Anifail Anhygoel o Flewog yn crwydro'r maeswedi ei gyhoeddi 13:58 GMT+1 1 Awst

    Pan berfformiodd y Super Furry Animals yn yr Eisteddfod ddiwethaf, fe gyrhaeddon nhw yno mewn tanc.

    30 mlynedd yn ddiweddarach, maen nhw'n ôl i berfformio ar Lwyfan y Maes a gallwch wylio'r cyfan ar S4C heno am 21:15.

    Mae fideo ar gyfrif Instagram yr Eisteddfod yn awgrymu eu bod nhw'n barod yn crwydro'r maes...

    Nid yw’r post yma ar Instagram yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar Instagram
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges instagram

    Caniatáu cynnwys Instagram?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Instagram. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Instagram Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges instagram

    Ym mis Ebrill, fe sgwrsiodd Cymru Fyw â Dic Ben, un o ffrindiau y band am ei atgofion o'r ymaddangosiad eiconig hwnnw yn 1996.

    "Doedda nhw 'rioed 'di cael pres cyn hynny wedyn gafon nhw advance gan Creation oedd yn reit hael a 'nath nhw deud 'nawn ni brynu tanc'," meddai.

    "Sherman Tank oedd o dwi'n meddwl ac roedda nhw'n gorfod cario fo i'r Steddfod a festivals eraill ar gefn lori. Roedda nhw'n d'eud bod nhw'n gorfod dreifio fo ar hyd caeau achos doedda nhw ddim yn cael dreifio fo ar hyd lonydd, nath droi'n 'chydig o urban myth.

    "Dwi'n gwybod nath Don Henley o'r Eagles brynu fo ganddyn nhw yn y diwedd. Dwi'm yn meddwl bod o 'di clywed am y band ond mae o'n hel stwff milwrol."

  8. Y canlyniadau a detholiad o'r perfformiadau ar Cymru Fywwedi ei gyhoeddi 13:54 GMT+1 1 Awst

    BBC Cymru Fyw

    Mae'r canlyniadau cyntaf wedi'u cyhoeddi ac ar gael yma - hefyd blas o'r perfformiadau.

    Llongyfarchiadau i'r enillwyr a'r holl gystadleuwyr.

    Dathlu ar y maes
    Disgrifiad o’r llun,

    Brass@Bont o ardal Pontarddulais yn dathlu ar ôl cyrraedd y brig yng nghystadleuaeth Bandiau pres Dosbarth 4

    Arthur Siôn Evans
    Disgrifiad o’r llun,

    Arthur Siôn Evans, enillydd yr unawd o dan 12 oed

  9. 'Hwb mawr' i fusnesau lleol Crymych wrth i gigs Cymdeithas yr Iaith gael eu cynnal ynowedi ei gyhoeddi 13:54 GMT+1 1 Awst

    clwb CrymychFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

    Fe fydd gigs Cymdeithas yr Iaith yn cael eu cynnal yng Nghlwb Rygbi Crymych, rhyw bum milltir o faes yr Eisteddfod.

    Fe fydd artisiaid fel Cowbois Rhos Botwnnog, Jess, Tecwyn Ifan, Bwncath a Lowri Evans yn perfformio, a bws ar gael i gludo pobl nôl i'r maes carafanau ar ddiwedd y nos.

    Mae Owain Richards, Stiward Clwb Rygbi Crymych, yn dweud ei fod wedi rhoi rhybudd i'r bragdy y gallai fod angen mwy o gwrw erbyn diwedd yr wythnos!
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Owain Richards, Stiward Clwb Rygbi Crymych, yn dweud ei fod wedi rhoi rhybudd i'r bragdy y gallai fod angen mwy o gwrw erbyn diwedd yr wythnos!

    Yn ôl Owain Richards, Stiward Clwb Rygbi Crymych, fe fydd y brifwyl yn hwb mawr i fusnesau'r pentref.

    "Mae fe'n massive i ni fel clwb ac fel pentref i gael croesawu miloedd o bobl lawr i'r ardal.

    "Mae'n grêt i ni gael dangos beth mae Crymych ambwyti a ni'n edrych 'mlaen at gael y cyfle i gael digwyddiadau 'ma.

    "Mae'n amser tawel o'r flwyddyn heb rygbi.

    "Mae lot o drefnu staff a chwrw ac mae'n job i wybod faint o docynnau ni wedi gwerthu.

    "Fi wedi rhoi warning i'r brewery falle bydd eisiau mwy os byddwn ni yn dechrau rhedeg mas!

    "Gei di ddim lle gwell na Chrymych adeg Steddfod."

  10. Eisiau gwybod be sy'n digwydd pryd? Cofiwch am yr ap!wedi ei gyhoeddi 13:46 GMT+1 1 Awst

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    apFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru
  11. Yr Eisteddfod wedi rhoi chwystrelliad o egni a hyder i gymunedauwedi ei gyhoeddi 13:43 GMT+1 1 Awst

    croeso

    Fe osodwyd targed i'r gronfa leol o £400,000 gan yr Eisteddfod Genedlaethol, ond mae pobl leol bellach wedi codi dros £530,000.

    Un sydd wedi bod wrth galon y gwaith o godi arian at Eisteddfod y Garreg Las ydy Eurfyl Lewis o Langlydwen, fydd yn cael ei urddo i'r Orsedd eleni.

    Fe yw Is-Gadeirydd y Gronfa Leol.

    "Dw i wedi cael modd i fyw dros y flwyddyn a hanner diwethaf.

    "Mae'n rhoi chwystrelliad o egni a hyder i gymunedau," meddai..

    Eurfyl Lewis
    Disgrifiad o’r llun,

    Eurfyl Lewis yw Is-gadeirydd y Gronfa Leol

    "Mae digwyddiadau wedi eu cynnal dros Sir Benfro gyfan, de Ceredigion a gorllewin Sir Gâr.

    "Mae'r brwydfrydedd a'r bwrlwm wedi bod yn hollol heintus ac mae pobl wedi bwrw ati gydag afiaith ac asbri rhyfeddol," ychwanegodd Eurfyl Lewis.

    "Mae'n bwysig er mwyn tynnu cymunedau at ei gilydd.

    "Mae effaith Covid gyda ni o hyd i raddau, ond ymhobman 'dw i wedi gweld cynulleidfa yn dod mas ac yn cefnogi pob math o weithgareddau."

  12. Y llywydd eleni yn gyflwynydd y flodeuged yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi yn 2002wedi ei gyhoeddi 13:41 GMT+1 1 Awst

    Cafodd Mari Grug y llywydd anrhydeddus eleni, ei magu ar fferm ym Mynachlog-ddu, a'i haddysgu yn Ysgol y Preseli, Crymych, cyn graddio yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd a dechrau ar yrfa yn y cyfryngau.

    Roedd yn actores yn wreiddiol, yn y gyfres 'Darn o Dir', ond aeth ymlaen i gyflwyno'r rhaglen 'Planed Plant' cyn ymuno â thîm tywydd Newyddion S4C.

    Mae hi hefyd wedi cyflwyno rhaglenni o brif wyliau Cymru - Eisteddfod yr Urdd, y Sioe Fawr, yr Ŵyl Gerdd Dant, a'r Eisteddfod Genedlaethol - ond yn fwyaf adnabyddus fel un o gyflwynwyr y rhaglenni dyddiol 'Heno' a 'Prynhawn Da'.

    Mae'r gyflwynwraig boblogaidd o Sanclêr, sydd bellach yn llysgennad ar ran Ymchwil Canser Cymru, yn dal yn cael triniaeth canser.

    MariFfynhonnell y llun, S4C
    Disgrifiad o’r llun,

    Fe ddaeth podlediad Mari Grug, 1 mewn 2, yn fuddugol yng nghategori'r podlediadau Cymraeg yn 2025

    Mae gan Mari atgofion "hyfryd" o'r tro diwethaf i'r Eisteddfod Genedlaethol ymweld ag ardal y brifwyl eleni - hi oedd Cyflwynydd y Flodeuged yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi yn 2002.

    "Roedd honno'n wythnos brysur hefyd, gyda seremonïau'r Orsedd a'r cystadlu – a bod allan yn y nos yn mwynhau! Ac rydw i'n edrych ymlaen at gael chwarae rôl eleni eto a hynny fel Llywydd yr Ŵyl."

  13. Cryn edrych ymlaen at araith y llywydd Mari Grugwedi ei gyhoeddi 13:33 GMT+1 1 Awst

    Mae'r cystadlu wedi dechrau am 09:00 ac ymhlith y cystadlaethau cynnar roedd cystadlaethau y bandiau pres a chystadlaethau i blant dan 12.

    Am 13:45 bydd y seremoni agoriadol ac araith gan lywydd y brifwyl eleni sef Mari Grug.

    Dywedodd bod derbyn y gwahoddiad gan y pwyllgor gwaith "yn dipyn o sioc" a'i fod yn "anrhydedd fawr".

    Roedd y brifwyl eleni eisoes yn mynd i fod yn un arbennig iddi wedi iddi gael y newyddion y bydd yn cael ei hurddo â gwisg las yr Orsedd.

    Dywedodd nad oedd wedi disgwyl y gwahoddiad "ond i'r rheini sy'n fy adnabod, maen nhw'n gwybod bod yr Eisteddfod wedi bod yn rhan fawr o 'mywyd i erioed".

    "Cefais fy magu gydag Eisteddfod yr Urdd, ac yna, diolch i Marilyn Lewis, cefais fy nghyflwyno i'r Eisteddfod Genedlaethol gyda Chôr Newyddion Da. Wedyn, cystadlu gyda'r côr mewn cystadlaethau canu ac alawon gwerin, ac yn unigol yn llefaru."

    eisteddfod
  14. Sioc gweld pibell y diweddar Dic Jones - un o arwyr y Brifwyl eleniwedi ei gyhoeddi 13:28 GMT+1 1 Awst

    Mae lle amlwg i'r diweddar Brifardd ac Archdderwydd Dic Jones yn y Brifwyl eleni wrth i'r Eisteddfod nodi hanner can mlynedd ers ysgrifennu awdl Y Gwanwyn - ond awdl na enillodd y gadair gan nad oedd hawl gan Dic Jones, fel aelod o'r pwyllgor llenyddiaeth, i gystadlu.

    Disgrifiad,

    Gwraig a dwy o ferched Dic Jones yn y Llyfrgell Genedlaethol yn mynd drwy'r archifau

    Yn ddiweddar bu Twm Morys yn olrhain hanes Cadair 1976 mewn rhaglen arbennig o Llwyfan ac fel rhan o'r rhaglen aeth teulu y diweddar Dic Jones i weld rhai o'i drysorau yn y Llyfrgell Genedlaethol.

    Yn eu plith dyma ddod ar draws ei bîb a dyma hel atgofion melys!

    Ac ydi mae Dic a'i bibell yng Nghrymych - diolch i'r Yarnbombers lleol sydd wedi creu aelodau o'r Orsedd hefydFfynhonnell y llun, Ceri Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Ac ydi mae Dic a'i bibell yng Nghrymych - diolch i'r Yarnbombers lleol sydd wedi creu aelodau o'r Orsedd hefyd

    Gweddill yr Orsedd
    Disgrifiad o’r llun,

    Gweddill yr Orsedd

  15. ☀️ Y maes yn disgleiriowedi ei gyhoeddi 13:23 GMT+1 1 Awst

    Mae'r haul yn gwenu yn Llantwd, ac ymwelwyr yn mwynhau'r tywydd braf.

    Rhodri
    Disgrifiad o’r llun,

    Rhodri, 5 oed, yn goruchwylio’r maes

    Sandra a Huw o Garmel, Sir Gaerfyrddin
    Disgrifiad o’r llun,

    Sandra a Huw o Garmel, Sir Gaerfyrddin yn cael seibiant

    Alys o Rydaman
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd Alys o Rydaman yn edrych ymlaen at gystadlu yn y ddawns unigol heddiw

  16. Ymgyrch Positifrwydd Pinc Merched y Wawr wedi codi miloeddwedi ei gyhoeddi 13:18 GMT+1 1 Awst

    Merched y Wawr

    Mae'r criw yma o Glwb Gwawr Merched Hywel ar y maes yn hyrwyddo ymgyrch Positifrwydd Pinc, sydd wedi codi dros £60,000 i Ymchwil Canser Cymru.

    Clwb Gwawr Merched Hywel
  17. Y croeso yn hynod liwgar ar draws ardal yr Eisteddfodwedi ei gyhoeddi 13:15 GMT+1 1 Awst

    Mae pobl bro Eisteddfod Y Garreg Las wedi bod yn brysur yn addurno eu hardaloedd i estyn croeso cynnes i ymwelwyr o bell ac agos i faes y brifwyl yn Llantwd.

    Dyma gip ar rai o'r golygfeydd ar y ffordd i'r maes ac wrth grwydro gogledd Sir Benfro a'r cyffiniau.

    Mae'r Orsedd yn eu gwisgoedd cywir yn barod yng Nghwm GwaunFfynhonnell y llun, Enfys a Chris Howells
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r Orsedd yn eu gwisgoedd cywir yn barod yng Nghwm Gwaun

    Ydy wir, mae ysbryd Rebeca'n fyw yn yr Efail Wen o hyd!Ffynhonnell y llun, Ceirios ac Anthony Jenner
    Disgrifiad o’r llun,

    Ydy wir, mae ysbryd Rebeca'n fyw yn yr Efail Wen o hyd!

    WaldoFfynhonnell y llun, Emma Wright

    Mae Deri a'i thad-cu wedi creu arwydd sy'n deyrnged i un o gewri'r ardal, sef y bardd Waldo Williams, tu allan i'w cartref, Rhosaeron yn Llandysilio.

    Dyma gyn-gartref Waldo, a Mewn Dau Gae yw un o'i gerddi enwocaf. A choeliwch neu beidio... mae'r ddau gae a ysbrydolodd Waldo dros ffordd i Rosaeron!

    Mae yna dderwyddon yn aros yn eiddgar am fws i faes Llantwd yn EglwyswrwFfynhonnell y llun, Sian Jones
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae yna dderwyddon yn aros yn eiddgar am fws i faes Llantwd yn Eglwyswrw

  18. Yn wyneb haul llygad goleuni - yr ymdrechion ar fferm blodau haul ger y maeswedi ei gyhoeddi 13:09 GMT+1 1 Awst

    Baner yr Orsedd
    Disgrifiad o’r llun,

    Baner yr Orsedd

    Ddydd Llun bydd y faner hon yn cael ei harddangos unwaith eto wrth i'r Orsedd gyfarfod i urddo aelodau newydd ac yna ar gyfer seremoni'r Coroni.

    Un fferm sy'n sicr wedi croesawu wyneb yr haul yn ddiweddar yw fferm blodau haul Sir Benfro sydd ryw 1.5 milltir o'r Maes.

    Mae nhw wedi bod yn gelfydd iawn wrth dorri gwair... edrychwch ar y ddraig yna!

    DraigFfynhonnell y llun, Pembrokeshire Sunflower Farm
  19. 'Mae gweld Cymru i gyd yn dod i’n hardal ni yn rhywbeth arbennig iawn'wedi ei gyhoeddi 13:06 GMT+1 1 Awst

    Mae Fflur James wedi ei magu yn ardal Eisteddfod y Garreg Las, a hi yw Cadeirydd Maes B eleni.

    "Dwi mor gyffrous bod diwrnod cyntaf yr Eisteddfod wedi cyrraedd. Mae gweld Cymru i gyd yn dod i’n hardal ni yn rhywbeth arbennig iawn, a dwi methu aros i bawb weld y line-up ar Lwyfan y Maes a Maes B.

    "Dwi hefyd yn edrych ymlaen at fod yn rhan o sioe Sefyll ar y Sgwâr heno a nos Lun”

    Fflur James
  20. Whilibawan, panso a sopen - rhai o hoff eiriau Rhocesi Crymychwedi ei gyhoeddi 13:00 GMT+1 1 Awst

    BBC Radio Cymru

    Mae tafodiaith Sir Benfro yn unigryw ac ar hyd y blynyddoedd mae sawl ymdrech wedi bod i'w rhoi ar gof a chadw.

    Dyma hoff eiriau tafodieithol aelodau o gôr Rhocesi Crymych gyda pherfformiad byr o Gorwedd Gyda'i Nerth dan arweiniad Einir Dafydd.

    Mae eu cyfraniad yn rhan o ddwy raglen Crwydro'r Garreg Las ar Radio Cymru.

    Disgrifiad,

    Cyfle i ddysgu ambell air lleol gan aelodau côr Rhocesi Crymych