Crynodeb

  1. Gohebwyr Cymru Fyw mewn ysgolion yn y gogledd a'r de ...wedi ei gyhoeddi 09:04 GMT+1 13 Awst

  2. Mae Iolo yn gwenu - ar ei ffordd i Aberystwyth i astudio Cymraegwedi ei gyhoeddi 09:01 GMT+1 13 Awst

    Fe fydd Iolo, 17, o Ysgol Gymraeg Bro Edern yn ei throi hi tua'r gorllewin.

    Mae e'n edrych ymlaen i fynd i Brifysgol Aberystwyth i astudio Cymraeg ac all e ddim aros i ddechrau pacio!

    Disgrifiad,

    Canlyniad Lefel A

  3. Mamau balch hefyd yn Ysgol Gymraeg Bro Edernwedi ei gyhoeddi 08:58 GMT+1 13 Awst

    mamau

    Mae'n fore reit nerfus i rieni hefyd ond mae Rachel, Julia a Rhiannon yn dair mam balch iawn wedi i'w plant yn Ysgol Gymraeg Bro Edern gael canlyniadau da.

    A dyma rai o'r disgyblion yn agor yr amlen ac yn rhannu eu canlyniadau.

    bro edernFfynhonnell y llun, bbc
  4. Pennaeth Morgan Llwyd 'yn falch iawn' o'r myfyrwyrwedi ei gyhoeddi 08:54 GMT+1 13 Awst

    Er mai chweched bach iawn sydd yn Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam, gyda tua 70 wedi gwneud arholiadau Safon Uwch eleni, mae'r pennaeth, Iwan Owen-Ellis, "yn falch iawn" o'r holl ddisgyblion, meddai.

    Gyda mwy o fyfyrwyr 18 oed yng Nghymru wedi gwneud cais i fynd i'r brifysgol eleni, na llynedd, sut mae hyn yn cymharu â'r sefyllfa yn ei ysgol o?

    "Mae 'na gymysgedd yma ond faswn i'n deud fod y mwyafrif helaeth yn mynd ymlaen i'r brifysgol, llond llaw wedyn yn mynd ymlaen i fyd gwaith, a nifer yn tueddu i aros yn yr ardal."

    Iwan Owen-Ellis
  5. Mae Theo ar ei ffordd i Abertawe ac yn hapuswedi ei gyhoeddi 08:50 GMT+1 13 Awst

    “Dwi mor excited, wedi cael AAB ac yn mynd i Abertawe i astudio hanes!” meddai Theo, 18 oed, o Ysgol Bro Edern.

    Theo
    bro
    Disgrifiad o’r llun,

    Mwy o wenu ym Mro Edern

  6. Myfyrwyr yn derbyn eu canlyniadau yn Ysgol Olchfa, Abertawewedi ei gyhoeddi 08:46 GMT+1 13 Awst

    Mae chweched dosbarth yr ysgol ymhlith y mwyaf yng Nghymru gyda tua 550 o fyfyrwyr yn dod i ôl eu canlyniadau heddiw.

    Disgyblion Olchfa
    Olchfa
    Olchfa
  7. Mae'n fore da i Daisy - mae'n mynd i Brifysgol Caerefrogwedi ei gyhoeddi 08:41 GMT+1 13 Awst

    “Dwi mor emosyniol, dwi’n crynu i gyd. Dwi wedi cael mewn i’r brifysgol yn York i astudio Ffilm a Production. Fi mor falch a ma' teulu fi mor falch hefyd!” medd Daisy o Ysgol Gymraeg Bro Edern.

    Daisy a'u rhieni hapus wedi iddi dderbyn y canlyniadau yn Ysgol Gymraeg Bro Edern
    Disgrifiad o’r llun,

    Daisy a'i rhieni hapus wedi iddi dderbyn y canlyniadau yn Ysgol Gymraeg Bro Edern

  8. Pennaeth Bro Edern: 'Cyffro a nerfusrwydd gan bod y canlyniadau yn arwain at y cam nesaf'wedi ei gyhoeddi 08:36 GMT+1 13 Awst

    “Mae'n ddiwrnod cyffrous ond nerfus, wrth gwrs, i rai ar ôl blwyddyn o waith caled," medd Dennis Pugh, Pennaeth Ysgol Gymraeg Bro Edern.

    "Mae’n gallu bod yn fore nerfus hefyd achos bod gan y canlyniadau ran bwysig yn llwybr bywyd pobl – eu harwain nhw i’r cam nesaf yn eu bywyd neu yn eu gwaith – ond mae hynny hefyd yn elfen eitha cyffrous.”

    dennis pugh
  9. Y graddau yn ôl i'r hyn yr oedden nhw cyn y pandemigwedi ei gyhoeddi 08:35 GMT+1 13 Awst

    Ers 2024 mae graddau arholiadau yn debycach i'r hyn yr oedden nhw cyn pandemig Covid-19.

    Yn 2024 fe wnaeth y graddau uchaf ar gyfer Safon Uwch yng Nghymru ostwng wedi i’r drefn farcio mwy hael ers y pandemig ddod i ben.

    Yn 2025 roedd 10.5% o'r graddau yn A* tra bod 29.5% yn A* ac A o'i gymharu â 29.9% yn 2024.

    Yn 2023 roedd y ganran yn 34%.

    lefel AFfynhonnell y llun, PA Media
  10. Balchder yn Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsamwedi ei gyhoeddi 08:33 GMT+1 13 Awst

    Mae'n gohebydd Carwyn Jones yn Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam ben bore.

    Dywed Heledd Gwyn Stanford - Pennaeth y Chweched yno: "Mae hi wedi bod yn flwyddyn o waith caled, mae gennym ni griw bach, gweithgar a hyfryd sy'n cydweithio ac yn haeddu bob llwyddiant."

    "Mae 'na ganlyniadau da iawn... mae 'na rai 'dw i'n andros o falch ohonyn nhw. 'Da chi'n gweld y cynnydd mae nhw wedi neud ers iddyn nhw fod yn Morgan Llwyd."

    Heledd Gwyn Stanford - Pennaeth y Chweched yn Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam
    Disgrifiad o’r llun,

    Heledd Gwyn Stanford - Pennaeth y Chweched yn Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam

  11. Y canlyniadau ar y bwrdd yn barod yn Ysgol Gymraeg Bro Edernwedi ei gyhoeddi 08:33 GMT+1 13 Awst

    Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern hefyd yn barod i groesawu disgyblion ben bore.

    bro edern
  12. Yr olygfa ben bore yn Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsamwedi ei gyhoeddi 08:29 GMT+1 13 Awst

    Mae'n fore llawn cyffro a nerfau i ddisgyblion ac athrawon - dyma'r olygfa yn Ysgol Morgan Llwyd, Wrecsam ben bore.

    morgan llwyd
    morgan llwyd
  13. Mae'n ddiwrnod canlyniadau - croeso i'r llif byw!wedi ei gyhoeddi 08:29 GMT+1 13 Awst

    Mae'n fore hollbwysig i filoedd o ddisgyblion a myfyrwyr wrth iddyn nhw dderbyn canlyniadau arholiadau a chyrsiau.

    Ar draws y wlad fe fydd graddau Safon Uwch, Uwch Gyfrannol a chanlyniadau rhai cymwysterau galwedigaethol yn cael eu cyhoeddi.

    Am y diweddaraf o ran canlyniadau, yr ymateb a chyngor prifysgolion a swyddogion gyrfaoedd, arhoswch gyda ni.

    canlyniadauFfynhonnell y llun, Getty Images