Eryn â'i golygon ar wneud peirianneg mecanyddol... ar ôl cymryd blwyddyn allanwedi ei gyhoeddi 10:19 GMT+1 13 Awst
Astudiodd Eryn Williams, 18, o Brestatyn Mathemateg, Ffiseg, Bioleg a'r Bac yn Ysgol Glan Clwyd, gan ennill 3 A a B.
Mae hi am gymryd o leiaf un flwyddyn allan i weithio a theithio, gyda'r bwriad yn y pendraw i ddilyn gyrfa mewn peirianneg mecanyddol, un ai drwy fynd i'r brifysgol neu drwy wneud prentisiaeth.


















