'Rhywun yn mynd at y cyfarwydd ond yn gweld yr anghyfarwydd'wedi ei gyhoeddi 11:05 GMT+1 5 Awst
Yng nghynhadledd i'r wasg y bore dywedodd Betsan Moses, Prif weithredwr yr Eisteddfod, fod "ddoe yn ddiwrnod hyfryd".
"Mae 'na eiliadau eiconig yn yr Eisteddfod... un o'r rheina neithiwr oedd Hergest, heb chwarae ers 50 o flynyddoedd ac yn codi'r to," meddai.
"Dyna sy'n wych am yr Eisteddfod, rhywun yn mynd at y cyfarwydd ond yn gweld yr anghyfarwydd.
"Cystadlu yn anhygoel a dyna sy'n braf, pob un o'r nosweithiau wedi ei becynnu fel ei fod yn ffurf ar gyngerdd."




















