Crynodeb

  1. Cyhoeddi enillydd gwobr Dysgwr y Flwyddynwedi ei gyhoeddi 13:43 GMT+1 5 Awst

    Llongyfarchiadau i Jonathan Davies, enillydd Dysgwr y Flwyddyn 2026!

    Beirniaid y gystadleuaeth eleni oedd Karl Davies, Kevin Knox a Mirain Iwerydd.

    Mae'r enillydd yn derbyn Tlws Dysgwr y Flwyddyn a gwobr ariannol o £300.

    Mwy yma.

  2. Mwy o ymwelwyr y maeswedi ei gyhoeddi 13:33 GMT+1 5 Awst

    A thra fod gweithgareddau a pherfformiadau amrywiol yn cael eu cynnal ar hyd y maes, mae'r ymwelwyr yma'n gwneud y mwyaf o'r arlwy a'r tywydd da.

    Megan a Gwen o Sir Benfro
    Disgrifiad o’r llun,

    Megan a Gwen o Sir Benfro

    Sian Melangell ac Ewen
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd Sian Melangell ac Ewen o Rostryfan wedi mwynhau gwylio’r clocsio bore ‘ma

  3. Beth sy'n digwydd o amgylch y maes?wedi ei gyhoeddi 13:20 GMT+1 5 Awst

    Mae llu o weithgareddau'n cael eu cynnal ar y maes ar hyn o bryd.

    Dyma flas o beth sy'n digwydd:

    Dawns Gynhwysol Arts Care Gofal Celf
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r perfformiad yma ar lwyfan Theatr Stryd a Dawns yn rhan o arlwy Dawns Gynhwysol Arts Care Gofal Celf

    Sinemaes
    Disgrifiad o’r llun,

    Draw yn Sinemaes, mae dangosiad o ffilm arbennig am fywyd yr awdur Eigra Lewis Roberts

    Blêr yng nghaffi Maes B
    Disgrifiad o’r llun,

    Ac yng Nghaffi Maes B, mae Blêr wedi bod yn diddanu'r gynulleidfa

  4. Noson gofiadwy yn y Tŷ Gwerinwedi ei gyhoeddi 13:14 GMT+1 5 Awst

    Roedd y Tŷ Gwerin yn llawn i'r ymylon neithiwr wrth i aelodau gwreiddiol Hergest - Delwyn Siôn, Geraint Davies, Derec Brown ac Elgan Phylip Davies - ddod at ei gilydd i berfformio unwaith eto yn yr Eisteddfod.

    Y gig oedd ymddangosiad cyntaf Hergest ers noson ‘Tân y Ddraig’ yng Ngŵyl y Faenol ger Bangor ddiwedd Awst 2004.

    Cyn y perfformiad, dywedodd Delwyn: “Mae gennym atgofion melys iawn o’r Eisteddfod yn 1976. Roedd y tywydd mor braf, ac roedd ein caneuon yn siwtio’r tywydd i’r dim, felly rydym am ddod ‘nôl yn Tŷ Gwerin am un gig arall”.

    Dyma rai lluniau o'r noson.

    Hergest yn y Tý GwerinFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
    Hergest yn y Tý GwerinFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
    Hergest yn y Tý GwerinFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
  5. Ymgeiswyr Dysgwr y Flwyddyn yn barodwedi ei gyhoeddi 13:05 GMT+1 5 Awst

    Mae hanner awr i fynd tan y seremoni, ac mae'r pedwar sydd wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn edrych ymlaen.

    Rhestr fer Dysgwr y Flwyddyn
  6. 'O fewn brawddeg, roeddwn i'n gwybod fod rhywbeth mawr o'i le...'wedi ei gyhoeddi 13:01 GMT+1 5 Awst

    Ar raglen Tocyn, BBC Radio Cymru neithiwr, bu beirniaid Gwobr Goffa Daniel Owen yn trafod mwy am nofel a gynigwyd i'r gystadleuaeth a gaiff ei amau o fod wedi ei ysgrifennu gan dechnoleg deallusrwydd artiffisial.

    "O fewn brawddeg, roeddwn i'n gwybod fod rhywbeth mawr o'i le" meddai Llwyd Owen.

    "O fewn paragraff roeddwn i wedi anfon neges at fy nghyd-feirniaid yn gofyn a oeddwn i'n iawn i feddwl [fod AI wedi ei ddefnyddio]?"

    Ond a yw Llwyd yn meddwl y bydd ansawdd y dechnoleg yma'n gwella?

    "Mae'n anodd gwybod. Ni'n iaith leiafrifol... yn Saesneg mae llyfrau a ffilmiau wedi eu creu gan AI. Ond roedd hwn mor warthus, ni'n ddiogel am nawr!"

    Gwrandewch yn llawn isod.

  7. Jess ar y brigwedi ei gyhoeddi 12:50 GMT+1 5 Awst

    Yn gynharach, fe sonion ni am ddigwyddiad Eisteddfod y Cŵn a gafodd ei gynnal ar y maes bore heddiw.

    Dyma Jess, y ci buddugol gyda'r awdur Anne Cakebread a oedd yn arwain y digwyddiad. Mae Sally, perchennog Jess ar y chwith.

    Jess ar y maes
  8. Helen Prosser yn derbyn gwobr am gyfraniad eithriadol i’r sector dysgu Cymraegwedi ei gyhoeddi 12:37 GMT+1 5 Awst

    Wrth i'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ddathlu ei deng mlwyddiant, cafodd digwyddiad arbennig ei gynnal ar faes yr Eisteddfod neithiwr. Roedd y noson dathlu cyfraniad tiwtoriaid, arweinwyr a staff cefnogi ar draws y sector dysgu Cymraeg.

    Ac fe gafodd Helen Prosser tipyn o sioc wrth iddi gael ei gwobrwyo â Gwobr Cyfraniad Eithriadol i’r sector Dysgu Cymraeg.

    Bu Helen yn siarad ag Aled Hughes ar y maes heddiw. Dywedodd fod y wobr yn "sypreis hyfrd... mae'n fraint a dwi wedi fy llorio!"

    Gwrandewch ar ei hymateb yn llawn isod.

    Disgrifiad,

    'Y swydd orau yn y byd i gyd' - Gwobr am gyfraniad eithriadol i Helen Prosser

  9. Barod am Maes B?wedi ei gyhoeddi 12:24 GMT+1 5 Awst

    Ydych chi wrthi'n pacio ar gyfer Maes B?

    Dyma gyngor yr arbenigwyr am beth fydd ei angen arnoch chi!

  10. Mae'r maes yn brysurwedi ei gyhoeddi 12:19 GMT+1 5 Awst

    BBC

    Mae'n brysur iawn ar y maes ar hyn o bryd, ac mae gohebwyr Cymru Fyw wedi bod yn siarad â rhai o'r ymwelwyr.

    Lowri o Scouts Cymru gyda Megan, Joe ac Elen o Brifysgol Abertawe.
    Disgrifiad o’r llun,

    Lowri o Scouts Cymru gyda Megan, Joe ac Elen o Brifysgol Abertawe. Dywedodd y criw eu bod hefyd yn edrych ymlaen at berfformiad Bwncath yn Maes B heno

    Sheila o Lanbed a Gwenan o Aberystwyth
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Sheila o Lanbed a Gwenan o Aberystwyth yn ymweld â’r Eisteddfod bob yn ail diwrnod yr wythnos hon

  11. Sut i wylio a gwrandowedi ei gyhoeddi 12:08 GMT+1 5 Awst

    Mae sawl ffordd o ddilyn yr Eisteddfod Genedlaethol heddiw.

    Gwranewch ar ddarllediad Radio Cymru ar BBC Sounds neu ar frig y dudalen hon.

    Cliciwch yma i wylio holl gystadlu y Pafiliwn yn ddi-dor.

    Neu ewch draw i S4C ar deledu, Clic neu iPlayer er mwyn gwylio'r cyfan!

  12. 'Fi'n edrych ymlaen at Fleur de Lys, Bwncath a Candelas'wedi ei gyhoeddi 12:02 GMT+1 5 Awst

    Mae nifer o ymwelwyr y maes yn edrych ymlaen at noson agoriadol Maes B heno, ac mae Callum, Llion a Dylan o Grymych yn eu plith.

    Meddai Dylan: "Fi'n mynd am y tro cyntaf flwyddyn yma efo cwpwl o fois o Fro Teifi.

    "Fi'n edrych ymlaen at Fleur de Lys, Bwncath a Candelas."

    Callum, Llion a Dylan o Grymych
  13. Croeso i Maes Ci 🐕wedi ei gyhoeddi 11:52 GMT+1 5 Awst

    Eisteddfod y Cŵn

    Mae sesiwn hwyliog Teach Your Dog Welsh: Eisteddfod y Cŵn wedi ei chynnal ar y maes heddiw.

    Cafodd y sesiwn ei hysbrydoli gan y llyfr 'Teach your Dog Welsh' gan yr awdur a'r arlunydd lleol Anne Cakebread

    Roedd Miri a Catrin o Hen Golwyn wedi mynd ag Anni Twts i'r digwyddiad.

    "Mae Anni Twts yn hollol fyddar felly fydd hi ddim yn deall y commands ond da ni'n dysgu arwyddo iddi," meddai Catrin.

    Maen nhw wedi bod yn y Steddfod ers dydd Sadwrn ac yn mynd nôl am adref heddiw.

    Mae Miri yn edrych ymlaen at un peth cyn gadael.

    "Dwi isio drych efo fy enw i arno," meddai.

    Anni Twts
    Eisteddfod y Cŵn
  14. 'Pobl ddiddorol tu hwnt' yn ymgeisio am Ddysgwr y Flwyddynwedi ei gyhoeddi 11:46 GMT+1 5 Awst

    Roedd Donna Lewis, prif weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cymryd rhan yng nghynhadledd i'r wasg ar y maes bore heddiw. Dywedodd bod gwaith y ganolfan 'wedi ei drawsnewid' ers cychwyn degawd yn ôl.

    Dywedodd fod cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn un "frwd, sydd â phobl ddiddorol tu hwnt yn ymgeisio erbyn hyn".

    "Mae 'na bedwar gwych, diddorol a bydd yn wych i weld pwy fydd yn ennill y gystadleuaeth."

  15. Rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn 2026: Cwrdd â Paige Morganwedi ei gyhoeddi 11:37 GMT+1 5 Awst

    Paige MorganFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

    Yn ystod y bore, rydym wedi bod yn eich cyflwyno i'r ymsgeiswyr sydd wedi cyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn eleni. Dyma'r olaf o'r pedwar, sef Paige Morgan.

    Dydy Paige "ddim yn gwybod" pam yn union ei bod hi wedi dechrau dysgu Cymraeg, ond mae hi'n disgrifio'r daith fel "pleser pur".

    Er ei bod yn byw yn yr Unol Daleithiau, mae Ms Morgan yn ysgrifennu erthyglau i gylchgrawn Golwg, yn ysgrifennu straeon byrion a bellach yn dysgu cynganeddu.

    Dywedodd fod cyrraedd rownd derfynol Dysgwr y Flwyddyn eleni yn "fraint ofnadwy" a'i bod yn teimlo fel ei bod "wedi ennill yn barod".

    Ychwanegodd nad yw hi'n gallu esbonio pam iddi ddechrau dysgu'r iaith, er mai "dyna beth mae pawb eisiau gwybod".

    "Cyhyd a galla i gofio, roeddwn i wastad eisiau siarad Cymraeg," meddai.

    "S'dim clem 'da fi, rhyw ofalwr yn eglwys fy rhieni, rhyw lyfr o'r llyfrgell, rhyw raglen deledu efallai?

    "Ond y peth pwysig yw fy mod i'n gallu siarad Cymraeg bellach."

    Bydd enw enillydd cystadleuaeth Dysgwr y Flwyddyn yn cael ei ddatgelu yn y Pafiliwn am 13:30.

  16. Rhai o ymwelwyr y maeswedi ei gyhoeddi 11:33 GMT+1 5 Awst

    Mae Beti ac Efa o Rostryfan wedi gwisgo’n gall ar gyfer diwrnod gwyntog
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae Beti ac Efa o Rostryfan wedi gwisgo’n gall ar gyfer diwrnod gwyntog

    Gwenan a Tomos o'r Coleg Cymraeg yn crwydro’r maes, a'r ddau yn dweud eu bod yn edrych ymlaen yn eiddgar at noson agoriadol Maes B
    Disgrifiad o’r llun,

    Gwenan a Tomos o'r Coleg Cymraeg yn crwydro’r maes, a'r ddau yn dweud eu bod yn edrych ymlaen yn eiddgar at noson agoriadol Maes B

  17. Pwy ddaeth i'r brig ym Mrwydr y Bandiau Gwerin?wedi ei gyhoeddi 11:29 GMT+1 5 Awst

    Llongyfarchiadau mawr i Mantach am ddod i'r brig ym Mrwydr y Bandiau Gwerin.

    Y bandiau eraill fu'n cystadlu ar lwyfan y Tŷ Gwerin ddoe oedd San Halen, Ci Hir a Luned Elwyn.

    Mae Mantach yn ennill cyfle i recordio sesiwn ar gyfer BBC Radio Cymru a £600 yn rhodd gan Cymdeithas Trewyddel.

    Y beirniaid oedd Branwen Haf a Dafydd M Roberts.

    Disgrifiad,

    Cyhoeddi enillydd y bandiau gwerin yn Tŷ Gwerin

  18. Cadw pobl ifanc yn ddiogel 'yn greiddiol i'n gwaith ni efo Maes B'wedi ei gyhoeddi 11:24 GMT+1 5 Awst

    Hefyd ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Guto Brychan fod cadw pobl ifanc yn ddiogel "yn greiddiol i'n gwaith ni efo Maes B".

    "Dyna'r profiad cyntaf mewn gŵyl yn aml i nifer fawr o'r bobol sy'n aros yn Maes B, so ni isie 'neud yn siŵr bod e'n saff iddyn nhw, bod nhw'n mwynhau a bod e'n brofiad positif o ddod i'r Steddfod - a, gobeithio, rhywbeth iddyn nhw gario ymlaen i 'neud am flynyddoedd i ddod."

    Cyfeiriodd hefyd at babell les Maes B, sydd ar agor 24 awr y dydd.

    "Be' sy'n grêt yw mae lot o'r criw yn mynd i mewn yn y prynhnawn i gael charjo ffôns, neu i ymbincio ar y nos so mae'n golygu bod 'na gysylltiad.

    "Maen nhw 'di creu cysylltiad efo nhw yn gynt yn y dydd so os oes 'na unrhyw broblemau gyda'r nos maen nhw'n fwy parod i fynd draw [am gymorth]."

  19. Croeso Gwahanol ar Faes Bwedi ei gyhoeddi 11:21 GMT+1 5 Awst

    Arlwy Maes B

    I lawer o bobl ifanc sy'n dod i'r Eisteddfod, dyma ddiwrnod cyntaf go iawn yr ŵyl gan mai heno fydd noson agoriadol Maes B.

    Bydd Candelas, Tew Tew Tennau a Tonnau yn perfformio ar y prif lwyfan heno, tra bod Breichiau Hir, Alffa ac enillwyr cystadleuaeth Brwydr y Bandiau eleni ar ail lwyfan y safle.

    Sebona Fi oedd yr enw'r ail lwyfan y llynedd yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, ond Tacsi i'r Tywyllwch ei henw eleni.

    Gall ymwelwyr hefyd ddisgwyl croeso go wahanol wrth gyrraedd Maes B yn ôl rheolwr y safle, Guto Brychan. Meddai ar raglen Dros Frecwast:

    "Mae 'na waith celf fatha mynediad iddo efo cwpwl o actorion i dywys pobol i mewn i'r babell.

    "Dwi'n edrych ymlaen at weld sut ma' hwnna'n mynd i weithio a sut ymateb 'ma pobol yn mynd i gael iddo."

  20. Y Lle Celf yn boblogaiddwedi ei gyhoeddi 11:11 GMT+1 5 Awst

    Y Lle Celf

    Mae tipyn o ymwelwyr yn crwydro'r Lle Celf bore heddiw.

    Fel rhan o'r arlwy heddiw, bydd Gwobr Ifor Davies yn cael ei chyflwyno yno. Mae'r wobr yn cael ei dyfarnu i waith sy’n cyfleu ysbryd y frwydr dros iaith, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru

    Y Lle Celf
    Y Lle Celf