Crynodeb

  1. 'Dim digon o waith i'r iaith' - Galw am ddatblygu bro'r Eisteddfodwedi ei gyhoeddi 09:37 GMT+1 4 Awst

    Mae angen cynnwys bro'r Eisteddfod mewn unrhyw gynllun economaidd newydd ar gyfer y Gymru wledig fydd yn olynu Arfor, meddai cynghorydd.

    Fe wnaeth y llywodraeth ddiwethaf glustnodi miliynau o bunnau ar gyfer siroedd gwledig i hybu twf busnesau a datblygiad economaidd mewn ardaloedd ble mae dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg, sef Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Gwynedd ac Ynys Môn, ond doedd gogledd Sir Benfro ddim yn rhan o'r cynllun.

    Yn ôl y Cynghorydd Huw Murphy, "does dim digon o waith i'r iaith" yn yr ardal ac mae hi'n hollbwysig bod yr ardal yn rhan o gynllun newydd i hybu'r economi wledig.

    Dyw Llywodraeth Cymru ddim wedi cyhoeddi ei chynlluniau newydd eto, ond mae'n dweud bod yna fwriad i ddatblygu "strategaeth ddatblygu wledig wedi ei theilwra" a bod "cryfhau'r economi wledig yn flaenoriaeth".

    Darllenwch y stori yn llawn yma

    Cynghorydd Huw Murphy
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae'r Cynghorydd Huw Murphy yn dweud bod heriau amlwg ym mro'r Eisteddfod o ran cyfleoedd i bobl ifanc

  2. Edrych nôl ar ddydd Llunwedi ei gyhoeddi 09:28 GMT+1 4 Awst

    Gorsedd, y gerddoriaeth a'r Goron... sut beth oedd hi yn y Brifwyl ddydd Llun? Dyma oriel o luniau dydd Llun.

    Ac i weld pwy oedd yn fuddugol ar y llwyfan, ewch i'n tudalen canlyniadau i gael blas o'r cystadlu.

    Plant ar gerbyd dwr yr RNLI
    Disgrifiad o’r llun,

    Lara, Sholto a Toula-fern o Drefdraeth yn mwynhau stondin y bad achub

  3. Mae'r glaw wedi cyrraedd Llantwd y bore 'mawedi ei gyhoeddi 09:22 GMT+1 4 Awst

    arwydd eisteddfod
    Maes yr Eisteddfod
  4. Yn y bore mae ei dal hi!wedi ei gyhoeddi 09:15 GMT+1 4 Awst

    Ensemble y Waun Ddyfal yn ymarfer ar y Maes ben bore

    Ensemble y Waun Ddyfal
  5. Prif seremoni'r dydd: Gwobr Goffa Daniel Owenwedi ei gyhoeddi 09:10 GMT+1 4 Awst

    Medal Daniel OwenFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

    Seremoni Gwobr Goffa Daniel Owen fydd prif ddefod llwyfan y Pafiliwn yn Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las ddydd Mawrth.

    Mae'r wobr yn cael ei rhoi am nofel heb ei chyhoeddi heb fod yn llai na 50,000 o eiriau.

    Os bydd teilyngdod, bydd y nofelydd buddugol yn ennill medal a £5,000 sy'n rhoddedig gan bobl ardal y Preseli er cof am Martin a Meryl Lloyd, Cilgerran.

    Y beirniaid eleni yw Llwyd Owen, Geraint Evans a Meinir Wyn Edwards, a Nic Parry fydd yn arwain y seremoni.

  6. Sut mae cyrraedd Maes yr Eisteddfod?wedi ei gyhoeddi 09:05 GMT+1 4 Awst

    map

    Heb deithio i'r Maes eto? Neu'n dechrau cynllunio eich taith ar gyfer diwedd yr wythnos?

    Mae'r holl wybodaeth sydd ei angen arnoch chi yma ar wefan ac ap Cymru Fyw.

    Boed chi'n bwriadu teithio mewn car, ar fws neu ar drên - gallai'r erthygl yma eich rhoi ar ben ffordd.

  7. Croeso i ddydd Mawrth Eisteddfod y Garreg Laswedi ei gyhoeddi 09:03 GMT+1 4 Awst

    Croeso i'n llif byw ar ddydd Mawrth yr Eisteddfod Genedlaethol.

    Gydol yr wythnos mae gohebwyr Cymru Fyw yn crwydro'r maes er mwyn dod â'r newyddion diweddaraf i chi.

    Mae'n braf cael eich cwmni!

    Teulu yn yr EisteddfodFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol