Crynodeb

  1. Huw Llywelyn Davies yn holi'r cyn-ddyfarnwr Nigel Owens yn Y Babell Lênwedi ei gyhoeddi 11:53 GMT+1 4 Awst

    Roedd Y Babell Lên yn llawn dop i glywed beth oedd gan y cyn-ddyfarnwr Nigel Owens i'w ddweud wrth Huw Llywelyn Davies yn Y Babell Lên.

    Bu Huw yn holi Nigel am ei hunangofiant sy'n olrhain ei daith i frig y byd rygbi a chael ei gydnabod yn ddyfarnwr gorau'r byd.

    Nigel Owens yn y Babell Lên
  2. Wedi bore digon llwydaidd ar y Maes mae'r haul yn dechrau gwenu!wedi ei gyhoeddi 11:43 GMT+1 4 Awst

    y maes
    pobl mewn caffi ar y maes
  3. Sefyll ar y Sgwâr: 'Mae wedi bod yn waw'wedi ei gyhoeddi 11:36 GMT+1 4 Awst

    Nos Lun oedd noson olaf y sioe gerdd newydd sy’n dathlu gwaddol y band Ail Symudiad a recordiau Fflach yn Y Pafiliwn.

    Dywedodd Siwan Llynor, cyfawyddwr y sioe ar raglen Dros Frecwast, Radio Cymru: "Nes i godi bore 'ma a meddwl, mae e gyd drosodd!

    "Mae wedi bod yn waw. Mae'r cast a phobl y côr hefyd jyst wedi mwynhau ac ishe mynegi sut brofiad maen nhw wedi cael o fod yn rhan o brosiect côr yr Eisteddfod eleni, oedden ni gyd neithiwr yn meddwl beth ydan ni yn mynd i neud bob dydd Sul rŵan heb yr holl ymarferion.

    "Roedd yna bron i 300 yn y côr eleni ond roedd yr ymarferion mor rhwydd efo nhw."

    SEFYLL AR Y SGWAR

    Nod Siwan, Mari Elen a Nico Dafydd - y criw tu ôl i'r sioe - oedd parhau â gwaddol y ddau frawd, Richard a Wyn Jones o'r band Ail Symudiad.

    Ychwanegodd Siwan: "O'n i yn sbïo arno fo ar y noson gynta', nos Sadwrn. Mae jyst yn ddathliad o'r ardal, ond hefyd y ffordd roedd Ail Symudiad yn dathlu'r ardal a faint oedd yr ardal yn golygu iddyn nhw.

    "A pan dwi 'di bod yn crwydro yn Aberteifi ac yn siarad gyda hwn a'r llall mae pawb jyst yn dweud, 'dwi'n methu nhw'.

    "Mae wedi bod yn brofiad emosiynol i bawb sydd ynghlwm â fo, er bo' fi ddim o'r ardal ti'n teimlo bod gen i ddyletswydd i roi y sioe orau posib ac i ddathlu ardal."

    dan edwards
    Disgrifiad o’r llun,

    Roedd Dan Edwards, arweinydd côr Sefyll ar y Sgwâr, yn crwydro'r maes fore Mawrth

    Ac allan ar y maes fore Mawrth roedd Dan Edwards, cyfarwyddwr cerdd Ceredigion ac arweinydd côr Sefyll ar y Sgwâr.

    Dywedodd ei fod "wedi blino braidd bore 'ma ar ôl noson olaf wefreiddiol gan gast a chriw Sefyll ar y Sgwâr".

  4. Bois Y Clos yn diddanu y tu allan i babell Undeb Amaethwyr Cymruwedi ei gyhoeddi 11:27 GMT+1 4 Awst

    Bois y Clos yn diddanu ar y maes
  5. Gêm o golff wedi'r glawwedi ei gyhoeddi 11:22 GMT+1 4 Awst

    Mae Cai a Cadi o Fethlehem a Llandeilo newydd fod yn chwarae golff ar y maes, a nawr yn edrych ymlaen at wylio eu cefnither yn canu yn y pafiliwn

    Cai a Cadi
  6. Cowbois Rhos Botwnnog yn perfformio caneuon o'u halbwm newyddwedi ei gyhoeddi 11:20 GMT+1 4 Awst

    Roedd Cowbois Rhos Botwnnog yn perfformio ar Lwyfan y Maes brynhawn ddoe, a hynny ar ôl rhyddhau albwm newydd wythnos diwethaf.

    Fe wnaeth albwm diwethaf y band, 'Mynd â'r Tŷ am Dro' gipio gwobr Albwm Cymraeg y Flwyddyn yn Eisteddfod Genedlaethol 2024.

    Bu Ffion Emyr yn sgwrsio ag Aled o'r band cyn eu perfformiad ddoe. Dywedodd: "Fe gafodd Iwan lawdriniaeth ar ei galon ychydig flynyddoedd yn ôl, wedyn dwy flynedd yn ôl fe gafodd strôc.

    "Fe wnaeth o sgwennu'r caneuon yn eithaf sydyn wedyn, ac fe wnaethon ni eu recordio a'u rhyddhau yn sydyn.

    "Ryda ni ond newydd orffen recordio'r caneuon, a mwyaf sydyn maen nhw allan!".

    Bydd y band hefyd yn perfformio yn y Tŷ Gwerin nos Wener am 21:00.

    Gwrandewch ar y sgwrs yn llawn isod.

  7. Deallusrwydd artiffisial - 'Ni’n cadw ffydd yn ein cystadleuwyr'wedi ei gyhoeddi 11:12 GMT+1 4 Awst

    Eisteddfod Genedlaethol Cymru

    Yn y gynhadledd i’r wasg heddiw, dywedodd y prif weithredwr Betsan Moses y byddai’r Eisteddfod yn “gwirio argaeledd o ran defnydd” seddi’r Pafiliwn.

    Roedd ciwiau sylweddol i fynd i rai o ddigwyddiadau’r Pafiliwn ddoe, gan gynnwys ar gyfer seremoni’r Coroni, gyda rhai pobl yn gorfod cael eu troi i ffwrdd.

    “Bydd ‘na rai sesiynau lle mae ‘na alw sylweddol, ond mae rhai sydd ddim hefyd,” meddai Ms Moses.

    “Beth ‘dyn ni angen sicrhau yw bod y gofod yn barchus i bawb sy’n perfformio.”

    Gofynnwyd iddi hefyd am y drafodaeth gynyddol ynghylch defnydd o AI, ac a fyddai’r Eisteddfod yn gallu gwrthsefyll dylanwad hynny ar eu cystadlaethau.

    Cyfaddefodd Ms Moses nad oedd hi’n “arbenigwr ar AI”, gan ychwanegu: “Ry’n ni’n gofyn i gystadleuwyr barchu’r rheolau.

    “Ni’n cadw ffydd yn ein cystadleuwyr a’u bod nhw’n driw i’r broses.”

    betsan moses a gwenllian carr
    Disgrifiad o’r llun,

    Betsan Moses (dde) yn y gynhadledd i'r wasg fore Mawrth

  8. Pwy sy'n chwarae ar Lwyfan y Maes heddiw?wedi ei gyhoeddi 11:07 GMT+1 4 Awst

    Llwyfan y MaesFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
    Disgrifiad o’r llun,

    Pedair fydd yn cloi y perfformiadau ar lwyfan y maes nos Fawrth

    • Côr Meibion Blaenporth a Chôr Merched Bro Nest - 12:30
    • Côr Abergwaun - 14:00
    • Cyw a’i ffrindiau - 15:30
    • DJ Radio Sudd - 16:00
    • Cleif Harpwood - 16:30
    • Dewin - 17:50
    • Ciwb - 19:20
    • Pedair - 21:00

  9. Maes B yn agor heddiw!wedi ei gyhoeddi 11:01 GMT+1 4 Awst

    Bydd pobl ifanc yn dechrau cyrraedd Maes B y prynhawn yma, gyda’r maes gwersylla’n agor o heddiw ymlaen a’r gerddoriaeth fyw yn dechrau ddydd Mercher.

    Ymhlith y perfformwyr adnabyddus yn ystod yr wythnos fydd Eden a Bwncath, a bydd tair ardal gerddorol – y prif lwyfan, Tacsi i’r Tywyllwch, a Sebona Fi.

    “’Dan ni’n parhau i ddarparu’r profiad a’r adloniant cynta’ yna i bobl ifanc Cymraeg,” meddai curadur Maes B eleni, Tomos Lynch.

    “Mae ‘na lot o fandiau i ddod â’r torfeydd yna, a lot o gyfle i ddod o hyd i synau newydd hefyd.”

    Tomos Lynch
  10. 'Fydd y Babell Lên byth yr un peth heb Hedd Bleddyn'wedi ei gyhoeddi 10:51 GMT+1 4 Awst

    Hedd BleddynFfynhonnell y llun, Llun teulu

    Yn 87 oed bu farw'r bardd, saer maen a'r cyn-gynghorydd sir ym Mhowys, Hedd Bleddyn.

    Yn wreiddiol o Lanbrynmair, roedd wedi ymgartrefu ym Mhenegoes ger Machynlleth ar ôl ymddeol.

    Roedd yn ffigwr adnabyddus ym mywyd diwylliannol a chyhoeddus Sir Drefaldwyn am ddegawdau, gan wasanaethu fel cynghorydd sir annibynnol dros ardal Llanbrynmair ar Gyngor Sir Powys am gyfnod.

    Dywedodd Aled Griffiths, cyfaill i Hedd Bleddyn a chadeirydd Eisteddfod Genedlaethol 2027, wrth BBC Radio Cymru ei fod yn "yn fardd, yn gymeriad lleol hoffus iawn, ac yn ddyn busnes".

    "Ond yn fwy na hynny, oedd o'n ddyn poblogaidd a dwi'n credu dyna sut 'dan ni yn ei gofio fo," meddai.

    "Roedd yr Eisteddfod yn sicr yn ganolog yn ei fywyd, ac roedd o a Marian yn Eisteddfodwyr drwy'r byw.

    "Fydd y Babell Lên byth yr un peth heb Hedd Bleddyn, ma' hynny'n sicr, a beth sy'n glên ydi bod o wedi gallu dod yma i fwrlwm yr Eisteddfod ond bod o wedi ein gadael ni yn ystod y Steddfod hefyd.

    "Fe fydd ymdrech i gofio amdano pan fydd yr Eisteddfod yn dod i'w ardal y flwyddyn nesaf, heb os nac oni bai.

    Mae modd darllen y darn yn llawn yma

  11. Gwaith celf ysgolion Ceredigionwedi ei gyhoeddi 10:43 GMT+1 4 Awst

    Mae ysgolion Ceredigion wedi bod yn addurno meinciau i harddu maes Llantwd ac i roi eu pentrefi a'u trefi sydd ym mro Y Garreg Las ar y map.

    mainc llandudoch
    mainc casblaidd
    mainc hwlffordd
  12. Sut i wylio a gwrando ar yr Eisteddfodwedi ei gyhoeddi 10:41 GMT+1 4 Awst

    Os na fyddwch yn teithio i Lantwd, mae sawl ffordd o fwynhau'r Eisteddfod eleni.

    Gallwch wrando ar Radio Cymru ar frig y dudalen yma trwy wasgu'r botwm 'Gwrando nawr'. Yn ogystal â holl hwyl y Maes ac uchafbwyntiau'r cystadlu, cewch hefyd glywed rhai o berfformiadau bandiau ac artistiaid y llwyfannau cerddorol.

    Mae darlledu'r dydd hefyd wedi dechrau ar S4C:

    • Gwyliwch brif rhaglen S4C yn fyw ar iPlayer neu Clic
    • Hawliwch Sedd yn y Pafiliwn er mwyn gwylio'r cystadlu yn ddi-dor ar wasanaeth Clic, dolen allanol

    Wrth i ganlyniadau cystadlaethau'r Pafiliwn gael eu cyhoeddi, bydd Cymru Fyw yn cyhoeddi fideos ar ein tudalen ganlyniadau arbennig.

    Peidiwch â cholli eiliad!

  13. Y tro cyntaf i bostmon arwain Cymanfa Ganu yn yr Eisteddfod?wedi ei gyhoeddi 10:32 GMT+1 4 Awst

    Dyma oedd ymateb Daniel Rees, arweinydd y gymanfa nos Sul, wedi noson o ganu yn y pafiliwn.

    Disgrifiad,

    'Teimlo fel bo' fi lan yn y cymyle ar hyn o bryd': Daniel Rees

  14. 'Cyhoeddiad arbennig' gan S4C amser ciniowedi ei gyhoeddi 10:27 GMT+1 4 Awst

    S4C

    Wrth siarad yn y gynhadledd i'r wasg fore Mawrth, soniodd Llion Iwan, Prif Swyddog Cynnwys S4C, am lwyddiant y ffilm Gymraeg newydd, Effi o Blaenau.

    Dywedodd fod y ffilm wedi "torri pob record am werthiant tocynnau" a bydd cyfle i wylio'r ffilm ar y Maes yn Sinemaes am 16:00 y prynhawn 'ma neu nos yfory yn Theatr y Mwldan.

    Pwysleisiodd fod "plethu'r gymuned wrth wraidd cymaint o'n cynnwys ni".

    Fe ychwanegodd mai nod S4C yw "cyrraedd cynulleidfaoedd lle bynnag maen nhw" a bod gan y sianel gyhoeddiad arbennig i'w wneud amser cinio.

    Llion Iwan
  15. 'Gwasanaeth cyfieithu ar gael yn y pafiliwn drwy gydol y dydd'wedi ei gyhoeddi 10:22 GMT+1 4 Awst

    aled jones

    Ydych chi'n gobeithio mentro draw i'r Pafiliwn heddiw ond ddim yn teimlo y byddai modd i chi ddilyn y cyfan yn Gymraeg?

    Mae gwasanaeth cyfieithu ar gael yn y pafiliwn "drwy gydol y dydd, bob dydd".

    Yn ôl Aled Jones mae'r dyfieisau cyfieithu ar gael mewn amryw o leoliadau ar hyd y Maes.

  16. Enillydd y Goron yw 'dechrau a diwedd' y storiwedi ei gyhoeddi 10:11 GMT+1 4 Awst

    BBC Radio Cymru

    Wrth ymateb i'r ffaith fod Huw Edwards wedi ceisio am y Goron eleni, dywedodd Bethan Mair, aelod o bwyllgor llen yr Eisteddfod a Chyngor yr Eisteddfod, a sylwebydd ar lenyddiaeth, mai buddugoliaeth Martin Huws yw "dechrau a diwedd y stori".

    Yn siarad ar Radio Cymru, mynnodd fod angen canolbwyntio ar "fardd a llenor sydd wedi gweithio ei grefft am flynyddoedd o'r diwedd wedi dod i'r brig".

    Gwrthododd awgrym bod ymgais Huw Edwards yn rheswm dros newid rheolau cystadlu'r Eisteddfod. "Nagoes ddim am un eiliad.

    Mae'r rheol bod rhywun yn cystadlu dan ffugenw a bod pawb ar yr un lefel nes bod y beirniad yn datgan yn greiddiol i'r hyn y mae'r Steddfod yn sefyll drosto fe.

    "Yn y pendraw, y beirniaid sydd â'r gair olaf, ac mae'r beirniaid yn yr achos hwn wedi gweld mai Martin Huws oedd yn fuddugol gyda set o gerddi hynod o heriol, herfeiddiol, 'falle fydd yn anodd i'w trin, ond gwaith celf am gam-drin."

    Mae modd darllen mwy am y stori ar wefan ac ap Cymru Fyw

    Coron Eisteddfod Genedlaethol y Garreg LasFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
  17. Cofiwch ddod ag ymbarél!wedi ei gyhoeddi 09:59 GMT+1 4 Awst

    Maes yr Eisteddfod yn y glaw
    tywydd
  18. Brwydr y Bandiau Gwerin - 'Gobeithio bod y gystadleuaeth yn gyngerdd hefyd'wedi ei gyhoeddi 09:56 GMT+1 4 Awst

    BBC Radio Cymru

    Fe fydd Brwydr y Bandiau Gwerin yn digwydd draw ar faes yr Eisteddfod y prynhawn 'ma - cystadleuaeth flynyddol i roi cyfle i fandiau neu grwpiau neu unigolion sy'n canu gwerin yma yng Nghymru.

    Mae’r gystadleuaeth yn bartneriaeth rhwng Eisteddfod Genedlaethol Cymru (Tŷ Gwerin), a’r BBC ac yn ymgais i ddarganfod talent cerddoriaeth werin Gymraeg newydd.

    Mae Dafydd Roberts, un o feirniaid y gystadleuaeth, yn edrych 'mlaen yn arw at y cystadlu.

    “Mae ’na amrywiaeth o ran y perfformwyr. Mae gynnon ni grwpiau ac mae gynnon ni unawdydd, felly mae ’na ddigon o amrywiaeth, dwi’n gobeithio. A beth mae rhywun yn gobeithio hefyd ydy bod y gystadleuaeth yn gyngerdd hefyd, mewn ffordd, achos perfformiadau byw ydy’r rhain.

    "Mae o’n mynd o jyst cyn 3 o’r gloch brynhawn ’ma yn y Tŷ Gwerin tan ychydig cyn 5, felly mae’n gyngerdd anhygoel, i ddweud y gwir! A’r bwriad, mewn ffordd, ydy darganfod talent newydd, a’r gobaith hefyd bod pwy bynnag sy’n ennill, neu’r ymgeiswyr eraill, yn mynd ymlaen i drio gwneud bywoliaeth ac i deithio’n llawn amser yn canu ein caneuon a’n halawon traddodiadol ni.

    “Mi ’naethon ni ddod at benderfyniad o’r pedwar oedd yn mynd drwodd yn gytûn yn syth bin, felly dwi’n gobeithio fydd dim llawer o ffraeo brynhawn ’ma!"

  19. Enillydd Coron Eisteddfod y Garreg Laswedi ei gyhoeddi 09:48 GMT+1 4 Awst

    Martin Huws

    Martin Huws oedd enillydd Coron Eisteddfod y Garreg Las - prif seremoni ddydd Llun.

    Yn wreiddiol o Gaerdydd, mae Martin Huws yn byw yn Ffynnon Taf, Rhondda Cynon Taf, ers mwy na 30 mlynedd.

    Treuliodd ran helaeth ei yrfa'n y maes newyddiadurol, gan weithio i Golwg, y Western Mail, ac ITV Cymru, cyn ei benodi a threulio blynyddoedd fel uwch-newyddiadurwr ar wefan BBC Cymru Fyw.

    Y dasg eleni oedd cyfansoddi cerdd neu gasgliad o gerddi hyd at 250 o linellau ar y testun 'Adnabod'.

  20. Cysgodi cyn cystadluwedi ei gyhoeddi 09:43 GMT+1 4 Awst

    POBL YN Y GLAW

    Ysgol Gerdd Ceredigion yn chwilio am gysgod cyn cystadlu yng nghystadleuaeth yr ensemble.