Sut alla i weld pa wybodaeth sydd gennych amdanaf?
Dyma yw hawl mynediad. Mae'r hawl hwn yn eich caniatáu i ofyn am fanylion llawn ynglŷn â'r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch.
Os oes gennych gyfrif BBC
Gallwch ofyn am y wybodaeth hon o osodiadau eich cyfrif.
Byddwn yn gallu rhannu'r rhan fwyaf o'r wybodaeth a'r gweithgarwch ar eich cyfrif BBC, ond ni fyddwn yn cynnwys popeth, fel gwybodaeth wnaethoch chi ei hanfon at y BBC, sydd dal ar gael yn cyhoeddus ar bbc.co.uk.
Beth am wybodaeth arall?
Bydd angen i chi gysylltu â ni i egluro beth rydych chi ei angen er mwyn i ni ddod o hyd iddo. Cofiwch, pan rydyn ni'n cysylltu'n ôl â chi, efallai y byddwn angen prawf adnabod er mwyn i ni sicrhau mai chi yw chi.
Efallai y bydd yna achlysuron pan na allwn fodloni eich cais.
Y Tu Allan i’r DU?
Mae’r un wybodaeth ag uchod yn berthnasol. Os oes angen gwybodaeth arnoch yn ymwneud â’r canlynol;
- eich cyfrif tanysgrifio drwy dalu am BBC.com
- eich tanysgrifiadau ar gyfer cylchlythyron BBC.com
- a/neu ddata yn ymwneud ag un o’n safleoedd Brand BBC Studios; (Doctor Who, Bluey, Top Gear, BBC Earth, Hey Duggee)
yna darllenwch ein Polisi Preifatrwydd BBC Studios