Main content
Cystadleuaeth Dyfalu'r Flwyddyn Radio Cymru 2
Cyfle i Ennill Tocynnau Gigs
Wythnos gyntaf pob mis ar Radio Cymru 2 bydd cyfle i ennill gwobrau cerddorol enfawr, gan ddechrau hefo'r cyfle i ennill pâr o docynnau i weld y Manic Street Preachers a Suede yng Nghaerdydd ar y 4ydd o Dachwedd. Gwrandewch ar y Sioe Frecwast hefo Rhydian Bowen Phillips a Lisa Gwilym o 10 ymlaen, Llun i Iau am yr holl fanylion.