Rhybudd melyn am stormydd mellt a tharanau yng Nghymru

- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am stormydd mellt a tharanau ar gyfer Cymru gyfan ddydd Sul.
Bydd y rhybudd mewn grym rhwng 11:00 a 23:59 ddydd Sul.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai'r tywydd garw effeithio ar deithio, seilwaith a gweithgareddau awyr agored.
Gallai'r glaw trwm hefyd arwain at lifogydd mewn rhai cartrefi a busnesau, yn ogystal ag amodau gyrru gwaeth a gwasanaethau trên yn cael eu gohirio.
Mae rhwng 10-15mm o law yn bosib mewn llai nag awr mewn rhai mannau, gyda 30-40mm yn bosib dros sawl awr, yn ôl y Swyddfa Dywydd.
Gallai cesair, mellt cyson a hyrddiau gwynt o 35-45mya fod yn beryglon ychwanegol.
Mae disgwyl i'r stormydd mellt a tharanau gryfhau a dod yn fwy ynysig yn ddiweddarach gyda'r nos.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.