Derek Brockway i adael ei rôl gyda'r BBC wedi 30 mlynedd

- Cyhoeddwyd
Ar ôl bron i 30 mlynedd, mae un o gyflwynwyr tywydd mwyaf adnabyddus BBC Cymru wedi cyhoeddi ei fod yn gadael ei swydd.
Cyflwynodd Derek Brockway rhagolygon y tywydd am y tro cyntaf ar BBC Wales Today yn 1997. Aeth ymlaen i gyflwyno'r gyfres deledu Weatherman Walking am bron i 20 mlynedd.
Mae wedi adrodd ar rai o'r digwyddiadau tywydd mwyaf i daro Cymru, gan gynnwys y Beast from the East, Storm Dennis a'r don wres yn gynharach eleni.
Ond mae ei gariad at y tywydd yn mynd yn ôl ymhellach fyth - dechreuodd ymddiddori yn ystod haf hir a phoeth 1976, pan oedd yn wyth oed.
Dywedodd ei fod yn gyrru ei rieni'n wallgof gan ei fod yn gwylio pob rhaglen dywydd, a'i fod bob amser wedi bod eisiau gweithio yn y maes.

Mae cyfresi fel Weatherman Walking wedi mynd â Derek i bob rhan o Gymru
Cafodd ei swydd gyntaf ym mis Medi 1986 pan ymunodd â'r Swyddfa Dywydd yng Nghaerdydd.
Bu'n gweithio ym meysydd awyr Caerdydd a Birmingham, ac am wyth mis yn 1993 bu'n Ynysoedd y Falkland yn arsylwi'r tywydd ar gyfer awyrennau'r Awyrlu.
Yn 1995 dechreuodd gyflwyno ar y radio, cyn cyfnod byr gyda GMTV ac yna dychwelyd i Gymru a BBC Wales Today yn 1997.
Mae bellach yn un o wynebau mwyaf cyfarwydd Cymru, gyda nifer yn ei adnabod yn syml fel Derek the Weather, a sawl un yn adnabod ei gyfarchion Cymraeg, shwmae a nos da.

Ydych chi'n gweld y tebygrwydd rhyngddo â Carwyn Jones?
Roedd peth dryswch yn 2013 pan gymrodd le'r prif weinidog ar y pryd, Carwyn Jones, ar gyfer Plant Mewn Angen - ar ôl i sawl un sylwi ar y tebygrwydd rhwng y ddau.
Ers dechrau gyda'r tywydd, mae wedi bod yn rhan o sawl rhaglen arall yn cynnwys Weatherman Walking, Jamie and Derek's Welsh Weekends a Derek's Welsh Weather. Mae hefyd wedi cyflwyno ar BBC Radio Wales yn gyson.
Bydd yn cyflwyno'r tywydd ar Wales Today am y tro olaf ddiwedd y flwyddyn.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.