Colli coes mewn gwrthdrawiad yn 10 oed wedi 'newid fy mywyd er gwell'

Mae Mark a'i wraig Rachael yn berchen ar gwmni sy'n dylunio gorchuddion ar gyfer coesau prosthetig
- Cyhoeddwyd
Mae dyn a gollodd ei goes mewn gwrthdrawiad ffordd pan yn blentyn yn dweud y byddai'n hoffi diolch i yrrwr y car am newid ei fywyd.
Aeth Mark Williams yn ei flaen i fod yn bencampwr byd yn y pwll nofio, gan ennill medalau arian ac efydd yng Ngemau Paralympaidd Seoul yn 1988.
Mae Mark, 55, sydd yn berchen ar gwmni sy'n dylunio gorchuddion ar gyfer coesau prosthetig, yn credu y gallai gyrrwr y car fod yn fyw hyd heddiw.
"Fyswn i'n hoffi gallu dweud bod fy mywyd wedi newid er gwell," meddai.
Colli coes mewn gwrthdrawiad wedi 'newid fy mywyd er gwell'
Roedd Mark, o'r Rhyl, yn seiclo adref o'r ysgol ym Mehefin 1982 pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.
"Ro'n i newydd basio prawf seiclo yn Ysgol Dewi Sant," meddai.
"Ges i farc grêt, fi oedd y beiciwr fwyaf saff ac ro'n i'n seiclo adref i ddangos fy nhystysgrif i Mam a Dad."
Eglurodd nad yw'n cofio'r gwrthdrawiad, ond ei fod yn gwybod bod ffrind ysgol iddo wedi mynd i nôl ei rieni.
Fe ruthrodd ei dad a'i frawd hŷn draw i leoliad y gwrthdrawiad, gan gyrraedd fel yr oedd Mark yn cael ei roi mewn ambiwlans i'w gludo i Ysbyty Glan Clwyd.
Ar ôl cyrraedd yr ysbyty, oedd newydd agor bryd hynny, fe ddywedodd llawfeddyg wrth rieni Mark y byddai'n marw yn yr oriau nesaf os na fydden nhw'n torri ei goes i ffwrdd.
Colli coes yn newid byd ac arwain at wobr gan y Brenin
- Cyhoeddwyd8 Mai 2024
Aled Sion Davies yn 'credu mai dyma'r tro olaf i fi wisgo crys Cymru'
- Cyhoeddwyd15 Gorffennaf
Y Cymro â Syndrom Down sy'n ceisio gosod record byd
- Cyhoeddwyd16 Mai
Daeth Mark i wybod ei fod wedi colli ei goes ychydig ddyddiau'n ddiweddarach ar ôl iddo ddeffro mewn uned gofal dwys.
"Dwi'n cofio deffro ar ôl rhyw dri diwrnod ac edrych lawr ar y gwely ac oedd 'na lwmp ar yr ochr dde lle oedd coes dde fi, a doedd 'na ddim lwmp ar yr ochr chwith.
"O'n i ddim digon dewr hyd yn oed i godi'r bedsheets i gael look.
"Ond, o'n i'n gwybod o'r diwrnod hynny bo' fi'n amputee."

Dechreuodd siwrne nofio Mark yn Ysbyty Glan Clwyd fel rhan o'i adferiad wedi'r gwrthdrawiad
Fe arhosodd gyrrwr y car, dyn yn ei 30au, yn safle'r gwrthdrawiad wedi'r digwyddiad ac fe aeth i'r ysbyty i holi am gyflwr Mark.
Ni chafodd ei gyhuddo gan yr heddlu, a does dim cofnod bellach o bwy oedd yr unigolyn.
Ar ôl siarad gyda'r wasg yn 2019 mewn ymgais i ddod o hyd iddo, roedd Mark yn credu iddo ddod yn agos i'w ganfod ar ôl i ddyn yn ei 70au fynd i fferm gyfagos a gofyn amdano.
Ond er i'r cymdogion ei roi ar ben ffordd, ni ddaeth y dyn diarth i'w weld, ac mae Mark yn meddwl tybed ai fo oedd y gyrrwr, yntau cyd-ddigwyddiad oedd y cyfan.
"Dwi'n ofni nad ydy o'n ymwybodol o fy stori," meddai.
"Dwi just eisiau iddo anfon neges neu gysylltu mewn rhyw ffordd."

Dywedodd hyfforddwr Mark fod ganddo "dalent naturiol" yn y dŵr
Pan ddeffrodd Mark wedi'r gwrthdrawiad roedd yn poeni bod ei "fywyd ar ben", ond yn hytrach fe ddigwyddodd "pethau anhygoel".
Dechreuodd y siwrne nofio pan wnaeth Mark gwrdd â Mick Jones, pennaeth Clwb Nofio'r Rhyl, oedd yn gwella o anaf i'w gefn ar y pryd.
"O'dd Mick 'di cael damwain, 'di syrthio ar ochr y pwll nofio, ac mi oedd o'n Ysbyty Glan Clwyd yr un un amser a fi… yn yr hydrotherapy pool.
"O'n i methu nofio ond o'dd Mick yn head coach, felly ddaru Mick ddeud 'wna'i ddysgu i ti sut i nofio'."
Yn ôl Mark, roedd Mick yn credu ei fod yn "dalent naturiol" yn y dŵr, ac fe gynigiodd wersi nofio am ddim iddo yng Nghlwb Nofio'r Rhyl.

Fe wnaeth y gymuned leol godi £6,500 i alluogi Mark i gystadlu am le yn y Gemau Paralympaidd
Wedi llwyddiant ysgubol mewn cystadlaethau lleol, aeth Mark yn ei flaen i gystadlu ym Mhencampwriaethau Prydain - ble enillodd bum medal aur a gosod pum record Brydeinig newydd.
Wrth i'w yrfa nofio fynd o nerth i nerth, cafodd wybod y gallai geisio am le yn y Gemau Paralympaidd am ffi o £3,000.
Sbardunodd hynny ymdrechion i godi arian gan y gymuned leol a rhai o wynebau cyfarwydd S4C.
Cafodd cyngerdd arbennig ei gynnal yn Ysgol Glan Clwyd gyda Hywel Gwynfryn, Gari Williams a nifer o gerddorion amrywiol yn ymddangos.
Fe gafodd £6,500 ei godi yn y pendraw - oedd yn ddigon i dalu am ffi nofiwr arall hefyd.

Enillodd Mark fedalau arian ac efydd yn y Gemau Paralympaidd yn Seoul
Dywedodd Mark fod y profiad o gerdded allan gyda Thîm Prydain yn seremoni agoriadol Gemau Paralympaidd Seoul yn 1988 yn "wefreiddiol".
Fe enillodd fedal arian ac efydd yno, cyn mynd yn ei flaen i osod record byd newydd yng Ngemau Ieuenctid y Byd ym Miami yn 1989.
Ond ar ôl cyrraedd adref o'r gemau hynny fe benderfynodd y byddai'n cymryd seibiant o'r gamp - seibiant a drodd yn ymddeoliad.
"Ro'n i'n teimlo'n hollol wahanol... O'n i wedi gosod targed i fy hun a dyna oedd wedi fy ngwthio i 'mlaen."
Fe ganolbwyntiodd wedyn ar fyd busnes, ac ar ôl rhai blynyddoedd fe sefydlodd cwmni LimbArt gyda'i wraig Rachael, 57.
Cafodd ei waith ei gymeradwyo gan y Brenin yn 2024, gyda'r cwmni yn ennill un o Wobrau'r Brenin am ei fenter.

Fe sefydlodd Mark gwmni LimbArt gyda'i wraig Rachael
Yn ôl Mark, sy'n dad i ddau ac yn lys-dad i ddau arall, byddai dod o hyd i'r gyrrwr wnaeth ei daro yn "cau'r drws" ar y bennod honno o'i fywyd.
"Dwi'n ymwybodol iawn fy mod i'n teithio o amgylch y DU yn ymweld ag ysgolion ac yn dweud wrthyn nhw pa mor ddiolchgar ydw i fod hynny wedi digwydd, ond efallai nad ydy o'n gwybod.
"Dwi wir ofn ei fod o'n eistedd adref hyd heddiw yn colli cwsg am yr hyn ddigwyddodd.
"Fyswn i ddim hyd yn oed eisiau trafod yr hyn ddigwyddodd y diwrnod hwnnw, dim ond gadael iddo wybod pa mor ddiolchgar ydw i."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.