Beth ydy gobeithion Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd?

Asgellwr Cymru Sorba ThomasFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dydy Cymru ddim wedi cadw llechen lân mewn naw gêm

GanIan Mitchelmore
  • Cyhoeddwyd

Yn dilyn perfformiad gwych gan Gymru yn erbyn Norwy yng Nghaerdydd nos Iau roedd disgwyliadau uchel yn erbyn Denmarc - ond fe gollodd Cymru 0-1 ar noson rwystredig.

Mae hyn yn golygu bod tîm Craig Bellamy wedi colli tair o'u pedair gêm yng Nghynghrair y Cenhedloedd hyd yma.

Gan eu bod wedi curo Norwy o 2-1 mae Cymru yn y drydydd safle yn y grŵp cyn y ddwy gêm olaf fis nesaf.

Felly, beth yw sefyllfa Cymru nawr? Oes modd aros yn haen uchaf y gystadleuaeth?

Cwestiynu'r garfan a'r eilyddion

Doedd Karl Darlow, Joe Rodon, Dylan Lawlor, Harry Wilson na Nathan Broadhead ar gael i Gymru ar gyfer y pedair gêm.

Fe gollodd Bellamy yr asgellwr David Brooks hefyd oherwydd anaf yn dilyn y golled o 1-0 yn erbyn Portiwgal yn Lisbon.

Oherwydd hyn, roedd yn rhaid i Bellamy ddibynnu ar rai chwaraewyr sydd ddim wedi bod yn chwarae'n gyson dros eu clybiau y tymor yma.

Cododd cyn-ymosodwr Cymru, Iwan Roberts, bryderon am ddyfnder y garfan yn dilyn y golled o 1-0 yn erbyn Denmarc nos Sul.

"Rwy'n edrych ar y chwaraewyr ddaeth oddi ar y fainc; mae Wes Burns yn chwarae yng Nghynghrair Un, mae Mark Harris yn chwarae yng Nghynghrair Un ac mae Josh Sheehan wedi chwarae yng Nghynghrair Un ers blynyddoedd," meddai Roberts wrth BBC Radio Cymru.

"Dyna'r broblem. Pan nad yw'r tîm cychwynnol yn gweithio, mae Craig Bellamy yn edrych dros ei ysgwydd – a dyw e ddim yn braf dweud hyn – ond mae'n edrych ar chwaraewyr o Gynghrair Un i geisio gwneud gwahaniaeth."

Cafodd y prif hyfforddwr ei feirniadu hefyd am y dewisiadau o ran eilyddion yn ystod y gêm.

Daeth Kieffer Moore ymlaen i'r cae ar ôl 83 o funudau.

Ychwanegodd Roberts: "Un arall sydd wedi bod yn eilydd ond heb gael unrhyw amser chwarae yn ystod yr ymgyrch hon yw Cian Ashford.

"Ni'n chwilio am gôl, ac mae wedi cael dechrau gwych i'r tymor gyda Chaerdydd.

"Mae ganddo'r cyflymder i achosi problemau yn bendant, ond mae chwaraewyr nad ydynt wedi chwarae i'r un safon ag ef yn cael eu rhoi ar y cae yn ei le."

Rhelowr Cymru Craig BellamyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cymru wedi ennill unwaith mewn wyth gêm eleni

Mae cymysgedd o deimladau ymhlith cefnogwyr ar ôl cyfnod o uchafbwyntiau ac isafbwyntiau.

Roedd agweddau cadarnhaol i'w gweld yn y gêm a gollwyd yn erbyn Portiwgal, ac fe roddodd y fuddugoliaeth yn erbyn Norwy hwb enfawr i gefnogwyr Cymru ar ôl blwyddyn hynod anodd hyd yma.

Ond roedd y ddwy gêm yn erbyn Denmarc yn dangos pa mor fawr yw'r bwlch rhwng Cynghrair B a Chynghrair A.

Wrth siarad ar ôl y gêm, dywedodd Bellamy fod ei chwaraewyr yn brin o egni yn erbyn tîm Brian Riemer.

Ychwanegodd cyn-ymosodwr Cymru, Rob Earnshaw: "Roedd hi'n edrych fel bod y chwaraewyr wedi blino; gallwch weld y gwahaniaeth o ran ansawdd."

Yn ei gynhadledd i'r wasg ar ôl y gêm, tynnodd Bellamy sylw at y ffaith nad yw cyfnod rhyngwladol o bedair gêm yn helpu cenhedloedd llai fel Cymru.

"Pedair gêm ar y lefel hon... o'n i'n un o'r rhai wnaeth ddim [pleidleisio o blaid y newid], achos rydyn ni'n gwybod ei fod yn anfantais i ni."

Dros y tair ymgyrch flaenorol yng Nghynghrair y Cenhedloedd, mae timau sy'n gorffen ar waelod eu grŵp yng Nghynghrair A wedi cael cyfartaledd o 2.92 o bwyntiau ar ôl chwe gêm.

Mae gan Gymru dri phwynt ar hyn o bryd, ac mae gêm yn erbyn Norwy yn Oslo ac un yn erbyn Portiwgal yng Nghaerdydd i ddod ym mis Tachwedd.

Cyn i'r cyfnod rhyngwladol presennol hyd yn oed ddechrau, fe siaradodd Bellamy am anelu at y trydydd safle.

Byddai hynny'n rhoi cyfle i Gymru osgoi disgyn i Gynghrair B, a byddai hefyd yn gwella eu safle ar gyfer yr ymgyrch i gyrraedd Ewro 2028.

Yn ystod ymgyrchoedd 2020-21, 2022-23 a 2024-25 roedd y timau a orffennodd yn drydydd yn eu grwpiau yng Nghynghrair A wedi gorffen gyda chyfartaledd o 6.42 o bwyntiau ar ôl chwe gêm.

Felly, ar sail yr ystadegau yma mi fydd angen buddugoliaeth arall ar Gymru fis nesaf, neu efallai ddwy gêm gyfartal, er mwyn cael cyfle i orffen yn drydydd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol, neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.