Cymru yn sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf yn 2026 yn erbyn Norwy

Disgrifiad,

Uchafbwyntiau: Cymru 2-1 Norwy

  • Cyhoeddwyd

Daeth rhediad Cymru o chwe gêm heb fuddugoliaeth i ben nos Iau ar ôl i dîm Craig Bellamy ennill o 2-1 yn erbyn Norwy yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Roedd hi'n argoeli i fod yn noson anodd arall i Gymru - oedd wedi colli eu dwy gêm agoriadol yn y grŵp - ar ôl i Oscar Bobb roi'r ymwelwyr ar y blaen yn gynnar yn yr hanner cyntaf.

Ond llwyddodd Cymru i unioni'r sgôr cyn yr egwyl wrth i Dan James wyro croesiad Sorba Thomas i mewn i gefn y rhwyd.

Cafodd amddiffynnwr Norwy, Torbjorn Heggem, gerdyn coch wedi 30 eiliad o'r ail hanner am drosedd ar James, ac fe lwyddodd Neco Williams i fanteisio ar y gic rydd gan daro'n bwerus i gornel isa'r gôl.

Dan James yn sgorio Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dan James yn gwrthdaro gyda golwr Norwy wrth iddo ddod â Chymru yn gyfartal

Dyma fuddugoliaeth gyntaf Cymru dros dîm sydd yn uwch na nhw yn rhestr detholion y byd ers i Bellamy gael ei benodi yn rheolwr yn 2024.

Neithiwr hefyd oedd y tro cyntaf i Gymru ennill gêm yn Haen A Cynghrair y Cenhedloedd - a hynny ar y nawfed ymgais.

Doedd hi ddim yn edrych yn debygol y byddai'r fuddugoliaeth honno yn digwydd nos Iau ar ôl i Bobb fanteisio ar bas ardderchog gan Martin Ødegaard drwy daro'r bel yn gelfydd heibio postyn agosaf Danny Ward.

Ond roedd ymateb Cymru i'r ergyd gynnar honno yn galonogol gyda'r tîm cartref yn rheoli'r chwarae ar y cyfan.

Roedd Sorba Thomas yn fygythiad cyson i amddiffyn Norwy lawr yr asgell chwith.

Thomas groesodd y bel i James wneud hi'n 1-1 ar ôl i Liam Cullen gipio'r bêl yng nghanol cae wedi 38 o funudau.

Cymru'n dathlu gol - Cymru v NorwyFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Neco Williams sgoriodd y gôl fuddugol o gic rydd yn gynnar yn yr ail hanner

Cyflymder ymosodwyr Cymru arweiniodd at yr ail gol hefyd, wrth i Dan James gael y gorau o Torbjorn Heggem cyn i'r amddiffynnwr canol ei dynnu i'r llawr y tu allan i'r cwrt cosbi.

Cafodd Heggem ei anfon o'r cae, ac fe aeth pethau o ddrwg i waeth i Norwy wrth i Neco Williams grymanu'r heibio'r wal ac i gornel isa'r rhwyd.

Cafodd Josh Sheehan a Mark Harris gyfleoedd i ymestyn mantais Cymru, ond llwyddodd Orjan Nyland i gadw'r ymwelwyr yn y gêm.

Er i Norwy greu ambell i gyfle yn y munudau olaf, gyda Erling Haaland a Jørgen Strand Larsen yn dod yn agos, fe lwyddodd Cymru i ddal 'mlaen i sicrhau'r triphwynt.

Bydd Cymru yn chwarae Denmarc yng Nghaerdydd ddydd Sul - y gêm olaf fel rhan o'r cyfnod rhyngwladol estynedig hwn.

Craig BellamyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Bellamy fod sylwadau negyddol yn ystod y cyfnod heb fuddugoliaeth wedi cael effaith arno fo a'i deulu

Dywedodd Craig Bellamy wedi'r gêm ei fod wedi profi cyfnod "heriol iawn" oherwydd y feirniadaeth y mae wedi ei dderbyn yn ystod rhediad diweddar Cymru.

"Doedd yr haf ddim yn hawdd, ac wedyn doedd y gemau yma ddim yn hawdd chwaith," meddai.

"Dwi wedi gorfod dibynnu ar fy mhrofiad achos dwi wedi gweld rheolwyr blaenorol yn cael yr un peth."

Ychwanegodd fod sylwadau negyddol tuag ato hefyd wedi cael effaith ar ei deulu.

"Dwi wedi byw yn y byd yma, ges i hyn fel chwaraewr, ond dwi'n meddwl y dylwn ni feddwl am y ffordd 'dan ni'n siarad gyda phobl.

"Dydi'r ffaith ein bod ni'n caru'r gêm ddim yn rhoi'r hawl i ni ddweud be bynnag 'dan ni eisiau.

"Ry'n ni'n wlad mor fach, pam na allwn ni gefnogi ein gilydd? Pam nad ydyn ni'n edrych ar ôl ein gilydd bach mwy?"

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.