Comisiwn y Senedd i adleoli staff yn eu prosiect 'mwyaf cymhleth erioed'

Mae Tŷ Hywel wedi darparu swyddfeydd i wleidyddion Bae Caerdydd ers 1999
- Cyhoeddwyd
Dywed y corff sy'n gyfrifol am redeg y Senedd eu bod yn cychwyn ar eu prosiect "mwyaf cymhleth erioed" wrth baratoi ar gyfer adleoli staff a gwleidyddion tra bod gwaith yn digwydd ar eu swyddfeydd presennol.
Mae Comisiwn y Senedd wedi bod yn ystyried beth i'w wneud pan fydd y brydles ar adeilad Tŷ Hywel y tu ôl i'r Senedd yn dod i ben yn 2032.
Ffafriaeth Comisiwn y Senedd ydy adnewyddu ac aros yn Nhŷ Hywel, fyddai'n golygu symud staff i adeiladau cyfagos tan 2030.
Mae disgwyl penderfyniad terfynol ym mis Rhagfyr, gyda'r gwaith i gychwyn y flwyddyn nesaf.
Mae'r manylion wedi eu cyhoeddi'n rhan o gyllideb ddrafft Comisiwn y Senedd.

Mae dwy bont yn cysylltu Tŷ Hywel â'r Senedd
Mae'r comisiwn yn gofyn i Aelodau'r Senedd (ASau) gymeradwyo cais am gyllideb o £109m ar gyfer y flwyddyn 2027-28.
Byddai hynny'n gynnydd o 6.45% o gymharu â chyllideb y llynedd.
Mae'r swm yn cynnwys £11.4m i dalu costau'n gysylltiedig ag adnewyddiad arfaethedig Tŷ Hywel gyda disgwyl i'r ffigwr yna gynyddu i £16.6m yn 2029-30.
Mae'r cais yn dilyn cyllidebau blaenorol mwy o faint i dalu am gostau ehangu'r Senedd, oedd yn cynnwys cynyddu maint y siambr.
Byddai perchennog yr adeilad Equitix yn talu am drwch y gwaith adnewyddu gan gynnwys gosod ffenestri a lifftiau newydd.
Yn ôl "rhagdybiaeth gynllunio'r" comisiwn "ar gyfer yr achos gwaethaf" byddai pob un sy'n gweithio yn Nhŷ Hywel yn symud i adeilad arall erbyn haf 2027.
Byddent yn dychwelyd yn 2030 sef blwyddyn etholiad nesa'r Senedd.
Yn dilyn y gwaith adnewyddu byddai gan y comisiwn yr opsiwn o brynu'r adeilad neu ddechrau ar gytundeb 50 mlynedd fyddai'n eu caniatáu i brynu'r safle am £1 yn 2082.
'Opsiwn gwerth-am-arian orau'
Dywedodd llefarydd ar ran Comisiwn y Senedd taw adnewyddu Tŷ Hywel oedd yr "opsiwn gwerth-am-arian gorau".
"Bydd hwn yn brosiect sylweddol ac, os y'i caniateir, efallai bydd angen adleoli ASau, eu staff a staff y comisiwn i swyddfeydd cyfagos."
Mae Tŷ Hywel wedi ei leoli y tu ôl i'r Senedd gyda dwy bont yn caniatáu i ASau a'u staff gerdded yn uniongyrchol rhwng y ddau leoliad.
Mae'r adeilad wedi bod yn gartref i staff y senedd ers 1998, cyn sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol - fel y'i elwir ar y pryd - flwyddyn yn ddiweddarach.
Cyn agor adeilad y Senedd yn 2006 roedd Tŷ Hywel hefyd yn gartref i'r brif siambr.
Mae cyllideb y comisiwn hefyd yn amlinellu cynlluniau ar gyfer codiad cyflog o 3.5% i staff yn 2027-28 ynghyd â gostyngiad i gyfraniad pensiwn y cyflogwr, yn ogystal â chodiad cyflog o 4% i ASau.
Caiff cyflogau ASau eu gosod gan y bwrdd taliadau annibynnol.
'Nid mater i'r Kremlin yw ein dyfodol cyfansoddiadol' - prif weinidog
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl
Posibilrwydd y gallai enwau etholaethau'r Senedd newid eto
- Cyhoeddwyd13 Medi
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.