Mynnu 'tryloywder' gan gwmni bysiau sy'n wynebu 'argyfwng' ariannol

Bws Casnewydd
GanHuw Thomas
Gohebydd busnes
  • Cyhoeddwyd

Mae trafferthion ariannol cwmni bysiau'r cyngor yng Nghasnewydd wedi arwain at ohirio cyhoeddi ei gyfrifon blynyddol, tra bod bwrdd y cwmni hefyd wedi cael ei ailwampio'n sylweddol.

Methodd Trafnidiaeth Casnewydd y dyddiad cau i gyflwyno cyfrifon ar gyfer y flwyddyn ariannol a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2025, ac fe wynebodd gamau i ddileu'r cwmni yn orfodol gan Dŷ'r Cwmnïau cyn i'r broses gael ei hatal yn gynharach yr wythnos hon.

Nid yw'r cyfrifon diweddaraf wedi eu cyflwyno ac mae cynghorwyr yr wrthblaid wedi galw'r sefyllfa'n "argyfwng" gan fynnu "tryloywder" gan Gyngor Dinas Casnewydd, sef ei unig gyfranddaliwr.

Dywedodd y cyngor ei fod yn "hollol ymwybodol o'r heriau ariannol" sy'n wynebu'r cwmni bysiau. Nid yw Trafnidiaeth Casnewydd wedi ymateb i sawl cais am sylw.

Tynnu aelodau o'r bwrdd

Yn gynharach y mis hwn, cymeradwyodd cynghorwyr y broses o dynnu pump o gyfarwyddwyr Trafnidiaeth Casnewydd oddi ar y bwrdd a phenodi aelodau newydd yn eu lle, wrth i'r cwmni geisio ymdopi â'r hyn y mae'r cyngor wedi'i ddisgrifio fel newid "sylweddol".

Mae'r cyfrifon hwyr yn gysylltiedig â phwysau ariannol ehangach sy'n wynebu'r gweithredwr bysiau, sy'n gyfrifol am fysiau yn rhannau o dde-ddwyrain Cymru.

Hyd yn hyn, dywedodd Trafnidiaeth Casnewydd iddynt fethu'r dyddiad cau oherwydd oedi wrth baratoi ei gyfrifon.

Ond bellach mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi dweud bod yr oedi yn gysylltiedig â heriau ariannol oedd yn wynebu'r cwmni, a effeithiodd ar baratoi'r cyfrifon a'r broses archwilio.

gyrrwr bws

Yn gynharach y mis hwn, dechreuodd Tŷ'r Cwmnïau gamau i ddileu'r cwmni o'r gofrestr o fusnesau.

Ar y pryd, dywedodd Trafnidiaeth Casnewydd fod oedi wedi bod wrth baratoi'r cyfrifon a'u bod yn cael eu cwblhau. Mae'r cwmni'n parhau i fod yn weithredol ar gofrestr Tŷ'r Cwmnïau, er nad oes unrhyw gyfrifon newydd wedi ymddangos.

Mae depo bysiau sy'n eiddo i Drafnidiaeth Casnewydd yn cael ei werthu i Trafnidiaeth Cymru am £3.25m, ond ni wnaeth Cyngor Casnewydd gadarnhau a fyddai'r arian yn helpu i gefnogi'r gweithredwr bysiau.

Cyfeiriodd Trafnidiaeth Cymru ymholiad y BBC at Lywodraeth Cymru, a ddywedodd fod trafodaethau ynghylch y depo yn parhau. Ychwanegodd fod "sefyllfa ariannol Trafnidiaeth Casnewydd yn fater iddyn nhw ac i'w cyfranddaliwr, Cyngor Dinas Casnewydd".

'Syfrdanu'n llwyr'

"Argyfwng yw hwn," meddai'r Cynghorydd William Routley, dirprwy arweinydd y grŵp Ceidwadol ar Gyngor Dinas Casnewydd.

Dywedodd ei fod wedi'i "syfrdanu'n llwyr" nad oedd y cwmni wedi cyflwyno ei gyfrifon eto.

"Gan nad oes datgeliad llawn wedi bod, a gan nad ydym wedi gweld cyflwr cyfrifon y cwmni, rydym yn galw am dryloywder," meddai.

Dywedodd fod cynghorwyr yn haeddu gweld y darlun llawn er mwyn gallu "cefnogi'r cyfeiriad y mae angen i Trafnidiaeth Casnewydd ei gymryd".

CasnewyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Er gwaethaf adrodd elw yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2024, parhaodd y cwmni i ddibynnu ar filiynau o bunnoedd o gymorth gan y llywodraeth.

Dangosodd y cyfrifon diweddaraf elw cyn treth o £884,000. Fodd bynnag, dibynodd y cwmni ar grant gan Lywodraeth Cymru o fwy na £7.3m yn ystod y flwyddyn.

Dywedodd y cyfarwyddwyr fod y cyllid wedi helpu i bontio'r bwlch a ddaeth o'r gostyngiad yn nifer y teithwyr yn dilyn y pandemig.

Roedd y cyfrifon hynny hefyd yn cynnwys rhybudd bod ffigyrau'r tîm rheoli, a adolygwyd yn ddiweddarach yn 2024, yn dangos colledion o tua £2.3m. Dywedodd y cyfarwyddwyr mai'r rheswm am hynny oedd y newid yng nghynlluniau cymorth Covid, a dibyniaeth ar yrwyr bysiau o asiantaethau.

Ar wahân i hynny, mae cynghorwyr wedi cymeradwyo cynlluniau i Trafnidiaeth Casnewydd werthu un depo i Trafnidiaeth Cymru a'i rentu'n ôl er mwyn gweithredu o'r safle.

Mae'r cyngor wedi disgrifio'r cytundeb fel cam strategol cyn mabwysiadu model masnachfraint bysiau Llywodraeth Cymru, lle byddai cyfrifoldeb am gynllunio gwasanaethau bws lleol yn trosglwyddo i Trafnidiaeth Cymru.

O dan y trefniant, byddai Trafnidiaeth Casnewydd yn cael defnydd o'r safle yn ystod y flwyddyn gyntaf yn rhad ac am ddim, cyn talu rhent blynyddol o ychydig dros £303,000. Byddai gan y cwmni hefyd yr hawl i brynu'r depo yn ôl os na fydd y rhaglen fasnachfreinio (franchising) yn mynd yn ei blaen.

Bws Casnewydd

Yn yr un cyfarfod, cymeradwyodd y cyngor newidiadau sylweddol i fwrdd y cwmni, gan dynnu pump o gyfarwyddwyr o'r bwrdd a chyflwyno grŵp newydd o unigolion. Dywedodd adroddiad gan y cabinet y byddai'r newidiadau yn cryfhau llywodraethu a goruchwyliaeth yn ystod cyfnod o "newid rheoleiddiol a strategol sylweddol".

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Dinas Casnewydd wrth BBC Cymru: "Mae'r cyngor yn gwbl ymwybodol o'r heriau ariannol sy'n wynebu Trafnidiaeth Casnewydd, sydd wedi cyfrannu at oedi wrth baratoi ac archwilio cyfrifon y cwmni ar gyfer 2024/25.

"Rydym wedi gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru i symud ymlaen â gwerthu a lesio'n ôl y depo bysiau, fel y nodir yn adroddiad cyhoeddus y cabinet. Mae prynu depo Casnewydd yn gaffaeliad eiddo strategol a fydd yn helpu i alluogi masnachfreinio yn ne-ddwyrain Cymru, yn sicrhau seilwaith sy'n bwysig yn strategol, ac yn cefnogi parhad y rhwydwaith."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig