'Sneb yn gwybod be' sy'n digwydd tu ôl i ddrysau caeedig' yng nghefn gwlad

Tracy Lewis mewn cot binc efo gwartheg yn y cefndir
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Tracy Lewis ei bod hi wedi ystyried ffonio Childline pan oedd hi'n blentyn i siarad am y ffordd roedd ei thad yn ei cham-drin

  • Cyhoeddwyd

Rhybudd: Mae'r stori yma'n cynnwys manylion all beri loes

Mae gan Tracy Lewis atgofion cymysg o'i phlentyndod ac o gael ei magu ar fferm ym Mhowys, gan ddweud bod y modd y gwnaeth ei thad ei cham-drin hi'n emosiynol a chorfforol yn "artaith".

Pan oedd hi'n wyth oed dywedodd bod ei thad, oedd yn ffermwr, wedi ei gorfodi hi o'r gwely drwy gerfydd ei gwallt i fynd i ŵyna a'i mam yn dweud wrthi bod yn rhaid iddi wrando ar ei thad neu "mi fyddwn ni'n dwy yn farw".

Mae Tracy, sy'n 48 ac yn ffermwr ei hun, yn un o'r rhai sy'n galw ar wleidyddion i wella'r gefnogaeth sydd ar gael i bobl mewn ardaloedd gwledig.

Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod yn ymateb i'r bylchau yn y gofal sydd ar gael, tra bod Llywodraeth Cymru yn dweud y byddan nhw'n ystyried yr heriau yn eu strategaeth genedlaethol nesaf.

Llun o Tracy Lewis yn ferch fach. Mae ganddi wallt tywyll hir ac mae'n gwisgo ffrog frown.Ffynhonnell y llun, Tracy Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Mae Tracy Lewis yn dweud bod yr hyn ddigwyddodd iddi hi "yn ddychrynllyd"

Mae teulu Tracy Lewis wedi rhoi caniatâd i'r BBC rannu ei stori a'i hatgofion o gael ei cham-drin yn emosiynol ac yn gorfforol gan ei thad.

"Rwy'n cofio fy nhad yn fy ngorfodi i o fy ngwely drwy dynnu fy ngwallt er mwyn helpu i eni oen bach," dywedodd.

"Nes i gerdded heibio'r tŷ bach ac roedd gwaed dros wyneb fy mam ac roedd ei thrwyn hi wedi ei wasgu.

"Roedd hi wedi bod yn crio a 'nath hi ddweud wrtha i bod yn rhaid i fi helpu gyda'r oen neu mi fydden ni'n dwy yn marw."

Mae Tracy yn dweud bod ei thad yn defnyddio'r anifeiliaid fel ffordd o'i rheoli hi neu'n gatalydd ar gyfer y trais.

"Os fyddai rhywbeth yn marw, mi fyswn i'n cael fy nghuro ac mi fyddai mam yn cael ei brifo os oedd anifail yn sâl. Roedden ni'n caru anifeiliaid a ffermio ond roedden ni'n sownd yna ac ar ein pennau ein hunain."

Eglura Tracy, a gafodd ei magu ar fferm yn Llanbister ym Mhowys, ei bod hi wedi ystyried ffonio Childline ar adegau am ei bod hi mor ofnus.

"Yn y byd ffermio yn arbennig, mi fyddai cymdogion wastad yn eich helpu chi ond mae'n hawdd cuddio camdriniaeth," dywedodd Tracy, sy'n fam i ddau.

"Mae pawb yn 'nabod ei gilydd, ond does neb yn gwybod be' sy'n digwydd y tu ôl i ddrysau caeedig.

"I fi, roedd yr hyn oedd yn digwydd yn frawychus ac yn ddychrynllyd, ond roedd mam yn gorfod delio gyda llawer mwy ac mi wnaeth hi drio ei gorau i'n gwarchod ni. Ond roedd hi ar ei phen ei hun a'r fferm oedd ei bywyd hi."

Mae Tracy hefyd yn honni bod ei thad, sydd wedi marw, wedi ei cham-drin yn ariannol drwy ddweud mai hi fyddai'n cael y fferm yn ei ewyllys.

Mae'n dweud iddi weithio ar y fferm am dros 20 mlynedd a'i bod wedi talu rhent i'w thad am ei bod hi'n credu mai hi fyddai berchen ar y safle.

Ond ar ôl darganfod nad oedd ei thad wedi rhoi'r fferm iddi hi yn ei ewyllys, mae'n dweud ei bod hi wedi gorfod "brwydro" i sicrhau mai hi fyddai'n cael perchnogaeth o'r safle.

Rhianon Brag
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Rhianon Brag ei cham-drin gan ei chyn-bartner, Gareth Wyn Jones, ac fe gafodd ei ddedfrydu i bedair blynedd a hanner o garchar yn 2020

Yn ôl y Rhwydwaith Trosedd Cefn Gwlad, mae pobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig yn wynebu mwy o rwystrau wrth geisio cael cymorth os ydyn nhw'n cael eu cam-drin.

Cafodd Rhianon Bragg ei cham-drin gan ei chyn-bartner ac mae hi'n dweud ei fod wedi gallu ei dal hi'n wystl am wyth awr am eu bod nhw'n byw mewn ardal mor wledig.

Wrth i Ms Bragg ddod allan o'i char ar eu fferm fach ym mis Awst 2019, fe neidiodd ei chyn-gariad o'r tywyllwch yn gwisgo dillad camouflage ac yn cario gwn.

Er ei bod hi wedi sgrechian, roedd hi'n gwybod na fyddai neb yn ei chlywed hi.

Dywedodd Ms Bragg fod ei chyn-bartner wedi bod yn rheoli ei bywyd a'i bygwth am y rhan fwyaf o'u perthynas, a barodd am bum mlynedd.

"Fe wnes i feddwl sawl gwaith y noson honno na fyswn i'n gweld fy mhlant eto," dywedodd.

Mae Rhianon yn siarad am ei phrofiad ar gyfres newydd iPlayer y BBC, It Happened to Me.

"Fe wnaeth y cam-drin newid ein cartref o fod yn lle heddychlon i fod yn lle ynysig," meddai Rhianon.

Dywedodd y dylai holl bolisïau camdriniaeth ddomestig llywodraethau'r DU a Chymru ystyried materion sy'n effeithio ar ardaloedd gwledig gan gynnwys cysylltiadau rhyngrwyd a'r pellter o orsafoedd heddlu.

"Mae angen gwneud yn siŵr bod pobl yn cael eu trin yn deg, ac ar hyn o bryd os ydych chi'n byw yng nghefn gwlad, rydych chi dan anfantais," dywedodd Rhianon.

Mae Tracy yn annog pobl i "ddweud wrth rywun - ffrind, cymydog - os ydych chi'n cael eich cam-drin. Unwaith rydych chi'n dechrau dweud wrth bobl, bydd pethau'n newid."

"Byddai newid y polisi yn helpu achos allan fan hyn mi allwch chi guddio llawer o bethau. Dwi'n credu bod llawer mwy o gamdriniaeth domestig yn digwydd mewn cymunedau gwledig na mae pobl yn ei wybod," ychwanegodd Tracy.

'Croesawu'r adroddiad'

Mae adroddiad gan y gweithgor cyntaf o'i fath yn y DU yn canolbwyntio ar anghyfartaledd cefn gwlad a chamdriniaeth ddomestig yn dweud bod dioddefwyr yn cael eu methu.

Mae'r adroddiad gan RiTA (Rural Initiatives Tackling Abuse) a gafodd ei gyhoeddi ym mis Mai yn argymell y dylai Llywodraeth y DU greu comisiwn seneddol ar gamdriniaeth ddomestig a sicrhau bod strategaethau'r llywodraeth yn ystyried anghenion pobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig.

Dywedodd Comisiynydd Camdriniaeth Ddomestig Cymru a Lloegr eu bod yn "croesawu'r adroddiad".

Mewn datganiad i'r BBC, dywedodd y Fonesig Nicole Jacobs: "Os ydyn ni wir eisiau delio gyda cham-drin domestig a sicrhau tegwch i bawb mewn cymdeithas, mae angen cofio am bobl sy'n byw mewn ardaloedd gwledig wrth greu gwasanaethau a chefnogaeth.

"Mae angen sicrhau bod arian ac adnoddau ar gael ar gyfer gwasanaethau arbenigol i bawb, lle bynnag maen nhw'n byw."

Hayley Heard
Disgrifiad o’r llun,

Mae Hayley Heard yn arwain grŵp sy'n helpu a chefnogi dros 600 o bobl yn y canolbarth

Dywedodd Hayley Heard o Ganolfan Argyfwng Teulu Maldwyn: "Yng nghefn gwlad Cymru, mae pellter yn fwy na daearyddiaeth yn unig. Mae'n cael effaith wirioneddol ar sut y gall person gael cefnogaeth a diogelwch."

Dywedodd bod byw mewn ardal wledig "yn gallu golygu nad oes trafnidiaeth ac ofn y bydd pawb yn cael gwybod beth sy'n digwydd os ydych chi'n gofyn am help".

Mae'r ganolfan yn dweud eu bod wedi cefnogi 296 o ferched, 88 o ddynion a 231 o blant yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf ac yn teimlo "bod bwlch enfawr rhwng camdriniaeth ddomestig mewn ardaloedd gwledig a dinesig".

Mae Llywodraeth y DU yn dweud eu bod "yn gweithio i ddelio gydag anghysondebau yn y gefnogaeth sydd ar gael" ac wedi dweud y bydd dros £1 biliwn mewn cyllid penodol dros y tair blynedd nesaf i wella'r gefnogaeth sydd ar gael i ddioddefwyr sy'n byw mewn ardaloedd gwledig.

"Mae cydweithio agos gydag elusennau a sefydliadau cymunedol yn rhoi cymorth i ni i gael dealltwriaeth o'r heriau sy'n wynebu cymunedau gwledig."

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "cydnabod y gall pobl mewn cymunedau gwledig wynebu mwy o heriau wrth chwilio am gymorth os ydyn nhw'n cael eu cam-drin.

"Bydd yr heriau hynny yn cael eu hystyried yn ein strategaeth genedlaethol nesaf er mwyn sicrhau y bydd gwasanaethau yn gallu cynnig y cymorth angenrheidiol i bobl ym mhob rhan o Gymru.

"Ddylai neb deimlo'n ofnus neu gael eu cam-drin yn eu cartrefi a'u cymunedau."

Os ydi manylion y stori yma wedi effeithio arnoch chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod mi allwch chi gael cefnogaeth drwy Action Line y BBC.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig