Addo brwydro'n erbyn cynlluniau M4 fyddai'n 'creu mwy o draffig i bobl leol'

Mae'r M4 yn rhedeg drwy Gasnewydd, lle mae cynlluniau i gau sawl cyffordd yn cael eu hystyried
- Cyhoeddwyd
Mae arweinydd Cyngor Casnewydd wedi dweud y bydd yn brwydro yn erbyn cynlluniau i gau cyffyrdd ar yr M4 yn y ddinas.
Dywedodd Dimitri Batrouni o'r Blaid Lafur na ddylai pobl y ddinas orfod talu'r pris am ymdrechion i leddfu tagfeydd traffig.
Mae gweinidogion yn ystyried cau cyffordd 27 yn gyfan gwbl yn High Cross, a chau'r ffyrdd ymuno tua'r dwyrain wrth gyffordd 26 ym Malpas a chyffordd 25 yng Nghaerllion.
Mae'n rhan o becyn o fesurau i fynd i'r afael â thagfeydd ar hyd y draffordd, gan gynnwys trafnidiaeth gyhoeddus.

Mae Mark Hooper yn dweud nad yw'r sefyllfa bresennol ar yr M4 yn opsiwn
Mae Llywodraeth Cymru wedi addo ymgynghori â'r cyngor cyn bwrw ymlaen, a dywedodd y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth Mark Hooper nad yw'r sefyllfa bresennol ar y draffordd "yn opsiwn".
Cyhoeddiad Mr Hooper ddydd Mawrth oedd ymgais gyntaf llywodraeth Plaid Cymru i fynd i'r afael â phroblem tagfeydd yr M4.
Daw hynny ar ôl i gynlluniau ar gyfer ffordd liniaru'r M4 gael eu rhoi o'r neilltu - cynllun a gafodd ei ddileu yn 2019 gan y Prif Weinidog Mark Drakeford, ac yn 2009 gan glymblaid Llafur/Plaid Cymru.
Gallai'r cyffyrdd gael eu cau ymhen dwy flynedd, tra bydd gwaith arall dros gyfnod o 18 mis yn edrych ar "ateb ar sail ffyrdd", a allai gynnwys ehangu Twneli Brynglas, neu hyd yn oed adeiladu traffordd newydd.
Bydd Trafnidiaeth Cymru hefyd yn gweithio ar ddatblygu gorsafoedd newydd arfaethedig yn ne-ddwyrain Cymru, gyda chyllid gan Lywodraeth y DU, gyda gorsafoedd Parcffordd Caerdydd, Magwyr ac Undy yn cael blaenoriaeth.
Mae Llywodraeth Cymru wedi diystyru'r "llwybr du", sef y draffordd newydd arfaethedig ar draws Gwastadeddau Gwent a gafodd ei dileu yn 2019.
Mae'r Ceidwadwyr a Reform wedi dweud y bydden nhw yn adeiladu'r ffordd pe baent mewn grym, ond dywed llywodraeth Plaid Cymru nad yw hynny'n ymarferol bellach.

Dywedodd Mr Batrouni: "Mae lleddfu tagfeydd ar yr M4 bob amser yn beth da ond nid ar draul trigolion Casnewydd sy'n dioddef yn lleol, yn dioddef yn eu cymdogaethau lleol wrth geisio bwrw ymlaen â'u bywydau bob dydd.
"Mae rhywun yn talu'r pris," meddai, gan ddweud bod hyd yn oed adroddiad a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn dweud y byddai "trigolion lleol yn gweld mwy o draffig".
"Dydw i ddim yn fodlon i bobl Casnewydd dalu pris nad eu bai nhw yw e."
Dywedodd y byddai pobl yn y ddinas "yn hollol yn erbyn cau cyffyrdd".
Ychwanegodd Mr Batrouni, a ddywedodd ei fod yn cefnogi'r llwybr du: "Rydyn ni'n ystyried ein opsiynau i adeiladu ymgyrch, i adeiladu deisebau, ac i weld beth allwn ni ei wneud fel cyngor i frwydro yn erbyn y cynigion hyn."
Golau gwyrdd i drydedd bont dros y Fenai, a chau cyffyrdd M4 i geisio lleihau traffig?
- Cyhoeddwyd20 awr yn ôl
Disgwyl manylion cynlluniau ffordd dros y Fenai ac ardal yr M4
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Rhaid parhau i adeiladu ffordd liniaru'r M4 yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
Dywedodd Jayne Bryant, AS Llafur dros Gasnewydd Islwyn, wrth BBC Cymru y byddai pobl yn y ddinas wedi'u "syfrdanu" o glywed am y cynlluniau.
Dywedodd y byddai cau'r cyffyrdd yn cael "effaith enfawr" ac yn golygu "mwy o draffig yn agos at ble mae pobl yn byw".
Dywedodd ei bod "yn bendant" am weld opsiynau trafnidiaeth gyhoeddus yn cael eu cyflymu, fel y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gynnig.
"Dyna beth sydd angen i ni ganolbwyntio arno," meddai.
Rhybuddiodd adroddiad gan Arup, a gyhoeddwyd ddydd Mawrth, ei bod yn "debygol y byddai lefel y derbyniad cyhoeddus yn isel" ymhlith defnyddwyr y cyffyrdd.
Dywedodd: "Gallai'r opsiwn ddarparu rhai manteision gweithredol lleol ond mae'n annhebygol o sicrhau manteision ehangach o ran cynhyrchiant, gwydnwch neu grynodiad economaidd y byddai ymyrraeth fwy cynhwysfawr ar goridor yr M4 yn ei sicrhau."
'Sefyllfa bresennol ddim yn opsiwn'
Dywedodd Mark Hooper, y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth, ei fod wedi ymrwymo i weithio'n agos gyda'r cymunedau dan sylw "a'r cynghorau yr effeithir arnynt i wneud i'r cyfle hwn weithio".
"Un o'r pethau mae pobl yn anghofio yw ei bod hi bron fel petai Casnewydd yn gweithio fel system ar hyn o bryd.
"Yn fy marn i, dydy hi ddim yn gweithio'n ddigon effeithiol.
"Mae gen i ddwy swydd i'w gwneud, sef datrys y broblem ar yr M4 ond, ar yr un pryd, sicrhau ein bod ni'n helpu Casnewydd a'r ardaloedd cyfagos i ddatrys eu problemau tagfeydd nhw hefyd."
Ychwanegodd: "Rydw i yno i allu gwrando ar bobl ac ymgysylltu â nhw a sicrhau ein bod ni'n gwneud pethau'n well.
"Dydy'r sefyllfa bresennol ddim yn opsiwn."
Mewn dadl ddydd Mawrth, dywedodd Mr Hooper nad oedd y llwybr du yn ymarferol.
"Daeth statws y llwybr gwarchodedig i ben pan gafodd ei ganslo," meddai, gan ychwanegu y byddai'n golygu degawdau o waith dim ond i ddechrau ar y prosiect.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.