Golau gwyrdd i drydedd bont dros y Fenai, a chau cyffyrdd M4 i geisio lleihau traffig?

Mae pryderon am bwysau traffig ar bontydd dros y FenaiFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryderon am bwysau traffig ar bontydd dros y Fenai

GanAlun Jones
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Mae "gwaith datblygu" ar gyfer trydedd bont dros y Fenai yn ailddechrau ar unwaith, meddai'r gweinidog yn Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am drafnidiaeth.

Dywedodd Mark Hooper yn y Senedd eu bod hefyd yn cychwyn prosiect 18 mis i ystyried amrywiaeth o opsiynau ar gyfer yr M4 o amgylch Casnewydd, a allai gynnwys traffordd newydd neu ehangu twneli Brynglas.

Mae gweinidogion yn ystyried cau, neu gau'n rhannol, dair cyffordd ar yr M4, o bosibl erbyn 2028.

Mae Reform UK a'r Ceidwadwyr Cymreig yn dweud bod angen ffordd liniaru M4 i helpu'r economi, ond mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn dweud bod angen "atebion sy'n gweithio i gymunedau a natur".

Nid yw'n glir sut y byddai unrhyw beth yn cael ei ariannu – gallai croesfan newydd y Fenai gostio tua £670m yn ôl swyddogion y llywodraeth.

Disgrifiad,

Golau gwyrdd i drydedd bont dros y Fenai

Bydd y gwaith datblygu ar groesiad dros y Fenai yn cymryd hyd at ddwy flynedd, a byddai o leiaf wyth i ddeng mlynedd cyn i'r groesfan gael ei hadeiladu.

Mae'r gwaith datblygu yn cynnwys gwaith dylunio, asesu amgylcheddol, datblygu achosion busnes a chymeradwyaethau statudol.

Yn ogystal â "buddsoddi parhaus mewn rheoli, cynnal a chadw a gweithredu'r pontydd presennol, i sicrhau eu bod yn ddiogel ac yn ddibynadwy", mae'r llywodraeth hefyd yn ymrwymo i fuddsoddi mewn "mesurau gwydnwch ymarferol ar Bont Britannia, gan gynnwys dargyfeirwyr gwynt, terfynau cyflymder amrywiol a gwelliannau gweithredol eraill i leihau tarfu a chadw traffig i symud".

Ystyriodd yr adolygiad system llif llanw tair lôn ar Bont Britannia, ond am fod y dystiolaeth yn nodi "pryderon diogelwch a gweithredol sylweddol", ni fydd yr opsiwn hwn yn cael ei ddatblygu.

Disgrifiad,

Beth yw'r cynlluniau i leddfu tagfeydd ar yr M4?

Ers dros 30 mlynedd, mae'r syniad o adeiladu traffordd newydd i'r de o Gasnewydd wedi bod yn destun trafod i wleidyddion.

Cafodd ffordd liniaru ei chynnig gyntaf yn 1991 i leihau'r tagfeydd dyddiol wrth dwneli Brynglas.

Ond cafodd y cynllun ei ganslo yn 2019 gan lywodraeth Lafur Cymru oherwydd costau uchel a phryderon am yr amgylchedd.

M4 Casnewydd
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth llywodraeth flaenorol Cymru dan arweiniad Llafur gael gwared â'r cynlluniau i adeiladu ffordd liniaru i'r de o Gasnewydd yn 2019

Mae gweinidogion wedi diystyru'r llwybr du a gynigiwyd yn flaenorol ar gyfer ffordd liniaru'r M4, er y deellir y gallai'r astudiaeth barhau i gynnwys traffordd newydd i'r de o Gasnewydd.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno rhaglen bum mlynedd o newidiadau i sicrhau "manteision tymor byrrach", gan gynnwys "cynllun cyflawni i wella'r ffordd y caiff y draffordd ei gweithredu a'i rheoli".

Dywedodd Mark Hooper y gallai hyn gynnwys cau cyffyrdd yng Nghasnewydd a'r cyffiniau er mwyn gwella llif y traffig.

Map M4

"Canfu'r adolygiad fod mesurau fel y rhain yn cynnig rhai o'r cyfleoedd cyflymaf i wella llif y traffig a gwydnwch yr M4," meddai.

Mae'r llywodraeth yn ystyried cau cyffordd 27, yn High Cross, a'r ffyrdd ymuno ac ymadael sy'n wynebu'r dwyrain yng nghyffordd 26 – Malpas – a chyffordd 25 – Caerllion.

Fodd bynnag, nid oes penderfyniadau pendant wedi'u gwneud, ac mae gweinidogion eisiau ystyried yr effaith ar ffyrdd lleol a siarad â Chyngor Casnewydd cyn bwrw ymlaen.

Dywedodd arweinydd Reform yng Nghymru, Helen Jenner: "Mae'n ymddangos mai ateb Plaid i'r broblem tagfeydd ar yr M4 yw symud y traffig o gwmpas a chau cyffyrdd yn hytrach na datrys y broblem.

"Mae angen datrysiad difrifol a hirdymor ar Gymru i'r tagfeydd difrifol o amgylch Casnewydd, nid cyfres arall o fesurau sy'n gwneud mân newidiadau ar ymylon y broblem.

"Mae Reform yn credu mai'r ffordd liniaru ar gyfer yr M4 yw'r unig ffordd gredadwy o ddarparu capasiti ychwanegol a lleddfu'r pwysau ar y draffordd bresennol."

Ychwanegodd Jenner: "O ran croesfan Menai, nid yw'r gweinidog trafnidiaeth wedi cyflwyno dim heddiw ond mwy o gynlluniau ar gyfer cynlluniau."

Dywedodd llefarydd Llafur Cymru ar drafnidiaeth, Vikki Howells AS: "Mae wedi cymryd pum mis i Lywodraeth Plaid sylweddoli bod problem traffig yng Nghasnewydd – ac yn awr mae'n cymryd 18 mis arall iddynt ddod o hyd i atebion...

"Gan mai dim ond adolygiad arall y mae'n ymddangos bod Plaid yn gallu ei wneud, dylai gweinidogion drosglwyddo'r penderfyniad hwn i arweinwyr lleol yn awr, fel na fydd pobl Casnewydd yn gorfod aros hyd yn oed yn hirach am gamau gweithredu."

Disgrifiad,

Ymateb busnesau lleol i gyhoeddiad o drydedd bont dros y Fenai

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru dynnu'n ôl y cynlluniau i gau cyffyrdd ar draffordd yr M4, gan rybuddio y gallai'r cynnig waethygu tagfeydd ac achosi "anhrefn" o amgylch Casnewydd.

Dywedodd Natasha Asghar AS ar eu rhan: "Bydd cau cyffyrdd pwysig a phoblogaidd ar y draffordd yn syml yn symud y tagfeydd i leoedd eraill ac yn tagu ffyrdd 'A' a strydoedd eraill yn y ddinas, yn hytrach na chreu capasiti ychwanegol ar y ffyrdd.

"Mae angen i Lywodraeth Cymru egluro pa waith modelu sydd wedi'i wneud ar effaith cau cyffyrdd cyn rhoi'r baich o'r arbrawf hwn – a allai fod yn ddi-bwynt – ar gymudwyr, busnesau ac ymwelwyr; arbrawf a fydd yn rhyfela yn erbyn modurwyr ledled y ddinas a thu hwnt."

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth, Mark Hooper: "Mae pobl eisiau gweithredu, nid trafodaethau diddiwedd."

"Maen nhw eisiau teithiau dibynadwy, llai o darfu a hyder bod y llywodraeth yn bwrw ymlaen â gwella pethau a gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl.

"A dyna'n union rydyn ni'n ei wneud."

Beth yw'r farn yn lleol?

Wendy Panting, Roger Panting a Leo Quiqley
Disgrifiad o’r llun,

Mae Wendy a Roger (canol) yn dweud bod rhaid i rywbeth gael ei wneud gyda Leo (dde) hefyd yn credu y byddain "wastraff amser" os na chaiff unrhywbeth ei wneud nawr

Dywedodd Wendy Panting wrth y BBC fod byw gerllaw'r M4 yn "ofnadwy".

"Mae tagfeydd wedi bod ar adegau penodol o'r dydd - bore a ph'nawn - ond mae e' trwy'r dydd nawr."

Mae Roger Panting yn rhagweld y bydd y tagfeydd yn gwaethygu: "Yn anffodus, tan y bydd ffordd osgoi newydd, bydd Casnewydd yn broblem fawr."

Dywedodd Leo Quiqley: "Bydde' fe'n teimlo fel gwastraff amser pe tawn nhw'n treulio deunaw mis yn ystyried y mater, dim ond i ddweud eto yn y diwedd, 'wel, dy'n ni ddim yn mynd i'w wneud e'."

y Cynghorydd Pat Drewett
Disgrifiad o’r llun,

"Mae'n rhaid i ni gadw'r rheiny [cyffyrdd yr M4] ar agor ar bob cyfrif," meddai'r cynghorydd Pat Drewett

Yn ôl y Cynghorydd Pat Drewett, mae'n rhaid cadw cyffyrdd yr M4 o amgylch Casnewydd ar agor.

"Mae yno lawer o fusnesau sydd eisiau mynediad hawdd i weddill Cymru ac i Loegr, ac maen nhw'n cael hynny drwy gyffyrdd y draffordd.

"Felly mae'n rhaid i ni gadw'r rheiny ar agor ar bob cyfrif," meddai'r cynghorydd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.