Cyhuddo dyn o Wynedd o gael llawlyfr terfysgol yr IRA ar ei ffôn

Llys yr Old BaileyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Ymddangosodd Jac Glyn Edwards yn llys yr Old Bailey ddydd Gwener

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn 22 oed o Wynedd wedi ymddangos yn llys yr Old Bailey yn Llundain wedi ei gyhuddo o droseddau terfysgol, yn dilyn honiadau bod llawlyfr canllaw'r IRA wedi cael ei ddarganfod ar ei ffôn symudol.

Mae Jac Glyn Edwards o'r Bermo yn wynebu pedwar cyhuddiad o fod â chofnodion yn ei feddiant allai fod o ddefnydd ar gyfer terfysgaeth, ac un cyhuddiad o brynu gwn.

Mae'r cyhuddiadau'n honni bod Mr Edwards wedi cael ei ddarganfod â phedair dogfen oedd yn debygol o fod yn ddefnyddiol i rywun gyflawni neu baratoi gweithred derfysgol.

Dywedodd yr erlynydd Christopher Amis wrth wrandawiad cychwynnol yn llys yr Old Bailey ddydd Gwener bod y deunydd yn honedig yn cynnwys canllaw'r IRA, a chanllaw ar ryfela urban guerrilla.

Mae Jac Glyn Edwards hefyd wedi ei gyhuddo o brynu neu gael gafael ar arf - gwn llaw, ym mis Mehefin 2024.

Mae'r achos wedi cael ei drosglwyddo i Lys y Goron Lerpwl, gyda 27 Hydref 2027 wedi cael ei osod fel dyddiad cychwynnol posib ar gyfer achos llawn.

Cafodd Mr Edwards ei ryddhau ar fechnïaeth amodol, ac fe fydd yn ymddangos nesaf yn Llys y Goron Lerpwl ar 6 Tachwedd 2026 ar gyfer gwrandawiad cyflwyno ple.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig