Bu farw mam yn ei 40au o ganser yn ymwneud ag asbestos - ai ei hysgol oedd ar fai?

Caroline BryanFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Doedd teulu Caroline ddim yn deall sut yr oedd hi wedi dod mewn i gysylltiad ag asbestos

  • Cyhoeddwyd

Wrth i Caroline Bryan fwynhau ei hamser yn yr ysgol uwchradd yn ystod y 1990au, fyddai hi byth wedi dychmygu treulio ei hwythnosau olaf yn edrych yn ôl ar y cyfnod er mwyn ceisio canfod beth yn union achosodd ei salwch.

Bu farw'r fam 46 oed o mesothelioma - math o ganser nad oes modd gwella ohono ond sy'n gysylltiedig ag asbestos.

Wrth iddi ddod i delerau â'r diagnosis, dechreuodd gredu mai'r unig le y byddai wedi gallu dod i gysylltiad â'r deunydd peryglus oedd yn ei hysgol uwchradd, ddegawdau ynghynt.

Mae ei theulu'n beio'r awdurdod lleol a oedd yn rhedeg yr ysgol ar y pryd am ei marwolaeth ac maen nhw'n cymryd camau cyfreithiol.

Dywedodd Cyngor Caerdydd na fyddai'n briodol gwneud sylw am achos cyfreithiol sydd wrthi'n cael ei gynnal.

Brooklyn Bryan
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Brooklyn bod ei mam eisiau cael cyfiawnder cyn iddi farw, a "sicrhau na fyddai unhryw un arall yn mynd trwy'r un peth"

"Chafodd hi erioed y math o yrfa a fyddai wedi ei rhoi mewn cysylltiad ag asbestos," meddai Brooklyn, merch Caroline.

"'Naethon ni erioed fyw mewn tai a oedd yn cynnwys asbestos," ychwanegodd.

Yn bennaf, treuliodd Caroline ei hamser fel mam oedd yn aros gartref, a doedd y teulu erioed wedi clywed am mesothelioma o'r blaen.

Dysgon nhw'n gyflym ei fod yn debygol o fod wedi deillio o ffeibrau asbestos yr oedd Caroline wedi'u hanadlu heb yn wybod iddi flynyddoedd ynghynt.

"Cyn iddi farw, cysylltodd â chyfreithiwr," ychwanegodd Brooklyn.

"Roedd hi eisiau cyfiawnder – nid dim ond drosti hi ei hun, ond i sicrhau na fyddai unrhyw un arall yn mynd trwy'r un peth."

Caroline Bryan a'i merch BrooklynFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Brooklyn ei bod yn cofio ei mam fel "person caredig" a fyddai'n gwneud unrhyw beth i unrhyw un

Dywedodd Brooklyn, sy'n 26, bod ei byd wedi newid yn llwyr pan gafodd wybod nad oedd modd i'w mam wella o'r canser.

Dechreuon nhw edrych yn ôl drwy bywyd ei mam, a dyna pryd ddechreuon nhw feddwl ei bod wedi dod i gysylltiad ag asbestos yn ei hen ysgol uwchradd sydd belllach wedi cau - hen safle Ysgol Fitzalan yng Nghaerdydd.

Gyda help tîm cyfreithiol, fe ddatgelon nhw ddogfennau gan y cyngor y maen nhw'n dweud sy'n dangos bod asbestos wedi cael ei ddefnyddio ar y safle "i raddau eithaf helaeth" yn ystod y 1990au.

"Soniodd Mam fod yr ysgol ddim mewn cyflwr da," meddai Brooklyn.

"Roedd pethau fel llechi ar y to wedi torri. Roedd llwch a rwbel (debris) pan roedd pethau'n cael eu symud, er ar y pryd doedd hi ddim yn gwybod beth oedd e."

'Oedd hi'n anodd iawn'

Penderfynodd Caroline fynd at y doctor am y tro cyntaf pan sylweddolodd ei bod yn colli ei hanadl.

Gan ei bod yn ei 40au, roedd hi llawer iau na'r rhan fwyaf o gleifion mesothelioma.

Yn wreiddiol dywedodd meddygon y gallai Caroline fyw am rai blynyddoedd eto - ond bu farw dim ond tri mis ar ôl cael y diagnosis.

"O'n i'n 23," meddai Brooklyn.

"Yn sydyn, roedd yn rhaid i mi wneud popeth - cynnal y tŷ, talu'r biliau, coginio, glanhau. Oedd hi bob amser wedi edrych ar ôl fi, doeddwn i ddim wedi arfer gwneud y pethau 'ma.

"Ges i fy ngorfodi i fod yn oedolyn dros nos. Oedd hi'n anodd iawn.

"Nawr mae wedi'n gadael ni, dwi'n teimlo bod yn rhaid i fi barhau [gyda'r frwydr gyfreithiol] ar ei chyfer hi."

Mae teulu Caroline yn cyflwyno hawliad yn erbyn Cyngor Caerdydd yn yr Uchel Lys ynghylch ei marwolaeth, ac mi fydd yr achos yn cael ei glywed ar ddechrau 2027.

Phillip Gower
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Phillip Gower fod dogfennau'r cyngor yn dangos fod asbestos wedi ei ddefnyddio yn gyson

"Mae dogfennau'r cyngor ei hun yn dangos fod asbestos wedi cael ei ddefnyddio i raddau eithaf helaeth yn yr ysgol," meddai Phillip Gower o Redkite Solicitors, sy'n cynrychioli'r teulu.

"Roedd yr adeiladau mewn cyflwr eithaf gwael, gyda'r waliau o amgylch y drysau wedi'u difrodi gan y gynnwys y teils ar y llawr a'r teils ar y to."

Dywedodd Cyngor Caerdydd na fyddai'n "briodol" gwneud sylw ar achos Caroline, ond eu bod yn cydnabod yr "effaith ddinistriol" y mae mesothelioma yn ei chael ar gleifion a'u teuluoedd.

"Hoffem roi sicrwydd i rieni, staff a'r cyhoedd yn ehangach bod y gwaith o reoli asbestos yn adeiladau Cyngor Caerdydd, gan gynnwys ysgolion, yn cael ei gymryd yn ddifrifol iawn," ychwanegodd llefarydd.

Beth yw asbestos?

Cafodd llawer o hen ysgolion cynradd ac uwchradd eu hadeiladu gan ddefnyddio asbestos - deunydd adeiladu cyffredin yn ystod y ganrif ddiwethaf cyn i'r peryglon ddod i'r amlwg.

Cafodd y deunydd ei wahardd fel deunydd adeiladu yn y DU yn 1999.

Mae'r rhan fwyaf o ysgolion presennol yn dal i gynnwys rhywfaint o asbestos, ac mae'n rhaid i awdurdodau eu harchwilio'n rheolaidd er mwyn sicrhau nad yw'n cael ei ddifrodi a bod dim perygl o ryddhau ffeibrau mân i'r aer - sef beth sy'n achosi canserau fel mesothelioma.

Mae cais BBC Cymru dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn awgrymu bod mwy na thri chwarter ysgolion Cymru'n cynnwys asbestos.

Roedd ymatebion gan 20 o'r 22 o awdurdodau lleol yng Nghymru'n dangos bod 76% o'r ysgolion cynradd, ac 81% o'r ysgolion uwchradd yn cynnwys deunyddiau sy'n cynnwys asbestos.

Allan o'r mathau mwyaf cyffredin o ganser yn y DU mae mesothelioma yn yr 20fed safle, ac mae'n gyfrifol am 2,200 o farwolaethau bob blwyddyn, yn ôl Cancer Research UK.

Gall ddeillio o un ffeibr asbestos sydd wedi cael ei anadlu i mewn i'r ysgyfaint heb i chi wybod, weithiau degawdau ynghynt

Mae'n fwy cyffredin ymhlith dynion, yn enwedig y rhai sydd wedi gweithio mewn diwydiannau lle bydden nhw'n fwy tebygol o ddod i gysylltiad ag asbestos.

Ond mae'r rhan fwyaf o'r cleifion sy'n marw o'r clefyd yn marw yn eu 80au.

Canfyddiadau newydd yn 'codi pryder'

Dywedodd epidemiolegydd sydd wedi treulio degawdau'n astudio cyfraddau mesothelioma fod dwy "arsylwad epidemiolegol sy'n achosi pryder" ar ôl edrych ar ddata diweddar.

"Yn gyntaf, mae nifer yr achosion o mesothelioma bob blwyddyn [ymhlith pobl] o dan 40 oed ym Mhrydain wedi cynyddu dros y 5 neu 6 blynedd diwethaf – mae wedi codi o 2.5 achos y flwyddyn i 5 achos y flwyddyn," meddai'r Athro Julian Peto.

"Yr ail beth yw bod athrawon benywaidd yn wynebu risg ychydig yn uwch, ond sydd dal yn sylweddol, o gael mesothelioma."

Dywedodd Peto nad oedd y canfyddiadau'n "derfynol" ond eu bod yn "codi pryder".

Mae dau reswm tebygol, meddai.

Naill ai bod y broses o gael gwared ar symiau mawr o asbestos mewn ysgolion yn yr 80au mewn gwirionedd wedi golygu bod mwy o bobl wedi dod i gysylltiad â'r ffeibrau peryglus ar ddamwain – neu fod yr asbestos yn yr adeiladau yn dirywio ac yn rhyddhau mwy o ffeibrau dros amser, gan felly effeithio ar genedlaethau diweddarach o ddisgyblion ac athrawon.

Ychwanegodd Peto fod angen mwy o ddata i weld yn union beth oedd yn digwydd - ond yn ddibynnol ar y canfyddiadau fe allai olygu bod angen tynnu mwy o asbestos o ysgolion - neu mai nid dyna'r ateb gan mai dyna'n union beth sy'n arwain at fwy o bobl yn dod i gysylltiad â'r deunydd.

Cynnydd 'pendant' achosion pobl dan 50

Yn aml, pan fydd rhywun yn cael diagnosis o mesothelioma, mae staff meddygol yn rhoi manylion cyswllt cyfreithwyr iddyn nhw er mwyn gweld a ydyn nhw'n haeddu iawndal.

"Ni'n gweld mwy o fenywod erbyn hyn, a dyw'r rhan fwyaf ohonyn nhw ddim yn gwybod yn union ble fydden nhw wedi dod i gysylltiad ag asbestos," meddai Richard Green o Hugh James Solicitors.

"Ni hefyd yn dechrau gweld nifer o bobl iau yn dioddef o mesothelioma.

"Yn ystod y 12 mis diwethaf neu fwy, rydym wedi gweld cynnydd yn bendant yn nifer y bobl sy'n cysylltu â ni sydd o dan 50."

Dywedodd bod y cwmni wedi gweld tri o gleientiaid dan 40 sy'n dioddef o mesothelioma o fewn y misoedd diwethaf - ond ei fod dal yn brin iawn gweld unrhyw un dan 50 gyda'r cyflwr.

Dywedodd tan tua degawd yn ôl mai dynion oedd y rhan fwyaf o'r cleifion - dynion oedd wedi treulio'u gyrfaoedd mewn cysylltiad ag asbestos.

Ond nawr mae'r cwmni'n delio â hawliadau gan bobl sy'n credu eu bod wedi dod i gysylltiad â'r deunydd mewn ysgolion, naill ai fel athrawon neu ddisgyblion.

Linda WilsonFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Linda o'r cyflwr yn 82 oed -18 mis ar ôl cael y diagnosis

Roedd Linda Wilson wedi ymddeol o'i gyrfa fel athrawes yng Nghaerdydd ac Essex erbyn iddi benderfynu mynd at y doctor.

Aeth gan ei bod yn colli ei hanadl gan feddwl mai "problemau calon" oedd ganddi, ond cafodd wybod bod ganddi'r cyflwr nad oes modd gwella ohono.

"Dywedodd yr ysbyty y gallai fod wedi dod i gysylltiad â'r deunydd 20 neu 30 mlynedd ynghynt," meddai ei chwaer iau, Helen Wilson.

"Y peth ofnadwy am mesothelioma yw does dim syniad ganddoch chi eich bod wedi dod i gysylltiad ag e tan ei bod hi'n rhy hwyr."

Fel athrawes fioleg, roedd Linda'n gwybod yn union beth oedd y diagnosis yn ei olygu, meddai Helen, ond wnaeth hi ddim cwyno.

Bu farw'n 82 oed, 18 mis ar ôl cael y diagnosis.

"Mae pob un ohonon ni wedi bod mewn adeiladau o bryd i'w gilydd sy'n cynnwys asbestos," meddai Helen.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod diogelwch disgyblion a staff yn "hollbwysig".

"Rydym yn parhau i gefnogi awdurdodau lleol drwy fuddsoddi mewn adeiladau ysgol, darparu canllawiau ymarferol a chydweithio'n agos â'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ac Ystadau Cymru i sicrhau bod ysgolion yn parhau i fod yn ddiogel, yn fodern ac yn addas at y diben," meddai llefarydd.

Ychwanegodd Cyngor Caerdydd fod ganddyn nhw gynlluniau "cadarn a sefydledig" i reoli asbestos yn eu hadeiladau.

"Rydym yn cynnal arolygon o adeiladau'r cyngor, mae cofnodion asbestos yn cael eu cadw a'u hadolygu'n rheolaidd, ac mae gwiriadau'n cael eu cynnal i fonitro cyflwr unrhyw ddeunyddiau hysbys sy'n cynnwys asbestos," meddai llefarydd.

"Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu amgylcheddau diogel i ddisgyblion, staff ac ymwelwyr, a byddwn yn parhau i reoli asbestos yn unol â'r holl ofynion cyfreithiol cyfredol ac arferion gorau cydnabyddedig."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig