Cynllun cyfnewid gwisgoedd ysgol wedi cael effaith 'syfrdanol'

Jon Evans yn gwisgo crys streipiog ac mae gyda ei blant Tom a Sion sy'n gwisgo gwisg ysgol
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Jon Evans blant yn Ysgol Treganna, Caerdydd ac mae bellach wedi creu gwefan i helpu rhieni ar draws y DU i gyfnewid gwisgoedd ysgol

  • Cyhoeddwyd

Mae cynllun ddechreuodd mewn ysgol yng Nghaerdydd i gyfnewid gwisgoedd ysgol am ddim wedi ehangu a bellach yn cynnwys dros 200 o ysgolion.

Pan ddechreuodd Jon Evans o Gaerdydd y cynllun, ei fwriad oedd helpu rhieni eraill gyda'r gost o brynu gwisgoedd ysgol wrth i gostau byw gynyddu.

Dechreuodd adael bocs plastic y tu allan i'w dŷ bedair blynedd yn ôl er mwyn i rieni gasglu eitemau.

Ers mis Mawrth, mae gan y cynllun wefan ac mae 8000 o eitemau wedi eu cyfnewid ar-lein.

Yn ôl Jon, mi allai'r wefan arbed cyfanswm o dros £50m y flwyddyn i deuluoedd yng Nghymru.

Dirprwy bennaeth Ysgol Treganna Gareth Evans yn gwisgo crys glas a throwsus du ac mae'n sefyll drws nesa i Jon Evans sy'n gwisgo crys streipiog a throwsus hufen. Mae Jon gyda'i ddau blentyn - Tom sy'n 10 a Sion sy'n 6 oed.
Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd Jon Evans (dde) y cynllun yn ysgol y plant, Ysgol Treganna, yn 2022 ac mae'n cydweithio gyda'r dirprwy, Gareth Evans (chwith) i gyfnewid gwisgoedd yn yr ysgol

Ar gyfartaledd, mae gwisg ysgol yn costio £343 i blant ysgolion cynradd a £442 i blant ysgolion uwchradd, yn ôl Llywodraeth y DU.

Dywedodd Jon: "Os oes ganddoch chi fwy nag un plentyn, mae hynny'n gost ychwanegol mawr i'r teulu."

Mae'r wefan yn galluogi pobl i ailddefnyddio gwisgoedd ysgol, gwisgoedd chwaraeon ac esgidiau.

"Mae'r system gyfnewid yma yn golygu bod teuluoedd ac ysgolion yn gallu rhoi eitemau o ddillad o safon da ar y wefan a'u cynnig nhw i deuluoedd eraill am ddim.

"Mae teuluoedd eraill yn gallu edrych a gofyn am yr eitemau maen nhw eu hangen ac yn gallu trefnu casglu'r eitemau'n lleol.

"Rydyn ni wastad yn dweud nad ydy'r ffaith bod y dillad yn ail law yn golygu bod y safon yn waeth."

Mae rhai teuluoedd yng Nghymru yn gallu gwneud cais am grant os ydyn nhw angen cymorth gyda chostau ysgol.

Mae'r Grant Hanfodion Ysgol, dolen allanol yn cynnig hyd at £200 i helpu i dalu am gost offer ysgol os ydi teuluoedd ar incwm isel neu os yw'r plant dan ofal awdurdod lleol.

Mae modd gwneud cais am £125 i bob dysgwr a £200 i ddisgyblion sy'n dechrau ym mlwyddyn 7 i helpu gyda'r costau uwch sy'n gysylltiedig â dechrau'r ysgol uwchradd.

Hyd yma, mae Jon yn dweud bod y cynllun cyfnewid wedi arbed dros £71,000 i deuluoedd ac wedi rhoi 8000 o wisgoedd i deuluoedd sydd eu hangen nhw.

Yn ogystal ag arbed arian, mae Jon hefyd yn awyddus i annog pobl i fyw yn gynaliadwy.

"Mae hyn yn helpu teuluoedd i arbed arian a helpu'r blaned a rwy'n credu bod y pwyslais ar yr amgylchedd wedi denu pobl at y cynllun yma.

"Fe ddechreuon ni hyn gydag un ysgol ac erbyn hyn mae 200 o ysgolion yn rhan o'r cynllun ac mae hynny'n cynyddu'n ddyddiol.

"Mae 'na 30,000 ysgol yn y Deyrnas Unedig - mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n defnyddio gwisgoedd ysgol felly allwn ni'n sicr helpu mwy o lawer o ysgolion.

"I fi, yr hyn sy'n bwysig ydi newid agweddau pobl a newid agwedd tuag at ddillad ail law fel bod y syniad yn rhywbeth gwbl naturiol."

Mae plant Jon - Tom, 10 a Sion, 6 - yn helpu eu tad i gael trefn ar y dillad.

Eglura Tom eu bod nhw'n brysur iawn ar y dechrau.

"Roedd ein ystafell ffrynt ni'n llawn dillad ysgol ac roedd dillad dros y bwrdd i gyd a wedyn mwy o fyrddau gyda mwy o ddillad ysgol arnyn nhw."

Fe wnaeth Tom a'i frawd helpu drwy gael trefn ar y dillad a'u rhoi mewn pentwr ar sail oed ac ysgol.

Mae gan Elise Davidson dri o blant ac mae wedi defnyddio'r cynllun cyfnewid i gael siwmper i'w mab Charlie
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Elise Davidson dri o blant ac mae wedi defnyddio'r cynllun cyfnewid i gael siwmper i'w mab Charlie

Mae bron i hanner rhieni yn poeni am gost gwisgoedd ysgol, yn ôl ymchwil gan elusen Achub y Plant a Chynghrair Banc Babanod.

Mae Elise Davison yn fam i dri o blant ac yn dweud ei bod wedi elwa o'r cynllun. Mae hi wedi casglu gwisg newydd ar gyfer ei mab Charlie ar gyfer y tymor newydd.

"Mae mor ddrud. Mae gen i dri o blant ac mae'n rhaid i chi gael siwmperi, crysau-t, trowsusau, esgidiau ac mae'n rhaid i chi gael dwbl hynny achos mae'n rhaid i chi olchi'r dillad.

"Felly mae'n ffordd grêt o arbed arian ond hefyd na'i ddim prynu unrhywbeth newydd os allai osgoi gwneud hynny achos mae'n gymaint o wastraff pan mae pethau ail-law ar gael.

"Mi allai ddweud fy mod i'n chwilio am siwmperi oed saith i wyth a fel arfer mi wneith rhywun ddweud bod ganddyn nhw rai. Mae'r cynllun wir yn gweithio."

'Mae 'di cael effaith anhygoel'

Dechreuodd Jon y cynllun yn ysgol y plant, Ysgol Treganna, yn 2022 ac mae'n gweithio gyda'r dirprwy bennaeth, Gareth Wyn Evans i gyfnewid gwisgoedd.

Dywedodd Mr Evans: "Mae be' sydd wedi ei greu yn syfrdanol a 'di cael effaith anhygoel i fod yn onest. Mae cwta 8000 o eitemau wedi cael cartref newydd, sydd wedi arbed tua £50,000 i rieni a cymuned Treganna.

"Yn ogystal â hynny, mae Tom wedi cymryd rôl flaenllaw yn cynnal gwasanaethau i blant yr ysgol, sydd yn sicrhau hefyd eu bod nhw'n cymryd rôl ac yn deall pa mor bwysig 'di edrych ar ol y blaned.

"Be 'da'n ni'n trio ei neud fel ysgol ydi casglu eitemau o eiddo coll ac yna dwi'n ista lawr efo Tom a chriw o ffrindiau a wedyn maen nhw'n didoli'r eitemau a wedyn 'da'n ni'n cysylltu efo Jon a mae Jon yn dod i'r ysgol i gasglu'r eitemau.

"Da'n ni hefyd yn hyrwyddo'r wefan ar ein gwefannau cymdeithasol ni a'r cylchylythyr wythnosol er mwyn codi statws ac er mwyn i rieni wybod pa mor bwysig ydi'r fenter yma."

Dywed bod yr adborth gan rieni wedi bod "yn hynod gadarnhaol. Mae nifer fawr o rieni yn defnyddio'r wefan, wedi helpu gyda'r gwaith ac mae'n arbed arian mewn cyfnod mor heriol yn ariannol".

Ychwanegodd bod y wefan yn helpu gyda'r stigma sy'n gysylltiedig â thalu am wisgoedd ysgol.

"Dydi'r rhieni rwan ella ddim yn teimlo cywilydd o orfod dod i'r ysgol i gyfnewid dillad. Maen nhw'n gallu gwneud hyn yn eu hamser eu hun heb fod yn ymwybodol i bobl eraill bod hyn yn digwydd."

Yn ogystal ag ysgolion yng Nghymru, mae ysgolion o bob rhan o'r Deyrnas Unedig - o Ogledd Iwerddon i Norfolk - yn defnyddio'r wefan.

Pynciau cysylltiedig