Pryder teulu o Geredigion wrth i aelod barhau i fod ar goll yn Nepal

Disgrifiad,

Teulu o Geredigion yn 'colli gobaith' wrth i aelod barhau i fod ar goll yn Nepal

GanSara Down-Roberts
BBC Cymru Fyw
  • Cyhoeddwyd

Yn Nhal-y-bont yng Ngheredigion cynyddu mae pryderon teulu Jyoti Upadhyay wrth iddyn nhw ddisgwyl clywed unrhyw newyddion am aelod sydd ar goll yn Nepal.

Bellach mae nifer y bobl sydd wedi marw yno, yn sgil y llifogydd a'r tirlithriad difrifol, wedi codi i 752 ac mae'r tirwedd a'r tywydd yn gwneud gwaith timau achub yn anodd wrth iddyn nhw barhau i geisio dod o hyd i bobl yn fyw.

Ddydd Sul mae oddeutu 2,500 o bobl yn parhau ar goll - un o'r rheiny yw dyn a symudodd i fyw at fam-yng-nghyfraith Jyoti chwarter canrif yn ôl.

Wrth siarad ar raglen Bwrw Golwg bu Jyoti sydd wedi bod yn byw yn Nepal ond sydd yn byw yn Nhal-y-bont ers pum mlynedd yn dweud bod y gobeithion o ddod iddo yn pylu erbyn hyn.

"'Dyn ni fel teulu," meddai,"wedi bod yn aros am wybodaeth am aelod o'r teulu. Dyw e ddim yn perthyn ond mae e yn aelod o deulu fy ngŵr ers 25 mlynedd - mae e a'i deulu yn byw gyda fy mam-yng-nghyfraith, mae gwraig gydag e a mab sy'n 13 oed.

"Odd e'n gweithio mewn gorsaf hydropower ar yr afon ac mae e wedi bod ar goll ers dydd Mercher.

"I fod yn onest ers dydd Sadwrn ry'n ni wedi colli gobaith. Mae wedi cymryd tridiau i unrhyw newyddion ddod mas o'r safle penodol yna.

"Mae wedi bod yn hynod o anodd i gyrraedd y safle. Be' 'dan ni'n ddeall yw e bod yr holl adeiladau o dan fetrau o fwd ac mae wedi bod yn amhosib chwilio am unrhyw un yno."

NepalFfynhonnell y llun, Getty Images

"O fewn 20 munud o'dd y cysylltiadau i gyd lawr. Dyw'r signals ffôn ddim wedi bod yn gweithio a dyna pam mae wedi bod mor anodd i glywed unrhyw beth.

"'Na'th e gymryd rhyw dridiau i ni gael unrhyw wybodaeth. Ni wedi bod yn edrych ar y newyddion, trio contacts lleol a cheisio gweld be' mae'r fyddin a'r heddlu wedi bod yn ei wneud.

"Yn anffodus mae'r orsaf lle oedd e'n gweithio - gorsaf 3B - mae'n debyg mai dyna'r un sydd wedi bod fwyaf anodd i geisio chwilio am unrhyw arloeswyr.

"Ni'n gwybod mai'r unig ffordd o gyrraedd y safle yw trwy hofrennydd. Mae angen sgiliau arbennig i fedru gyrru hofrennydd yn yr ardal yna. Mae'n le anodd dros ben. Ni wedi bod yn aros am beiriannau spesial er mwyn gallu gweithio drwy'r mwd.

"O'dd sôn bod criw bach o China wedi cyrraedd ddoe. Mae 'na beth newyddion da wedi dod o orsafoedd eraill ar hyd yr afon wrth i rai pobl fedru cuddio mewn twnneli oddi fewn y gorsafoedd hydropower.

"Does dim lot o obaith ar gyfer y safle penodol yna - ond dydyn ni ddim yn gwybod nes bod rhywun yn gallu mynd mewn. Ar y funud mae popeth o dan fwd."

NepalFfynhonnell y llun, Swyddfa Prif Weinidog Nepal
Disgrifiad o’r llun,

Yr ymdrechion o geisio dod o hyd i'r miloedd sy'n parhau ar goll

Yn ôl y wybodaeth ddiweddaraf mae cannoedd o'r rhai sy'n parhau ar goll yn weithwyr safleoedd ynni dŵr yn Nepal.

Mae 'na rai twristiaid hefyd ar goll ac mae'n debyg bod y mwyafrif o'r rhai hynny ar bererindod, eglura Jyoti Upadhyay.

"Mae'r ardal yma yn bwysig ar gyfer pererindota i sawl crefydd. Heb fod ymhell mae Mynydd Kailash a llyn Mansarovar."

NepalFfynhonnell y llun, Byddin Nepal

Ychwanegodd bod y rhan yma o'r byd wedi arfer â rhai trychinebau naturiol ond nad oedd neb wedi disgwyl trychineb ar y raddfa yma.

"Mae hwn yn waeth na beth sydd wedi digwydd o'r blaen. Yn Nepal ni'n gwybod bod daeargrynfeydd yn gallu digwydd," meddai ond y pryder gwirioneddol bellach yw "wrth i'r tymheredd gynhesu ac mae e'n cynhesu yn gynt yn yr Himalaya yw y bydd mwy o achosion o rewlifoedd yn toddi ac yn cwympo".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pryderon Jyoti Upadhyay wrth i aelod o'i theulu barhau i fod ar goll yn Nepal

30 Awst 2026

Bwrw Golwg

Pynciau cysylltiedig