Ymchwil arloesol yn defnyddio athletwyr i fesur ansawdd ein moroedd

Teclyn profi dwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r teclynnau bach yn cael eu rhoi ar siwtiau nofio athletwyr

GanDafydd Morgan
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae prosiect arloesol sy'n casglu data am ein moroedd drwy osod teclynnau ar gyrff athletwyr wedi dechrau yng Nghymru.

Mae'r cynllun - y cyntaf o'i fath - yn defnyddio teclynnau samplu bychain ar gefn gwisgoedd nofio athletwyr er mwyn casglu data am ansawdd dŵr ar hyd eu llwybrau nofio.

Y gobaith yw rhannu'r data gydag asiantaethau amgylcheddol a chwmnïau dŵr er mwyn gwella ansawdd ein dyfroedd yn y dyfodol.

Pobl ar draeth Bae Whitmore, Ynys y Barri mewn siwtiau gwlyb

Mae'n 06:30 ar fore braf yn Ynys y Barri, ac mae cannoedd o athletwyr yn paratoi i gymryd rhan mewn triathlon sbrint.

Ond eleni mae pethau ychydig yn wahanol, gyda rhai o'r cystadleuwyr yn cael eu tynnu i un ochr a theclynnau bach maint darn 50 ceiniog yn cael eu gosod ar gefn eu gwisgoedd nofio.

Dyma'r samplwyr newydd, sy'n cael eu defnyddio fel rhan o brosiect rhwng mudiadau chwaraeon fel Triathlon Cymru a Nofio Cymru, a phrifysgolion Bangor ac Imperial yn Llundain.

Fel arfer byddai trefnwyr y ras yn profi'r dŵr i weld a yw'n ddiogel i nofio ynddo, ond mae cyfyngiadau i'r math yma o samplu, gan ei fod yn cael ei gasglu mewn un neu ddau o fannau ychydig cyn y ras, ac felly nid yw'n rhoi darlun cwbl fanwl.

Mae'r samplwyr newydd yn dilyn union lwybr y nofwyr ar yr adeg maen nhw yn y dŵr, ac felly'n darparu data mwy cywir.

Pobl ar draeth Bae Whitmore, Ynys y Barri mewn siwtiau gwlyb
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r prosiect newydd yn defnyddio samplwyr bach sydd ynghlwm wrth wisgoedd nofio athletwyr

Yn ôl Iestyn Harret o Triathlon Cymru, mae'n rhan bwysig o'u dyletswydd i ofalu am eu haelodau.

"Ma' fe'n bwysig casglu'r data yma oherwydd bod nifer o bobl nawr yn nofio yn y môr, ac maen nhw'n cymryd rhan yn y triathlon ac yn nofio yn yr open water, ac ma' fe'n hynod o bwysig iddyn nhw wybod bod y dŵr yn lân."

"Wedyn ar ôl cael y data ry' ni'n gallu rhannu'r data gyda nifer o bobl sydd eisiau fe, fel Dŵr Cymru, fel Nofio Cymru, fel trefnwyr triathlon ac unrhyw un arall sydd angen y data."

Nofwyr

Mae glendid dŵr yn rhywbeth sydd wedi codi ei broffil yn ddiweddar, gan hawlio'r penawdau wrth i'r cyhoedd alw am safonau gwell.

Mae'n rhywbeth mae llawer o bobl yn poeni amdano, gan gynnwys athletwyr triathlon fel Bethan Jones, sy'n bencampwr amatur y byd yn y categori 25-29 oed.

"Fi'n adnabod lot o bobl sydd wedi bod yn sâl yn y môr ac mewn llefydd fel Doc y Gogledd yn Llanelli.

"Fi'n definitely yn cymryd hynny i ystyriaeth cyn mynd i mewn i'r dŵr os ydw i'n ymarfer a hyfforddi."

"Os oes ras, fi'n dueddol o falle ddim meddwl amdano fe cymaint, achos mae trefnwyr y ras yn meddwl amdanoch chi.

"Ond ie, definitely pan fi'n hyfforddi, fi'n meddwl am hynny."

Bethan JonesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bethan Jones yn dweud bod glendid y môr yn ystyriaeth bwysig wrth hyfforddi mewn dŵr agored

Unwaith mae'r cystadleuwyr wedi gorffen nofio, mae'r tîm technegol yn dod i dorri'r samplwyr i ffwrdd yn barod i'w hanfon i Brifysgol Bangor.

Mae Kate Herridge yn fyfyrwraig PhD sy'n gweithio ar y prosiect.

Ar ôl crynhoi'r samplau, "rydyn ni hefyd yn gallu gweld a oes unrhyw bathogenau wedi glynu wrth y samplwyr", meddai.

"Rydyn ni'n gallu eu tynnu oddi ar y samplwyr, eu crynhoi a'u canfod, a gweld beth sydd ynddyn nhw."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.