Ai Pier Bangor yw pier gorau Cymru?
- Cyhoeddwyd
Mae Pier Bangor, sy'n dathlu 130 o flynyddoedd o fod ar agor eleni, wedi cyrraedd rhestr The Guardian o 10 o bieriau gorau Prydain.
Pier arall o Gymru ar y rhestr a gyhoeddwyd ym mis Awst eleni yw Pier Penarth ym Morgannwg.
 Phier Bangor yn dathlu ei phen-blwydd yn 130 oed eleni, dyma gip ar hanes a lluniau o'r pier dros y blynyddoedd.

Pier Bangor heddiw
Gan ymestyn 470 metr dros Afon Menai dyma ail bier hiraf Cymru - tu ôl i Bier Llandudno - a'r nawfed hiraf yng Nghymru a Lloegr.
Adeiladwyd y pier, sydd wedi ei restru fel adeilad Gradd II, yn 1896 gan y dylunydd JJ Webster am £14,475, sy'n gyfystyr â dros £2m y dyddiau yma. Agorwyd y pier ar 13 Mai y flwyddyn honno.
Wrth edrych ar y ffensys haearn, y ciosgau a'r giatiau mae dylanwad yr oes Fictoraidd yn amlwg ac mae'n parhau i'n hatgoffa'n gryf o gymeriad y cyfnod hyd heddiw.

Pier Bangor, 2022 wedi ei oleuo i ddangos undod ag Wcráin
Yn ystod ei ddyddiau cynnar byddai rheilffordd gul wedi ei gosod arno er mwyn cludo bagiau teithwyr fyddai'n glanio yno o lefydd fel Lerpwl a Blackpool.

Llun cynnar iawn o Bier Bangor

Cerdyn post o Bier Bangor, 1902
Difrodwyd y pier yn 1914 ar ôl i long nwyddau'r SS Christina dorri'n rhydd o'i hangor. Roedd gymaint o hollt fel y bu rhaid i beirianwyr brenhinol Ynys Môn greu pont drosti.

Pan holltwyd y pier yn hanner yn 1914
Boddwyd Sappers Lionel Hemingway a Samuel Hill yn ystod yr ymdrech i'w atgyweirio oherwydd tonnau garw'r Fenai. Maen nhw wedi eu claddu ym mynwent Biwmares.

Dyluniad cychwynol o fan glanio Pier Bangor

Yn 1927 sefydlwyd labordy bioleg forol yn un o giosgau'r pier gan y Prifathro Philip Whyte oedd wedi bod yn dysgu ym Mhrifysgol Bangor (Prifysgol Cymru ar y pryd) am 40 mlynedd.


Erbyn 1971 penderfynwyd cau'r pier oherwydd ei gyflwr gwael ac roedd posibilrwydd o'i ddymchwel. Ond fe'i achubwyd gan Gyngor Dinas Bangor wnaeth ei brynu gan Gyngor Bwrdeistref Arfon am 1c yn unig.
O dan arweiniad y Maer John Hadyn Jones adnewyddwyd y pier gan adeiladwyr lleol am swm o £750,000.

Pier Bangor, 2005
Yn ystod ei chyfnod fel Maer Bangor aeth y Cynghorydd Lesley Day ati i godi arian i'r pier drwy wneud naid elusennol oddi arni ym mis Gorffennaf 1997.

Dechreuwyd gwaith adfer eto ar y pier yn 2017 gyda chyllid o £1m gan Gyngor Dinas Bangor. Cwblhawyd y gwaith dros gyfnodau drwy sanblastio, rhoi gwaith haearn newydd o islaw'r pier, a datgysylltu'r hen fan glanio ar y pen.
Yn 2022 derbyniodd wobr pier y flwyddyn ar draws y DU, gyda'r beirniaid yn dweud ei fod yn "cynnig y panorama o olygfeydd gorau o unrhyw bier yn y DU".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd4 Awst 2025

- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2022
