Nathan Gill i dalu arian yn ôl ar ôl cael ei garcharu am lwgrwobrwyo

Cafodd Nathan Gill ei ddedfrydu ym mis Tachwedd 2025 i 10 mlynedd a hanner o garchar
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-arweinydd Reform UK yng Nghymru, Nathan Gill, wedi cael gorchymyn llys i dalu dros £22,000 ar ôl cael ei garcharu am lwgrwobrwyo.
Cafodd Gill, 53 oed o Ynys Môn, ei ddedfrydu ym mis Tachwedd 2025 i 10 mlynedd a hanner o garchar, ar ôl pledio'n euog i wyth o gyhuddiadau.
Y gred ydy iddo dderbyn hyd at £40,000 i roi cyfweliadau teledu a gwneud areithiau o blaid Rwsia yn Senedd Ewrop rhwng Rhagfyr 2018 a Gorffennaf 2019.
Mewn gwrandawiad byr yn Llys yr Old Bailey ddydd Iau fe wnaeth Llywodraeth y DU gais llwyddiannus i hawlio £22,592.41 ganddo.

Roedd Nathan Gill wedi derbyn arian gan Oleg Voloshyn (trydydd o'r chwith) - cyn-aelod o senedd Wcráin dros blaid oedd yn gefnogol o bolisïau Rwsia
Clywodd Llys yr Old Bailey adeg dedfrydu Gill ei fod, tra'n aelod etholedig o Senedd Ewrop, wedi derbyn arian gan Oleg Voloshyn - cyn-aelod o senedd Wcráin dros blaid oedd yn gefnogol o bolisïau Rwsia.
Daeth i'r amlwg bod Voloshyn yn gweithredu ar ran "ffrind agos" i Vladimir Putin - Viktor Medvedchuk, 71 - cyn oligarch oedd yn ffynhonnell y ceisiadau am arian.
Gill oedd y gwleidydd Prydeinig cyntaf i gael ei ddedfrydu o dan Ddeddf Llwgrwobrwyo 2010.
Dywedodd y barnwr Mrs Ustus Cheema-Grubb ar y pryd fod Gill wedi "camddefnyddio safle o awdurdod ac ymddiriedaeth sylweddol" a'i fod wedi "troseddu'n barhaus".
Doedd Gill ddim yn bresennol yn y llys fore Iau ar gyfer y gwrandawiad hawlio arian.
Dywedodd yr erlynydd Ben Holt wrth y Barnwr Richard Marks bod y swm i'w dalu wedi cael ei gytuno rhwng y ddwy ochr.
Dywedodd Clare Ashcroft, oedd yn cynrychioli Gill yn y llys, y byddai angen amser i werthu ei eiddo sy'n cael ei rentu, er mwyn gallu talu'r arian.
Caniataodd y barnwr i'r cyn-wleidydd o Langefni gael chwe mis i dalu'r arian, neu wynebu naw mis yn ychwanegol o garchar.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2025

- Cyhoeddwyd26 Medi 2025

- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2025
