Adfer gwasanaeth bws yn 'fuddugoliaeth' i bentrefwyr ym Môn
Dychweliad gwasanaeth bws yn mynd i wneud 'gwahaniaeth enfawr'
- Cyhoeddwyd

Roedd Gwalchmai Uchaf yn un o sawl pentref ar Ynys Môn a welodd wasanaethau'n cael eu torri ddwy flynedd yn ôl
Mae penderfyniad cwmni bysiau i ailddechrau gwasanaeth bws mewn pentref ar Ynys Môn yn "fuddugoliaeth" i'r pentrefwyr, yn ôl yr Aelod Seneddol lleol.
Roedd cwmni Arriva wedi penderfynu yn 2023 eu bod am stopio gwasanaethu rhai pentrefi ar Ynys Môn yn llwyr.
Un o'r pentrefi a gafodd ei effeithio oedd Gwalchmai Uchaf, ond mae'r cwmni bellach wedi cadarnhau y bydd bysiau yn dychwelyd yno yn ystod oriau'r dydd.
Dywedodd Llinos Medi, AS Plaid Cymru dros Ynys Môn, fod "colli'r gwasanaeth blaenorol wedi effeithio'n ddifrifol ar drigolion Gwalchmai Uchaf" a bod y newyddion "i'w groesawu'n fawr".
Toriadau bysiau: 'Sut dwi fod i gyrraedd yr ysbyty?'
- Cyhoeddwyd24 Medi 2023
Gwasanaeth bws newydd rhwng y gogledd a'r de i ddechrau fis Hydref
- Cyhoeddwyd19 Awst
Gweinidog wedi trafod trydedd bont dros y Fenai gyda chynghorwyr
- Cyhoeddwyd18 Awst
Pan ddaeth y cyhoeddiad ddwy flynedd yn ôl ynglŷn â'r toriadau, dywedodd Arriva mai llai o alw ers y pandemig a llai o gyllid gan Lywodraeth Cymru oedd yn bennaf gyfrifol.
Roedd y newidiadau yn golygu nad oedd y gwasanaethau rhif 4 arferol rhwng Bangor a Chaergybi yn stopio yn Llanddaniel, Bodedern, Trefor, Gwalchmai Uchaf, Llynfaes, Ty'n Lôn na Bodffordd.
Roedd pryderon yn lleol y byddai rhai ardaloedd yn wynebu cael eu gadael ar ôl a heb gysylltiad â gwasanaethau hanfodol.
Ond yn dilyn ymgyrchu yn lleol mae Arriva wedi cadarnhau y bydd bysiau nawr yn gwasanaethu Gwalchmai Uchaf rhwng 08:00 a 18:00.

Roedd Wil ac Owain, sy'n byw yn y pentref, yn hapus iawn o weld y gwasanaeth yn dychwelyd i Walchmai Uchaf
Un fu'n ymgyrchu, ac sy'n falch iawn o weld y tro pedol, yw Owain Edward Williams.
"Mae o wedi bod yn ofnadwy i fod yn onest," meddai.
"Dwi 'di clywed sôn bod lot o bobl wedi bod yn sownd yn eu cartrefi mewn ffordd.
"Dwi 'di bod yn anfon e-byst at y cyngor ac Arriva... do'n i ddim yn meddwl am lwyddo neu methu - o'n i just yn benderfynol o gario 'mlaen."
Un arall o drigolion y pentref sydd "wrth fy modd" ar ôl clywed am y cyhoeddiad yw Wil Williams, sy'n 82 oed.
"Mae o'n ofnadwy o bwysig. Mae 'na lot o bensiynwyr wedi bod yn cwyno yng Ngwalchmai gan fod y bws wedi stopio.
"Mae o'n bwysig achos ma' rhaid cerdded lawr i'r gwaelod 'na, neu at y toll gate, a 'ma 'na lawer un sydd methu.
"Ma' 'na waith cerdded i fan'na... ac mae'n amhosib iddyn nhw.
"Mi 'neith o wahaniaeth ofnadwy, yn enwedig i'r rhai sydd heb geir."

Roedd Sharon Jones yn poeni am ddiogelwch y rhai oedd yn gorfod cerdded draw i'r safle bws agosaf ar ochr yr A5
Dywedodd Sharon Jones, cadeirydd Cyngor Cymuned Gwalchmai, fod y gwasanaeth yn "adnodd pwysig ofnadwy" i'r pentref.
"Fel cyngor cymuned 'dan ni'n ymwybodol o'r holl bobl sydd wedi gweld colli'r gwasanaeth a gweld nhw'n gorfod cerdded yr holl ffordd lawr at yr A5 at y safle bws.
"Ma'n gallu bod yn beryg i gerdded lawr achos ma' 'na damaid o'r lôn sydd heb balmant."
Dywedodd ei bod yn falch iawn fod Arriva wedi gwrando ar drigolion a'i bod yn wych cael rhywbeth cadarnhaol fel hyn yn digwydd yn y pentref.
Colli'r gwasanaeth 'wedi cael effaith sylweddol'
Dywedodd Llinos Medi ei bod yn "falch iawn bod Arriva wedi gwrando ar y pryderon a godwyd gan drigolion".
"Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn hanfodol i lawer o bobl yn ein cymunedau.
"Gwnaed yn glir gan drigolion bod colli'r gwasanaeth hwn wedi cael effaith sylweddol ar eu bywydau bob dydd, ac rwyf yn falch bod y pryderon hynny wedi cael eu cydnabod."
Ychwanegodd y byddai'n parhau i drafod gyda darparwyr trafnidiaeth er mwyn sicrhau bod cymunedau ledled Ynys Môn yn cael mynediad at y gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus sydd eu hangen arnynt.
"Er bod hwn yn ganlyniad cadarnhaol, mae hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd ymgysylltu ystyrlon â chymunedau cyn gwneud newidiadau i wasanaethau lleol hanfodol."

Mae'r cynghorydd Neville Evans yn dweud ei bod hi'n bwysig cynnal ymgynghoriad cyn cyflwyno unrhyw newidiadau pellach
Un arall sydd wedi bod yn ymgyrchu dros adfer y gwasanaeth yng Ngwalchmai Uchaf yw'r cynghorydd Neville Evans.
"Roedd trigolion yn ddealladwy wedi'u siomi wrth golli mynediad at wasanaeth bws yn ystod y dydd, ac rwyf yn falch bod Arriva wedi gwrthdroi'r penderfyniad blaenorol hwn," meddai.
"Mae colli'r gwasanaeth wedi effeithio'n ddifrifol ar drigolion Gwalchmai Uchaf.
"Dydi o ddim yn ymarferol i'r rhai sydd â phroblemau symudedd a rhai sydd heb fynediad at gar, gerdded milltir i Gwalchmai Isaf er mwyn cyrraedd y safle bws."
Ychwanegodd fod angen gwrando ar gymunedau cyn cyflwyno newidiadau yn y dyfodol.
"Ma' pentrefi bach gwledig Ynys Môn yn dibynnu ar wasanaethau bws, ac mae'n bwysig bod 'na ymgynghoriad o ran unrhyw fath o newidiadau neu doriadau."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.