'Cwestiwn tyngedfennol wedi newid fy mywyd' - effaith hunlosg

Roedd Osian Leader yn athro am 20 mlynedd
- Cyhoeddwyd
Roedd Osian Leader o Gaerdydd yn athro cynradd am dros 20 mlynedd, ond yn 2014, fe newidiodd pethau'n llwyr.
Dywedodd ffrind wrtho nad oedd yn edrych yn dda a bod angen iddo fynd i weld ei feddyg teulu.
"O'n i jyst ddim yn gallu ymdopi yn y swydd rhagor," meddai.
Ar ôl cael profion gan ei ddoctor, roedd ei bwysedd gwaed yn iawn, ond roedd pryderon am ei guriad calon.
"Oedd gen i curiad calon gorffwys o 130 curiad y munud, so dyw hwnna ddim yn iach ydy e, yn amlwg?
"O'n nhw'n poeni mod i'n cael trawiad," meddai, ond roedd Osian yn dioddef o hunlosg, neu burnout.
Straen ydy 'risg pennaf' y gweithle
Hunlosg ydy risg pennaf y gweithle yn ôl Cynghrair Undebau Llafur (TUC) Cymru - yn hytrach na pheryglon traddodiadol fel gweithio ar uchder neu beirianwaith anniogel.
"Mae hunlosg yn achos pryder mawr," meddai Ceri Williams, swyddog polisi TUC Cymru.
"Mae 'na doriadau mewn sawl gweithle, gyda mwy o ddisgwyl i bobl weithio oriau hirach heb gael fwy o gyflog am hynny, ac mae 'na ddiffyg cefnogaeth gan reolwyr."
Mae'n croesawu camau mae cyflogwyr yn eu cyflwyno ar gyfer llesiant staff ond yn rhybuddio bod angen mynd i'r afael â phrif achosion straen.

Dywedodd Ceri Williams o TUC Cymru bod "hunlosg yn achos pryder mawr"
Mae undebau athrawon yn rhybuddio, ar ddechrau'r flwyddyn ysgol newydd, bod angen mwy o gefnogaeth i athrawon.
"Mae'n rhaid gwneud newidiadau er mwyn dod â llawenydd yn ôl i ddysgu," meddai Neil Butler o undeb yr NASUWT.
"Wrth i'r gwaith di-stop barhau, byddwn ni'n parhau i golli athrawon da o ysgolion Cymru."
'Cael hi'n anodd gwneud pob dim'
Er iddo dreulio 20 mlynedd fel athro cynradd, fe aeth pethau'n fwy heriol i Osian Leader.
"O'n i yn dechrau gweld agweddau gwahanol o'r gwaith yn anodd," meddai, gan gydnabod ei bod hi'n anodd cael cydbwysedd rhwng dysgu a magu teulu.
"O'n i jyst yn cael hi'n anodd i wneud pob dim.
"Wrth edrych yn ôl, fi'n synnu pa mor hir oedd e'n cymryd i fi wneud pethe.
"Felly, wrth gwrs, yr ymateb oedd, achos o'n i ddim yn cyflawni gymaint, o'n i'n trio gwneud mwy.
"Ond do'n i wedyn ddim yn gwneud y pethau cywir, o'n i'n gwneud y pethau oedd ddim mor bwysig i'r swydd ei hunan, a ma' hwn yn jyst yn dangos pa mor ddryslyd mae'n gallu mynd pan ma' hunlosg yn ein taro ni."
'Ydy popeth yn iawn?' yn drobwynt
Cwestiwn gan ei feddyg teulu helpodd Osian i ddeall nad oedd pethau'n iawn.
"Dyma hi'n gofyn i fi y cwestiwn tyngedfennol wnaeth siŵr o fod newid trywydd fy mywyd.
"Wnaeth hi ofyn wrtha i 'ydy popeth yn iawn?'
"Wel dyna gwestiwn wnaeth jyst agor llifddorau yn y man a'r lle, dagrau - rhyw fath o methu dal fy hun i fyny."

Llun archif o 2006 o Osian Leader pan oedd yn gweithio fel athro cynradd
Fe gafodd ei gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans gan fod ei guriad calon mor gyflym a bod y meddyg teulu'n poeni ei fod am gael trawiad.
"Dywedodd y meddyg yn yr ysbyty: 'na, 'sdim byd yn bod ar dy galon di, ma' dy galon di'n iawn, ond ma' na' rywbeth seicolegol yn mynd o'i le fan hyn'."
Therapi'n gwneud 'byd o les'
Fe drodd Osian rywbeth ofnadwy yn rhywbeth positif, a bellach mae ganddo yrfa newydd yn cwnsela eraill.
"Do'n i'n deall dim am iechyd meddwl ac yn deall dim am pam oedd hyn wedi digwydd i fi, na beth oedd wedi digwydd i fi," meddai.
Awgrymodd ffrind y dylai ystyried gweld therapydd.
Doedd Osian ddim am wneud i ddechrau, cyn iddo newid ei feddwl.
"Fe wnaeth e fyd o les i mi," meddai.
"Wrth siarad a rhannu fy mhrofiadau i, dechreuais i ddeall, o reit, mae hwnna'n gwneud lot o synnwyr."

Roedd Osian Leader yn athro cynradd am dros 20 mlynedd
Yn ystod y sesiynau fe ddechreuodd fagu diddordeb yn elfennau damcaniaethol y maes.
"Fe ddigwyddodd y foment o dorri ym mis Ionawr 2014, ac erbyn Medi y flwyddyn honno, o'n i wedi cychwyn cwrs yn y brifysgol er mwyn hyfforddi fel therapydd."
Fe sefydlodd ei fusnes ei hun a bellach mae'n cwnsela unigolion ac yn cynghori cwmnïau a sefydliadau ar sut i wella'u darpariaeth o gymorth llesiant i staff.
Mae hefyd yn gweithio gyda chyrff fel Undeb Rygbi Cymru a Sefydliad Jac Lewis, i helpu clybiau a chwaraewyr ifanc ddatblygu strategaethau i helpu'u hiechyd meddwl.
Stigma iechyd meddwl 'dal yno'
Mae Osian yn teimlo bod stigma dal yn bodoli ynglŷn â gofyn am help pan maen rhywun yn dechrau dangos symptomau o hunlosg.
"Mae'r stigma yn sicr dal i fod yno," meddai, gan ychwanegu: "Falle pan dyw pobl ddim yn sylweddoli bod yr anhawster yno yn y lle cyntaf."
Mae'n dweud bod pobl yn normaleiddio profiadau anodd yn rhy hawdd, a ddim o reidrwydd yn sylweddoli'r effaith y mae hynny'n ei gael.
"Mae pobl ofn weithiau cymryd amser off gwaith oherwydd unrhyw beth sy'n ymwneud gyda iechyd meddwl.
"Maen nhw'n credu bod hynny'n mynd i arwain atyn nhw'n colli swydd neu yn colli ryw fath o obaith o ddringo yn y corff maen nhw ynddi."
Mae Osian yn credu bod angen newid polisïau cwmnïau i helpu unigolion sy'n dioddef gyda'u hiechyd meddwl a bod angen mwy o gefnogaeth.
Beth ydy hunlosg?
Mae hunlosg neu burnout yn cael ei gydnabod gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) fel stad o flinder corfforol ac emosiynol.
Mae elusen Mental Health UK yn dweud bod 39% o weithwyr ifanc rhwng 18 a 24 oed wedi bod yn absennol o'r gwaith gan fod straen wedi cael effaith ar eu hiechyd meddwl yn 2025.
Mae'r ystadegau diweddaraf Gweithgor Iechyd a Diogelwch Llywodraeth y DU yn awgrymu bod 22 miliwn o ddiwrnodau gwaith wedi cael eu colli drwy Brydain oherwydd straen yn 2024-25.
Mae undebau yn dweud bod angen i gyflogwyr ystyried pethau fel llwyth gwaith rhesymol a chynnig cyflogau teg.
Ydy hunlosg yn wahanol i iselder neu orbryder?
Mae hunlosg ac iselder yn cael eu hystyried yn gyflyrau gwahanol, a tydi Sefydliad Iechyd y Byd ddim yn ystyried hunlosg yn gyflwr iechyd meddwl neu'n salwch.
Yn ôl Amy Davies o Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae'n bosib defnyddio'r term hunlosg am straen, ond maen nhw'n bethau gwahanol.
"Mae straen yn gallu teimlo fel boddi, ond mae burnout yn gallu teimlo bod dim byd ar ôl i nofio efo fo," meddai.
Gan ei fod yn cael ei achosi gan gyfnodau hir o straen sydd ddim yn cael ei reoli, gall ddeillio o unrhyw rôl, neu gyfrifoldeb, heriol parhaus.
Os yw cynnwys yr erthygl yma wedi cael effaith arnoch chi, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2024

- Cyhoeddwyd26 Mai 2024
