Comisiynu Radio Cymru

Rownd Gomisiynu Llinol a Podlediadau BBC Radio Cymru 2027-2028

Sumai? Shwmae?

Croeso i Rownd Gomisiynu Rhaglenni a Phodlediadau BBC Radio Cymru 2027/28.

Yn gyntaf, diolch yn fawr i'r rhai o’r sector annibynnol ac o fewn BBC Cymru sydd wedi cydweithio gyda ni dros y 12 mis diwethaf.

Mae rhaglenni megis Ei Hanes Hi, Sinema Brynaman, Amelia Earhart, Ai Hon Yw’r Gân sy’n Mynd i Achub yr Iaith a Portmeirion yn 100 wedi adrodd straeon arbennig mewn ffyrdd dychmygus; dramâu fel Yr Oriau Man wedi cynnig eiliadau o radio bythgofiadwy; a rhaglenni panel fel Chwalu Pen wedi dod ag ysgafnder ac adloniant pwysig i amserlen Radio Cymru. Ac mae podlediadau wedi dod yn un o'r ffyrdd mwyaf pwerus i adrodd straeon arbennig hefyd, gyda chyfresi fel 1 Mewn 2 a’r Podlediad Trosedd yn creu argraff fawr.

Ar gyfer y rownd gomisiynu yma, ym mlwyddyn pen-blwydd BBC Radio Cymru yn 50, rydym yn chwilio am ein rhestr nesaf o gynyrchiadau rhagorol. Byddwn yn chwilio am gynigion beiddgar ac uchelgeisiol, boed y pwnc yn ymwneud a chwaraeon, trosedd, drama, comedi, dysgwyr, adloniant, hanes, diwylliant, cymdeithas neu straeon personol pwerus. Dylent gynnwys gwerthoedd cynhyrchu o'r safon uchaf, defnydd creadigol o sain, ac adrodd straeon naratif rhagorol.

Ond gydag arbedion y BBC yn gefnlen i’r rownd yma, bydd nifer y comisiynau sydd ar gael yn gyfyngedig. Felly, wrth gyflwyno cynigion plîs gwnewch yn siŵr mai dyma eich syniadau mwyaf a gorau.

Mewn cyfnod o heriau ehangach rydym yn benderfynol y bydd Radio Cymru yn parhau i adrodd y straeon gorau posib ac yn parhau i wasanaethu'r gynulleidfa hyd eithaf ein gallu.

Gan edrych ymlaen at gydweithio’n greadigol dros y flwyddyn nesaf.

Cofion gorau,

Dafydd Meredydd

Pennaeth BBC Radio Cymru

 

Amserlen Rownd Gomisiynu Llinol a Podlediadau BBC Radio Cymru 2027-2028

  • Mercher 30 Medi - Agor y rownd
  • Mercher 07 Hydref 15:30 - Sesiwn briffio ar Teams gan Dafydd Meredydd (dolen i’r cyfarfod yn gynwysedig yn yr e-bost am agor y rownd).
  • 3 Tachwedd am 12:00 - Dyddiad cau
  • 16-26 Tachwedd – Cyfweliadau

 

Beth rydyn ni'n comisiynu ar gyfer 2027-2028

 

  1. Swyn y Sul
  2. Rhaglenni 16:00 Sul
  3. Podlediadau Lleisiau Cymru
  4. Podlediadau eraill
  5. Y Podlediad Dysgu Cymraeg

 

Nodyn am y defnydd o ddeallusrwydd artiffisial yn y broses gomisiynu a chyfleu

Rydyn ni’n gofyn i'n cyflenwyr i gyd i ystyried unrhyw ddefnydd o ddeallusrwydd artiffisial yn ofalus, gan sicrhau ei fod yn cyd-fynd gyda gwerthoedd golygyddol y BBC parthed disgwyliadau’r gynulleidfa ac ymddiriedaeth.

Os ydych chi’n llwyddiannus yn y broses gomisiynu ac yn ystyried defnyddio deallusrwydd artiffisial o fewn y rhaglen yna mae gofyn i chi drafod hyn o’r dechrau gyda’ch uwch gynhyrchydd.

Mae canllawiau golygyddol y BBC wedi eu diweddaru o Fedi 2025, ac mae'r fersiwn ddiweddaraf fan hyn: https://sauida.shop/editorialguidelines/guidelines%3C/a%3E Mae modd lawrlwytho y canllawiau yn Gymraeg fel dogfen pdf.

 

Sut i gynnig syniad

1. Cofrestri fel cyflenwr

Os ydych chi'n newydd i'r broses gomisiynu yna mae gofyn i chi gael cyfrif PiCoS yn gyntaf, cyn medrwn ni greu cyfrif Proteus i chi. Rhain yw’r sustemau rydym ni’n eu defnyddio ar gyfer comisiynu rhaglenni.

Mae manylion llawn yma ynglŷn â'r gofynion pan yn cofrestri fel cyflenwr Becoming a Supplier ond y pwyntiau sydd angen eu hystyried nawr, a chydymffurfio’n llawn â nhw petai chi’n llwyddiannus yn ennill comisiwn yw:

  • Fod gennych brofiad cynhyrchu cynnwys sain NEU yn cydweithio efo rhywun sydd â phrofiad addas
  • Y gallwch ein sicrhau y gallwch gyflawni’n gofynion technegol
  • Eich bod unai wedi eich sefydlu fel cwmni neu’n bwriadu gweithio drwy gwmni sydd eisoes wedi ei sefydlu
  • Eich bod yn ymrwymo i gofrestru ar ein sustem Iechyd a Diogelwch, sy'n cynnwys darparu dogfennau perthnasol er mwyn ail gofrestru bod 3 mlynedd
  • Bod gennych bolisïau Gwarchod Data, Amrywiaeth a Chynhwysiant a pholisi Parch yn y Gwaith. Mae templedi polisi ar gael gan Audio UK.

 

2. Proteus – sut i gynnig syniad unwaith mae cyfrif gennych chi

Rydym yn y broses o symud o Proteus i PiCoS ar gyfer comisiynu, ond cynhelir y rownd yma yn Proteus.

Dyma fanylion penodol am sut i gyflwyno syniad(au) ar gyfer Rownd Gomisiynu Llinol a Podlediadau BBC Radio Cymru 2027-2028: Sut i ... Proteus

Mae gofyn i bawb cyflwyno eu ceisiadau yn Proteus cyn 12:00 ar 03 Tachwedd 2026. Ni fydd modd derbyn syniadau sy’n cael eu cyflwyno wedi hynny.

Os am sgwrs cyn cyflwyno cynnig yna cysylltwch gyda Syniadau@bbc.co.uk

Mwy o wybodaeth am Proteus ar gyfer cyflenwyr annibynnol Proteus Guides

 

Y Tîm Comisiynu

Gruffudd Pritchard – Golygydd Cynnwys

Gareth Iwan Jones – Uwch Gynhyrchydd

Sioned Lewis – Uwch Gynhyrchydd

Cerian Arianrhod – Rheolwr Amserlennu

 

Gofynion pan yn cyfleu rhaglenni i Radio Cymru

Mae gofyn cyfleu rhaglenni gorffenedig o leiaf pythefnos cyn y dyddiad darlledu / cyhoeddi ar Sounds, yn ogystal â chyfleu’r holl waith papur deuddydd gwaith cyn y darllediad.

Ffurflen Manylion Darlledu Radio Cymru

Dylid cyfleu ffeiliau sain drwy Dropbox ar y fformat WAV (.wav) - PCM llinol, 48 kHz, 16 bit.

I weld y fanyleb dechnegol lawn ar gyfer BBC Radio a BBC Sounds, gweler Gwybodaeth a Safonau Ansawdd Sain

 

 

Newid iaith:

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Demo mode

Hides preview environment warning banner on preview pages.

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: