Stori Kareem: Delwedd ‘delfrydol’

Mae’r ffilmiau yn sôn am:

  • brofiadau plentyn sy’n teimlo nad yw ei gorff a’i edrychiad yn ‘ddigon da’ oherwydd yr hyn mae’n ei weld ar y we a thrwy gymharu ei hun a’i gyfoedion
  • ddelio gyda theimladau negyddol amdanat ti dy hun
  • rai syniadau ar gyfer delio gyda sefyllfaoedd sy’n anodd a rhai pethau all helpu plentyn ymdopi gyda theimladau fel hyn

Yn y ffilm gyntaf mae Kareem yn teimlo anhapus gyda’i edrychiad – ac yn ceisio newid ei gorff drwy ymarfer corff a pheidio â bwyta’n iawn. Gyda chymorth ei ffrind, mae’n dod i weld ei fod yn ymateb mewn ffordd niweidiol, a bod angen iddo ddod o hyd i ffyrdd gwell o ddelio gyda’i deimladau negyddol am ei ddelwedd a theimlo’n hapusach. Mae’r ail ffilm yn trafod rhai syniadau ar gyfer ymdopi a datblygu strategaethau i ddelio gyda sefyllfa fel hyn.

Themâu: delwedd; dylanwad rhwydweithiau cymdeithasol; delio gyda theimladau negyddol; iechyd meddwl; rheoli teimladau; cymorth ffrindiau; gofyn am gefnogaeth.

Stori Kareem: Ffilm 1

Stori Kareem: Ffilm 2

Gweithgareddau posib

Gweithgaredd 1 - Delwedd ‘ddelfrydol’

(Iechyd a Lles; Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu)

Yn y ffilm, mae Kareem yn teimlo’n anhapus nad oes ganddo gyhyrau – yn enwedig ar ôl edrych ar wefannau cymdeithasol. Gellid gofyn i'r disgyblion feddwl am ‘ddelweddau delfrydol’ sy’n cael eu dangos / gwthio ar lein a thrafod y canlynol:

  • ym marn y disgyblion, pa ‘ddelweddau delfrydol’ sy’n cael eu rhannu ar y we / rhwydweithiau cymdeithasol? Gellid gofyn iddynt wneud rhestr o rai o’r nodweddion yma (er enghraifft: steil neu liw gwallt; pwysau; cyhyrau).
  • oes yna syniadau cyffredin gan y grŵp am yr hyn sy’n cyfrif fel ‘delwedd ddelfrydol’- neu a oes yna anghytundeb?
  • ydy aelodau’r grŵp yn teimlo pwysau i gydymffurfio â’r delweddau yma? Os felly - pam hynny?
  • ydy'r grwp yn meddwl bod y 'delweddau delfrydol' maent wedi eu trafod uchod yn realistig? Os nad – ym mha ffyrdd gallent fod yn afreal?

Gweithgaredd 2 - Effaith delweddau ‘delfrydol’

(Iechyd a Lles; Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu)

Gellid gofyn i'r disgyblion weithio gyda phartner er mwyn ystyried yr effaith roedd y syniad yma o’r ‘ddelwedd ddelfrydol’ wedi ei gael ar iechyd Kareem. Gellid gofyn iddynt gwblhau tabl fel hyn:

Effaith ar iechyd gorfforolEffaith ar iechyd meddwl
Ddim yn bwyta’n iawn – teimlo’n sâl neu’n wanAnhapus
Gormod o ymarfer corff – blinder / gallu arwain at anafTeimlo’n isel
BlinderDim egni – llai o awydd gwneud pethau

Gweithgaredd bellach:

Gellid gofyn i'r disgyblion ychwanegu rhes at y tabl uchod a chofnodi’r effeithiau corffol a meddyliol yr oedd rhywbeth yr oedden nhw’n ei boeni amdano wedi ei gael arnyn nhw.

Gweithgaredd 3 - Datblygu strategaethau ar gyfer ymdopi

(Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu; Iechyd a Lles)

Ar ôl gwylio’r ffilm gyntaf, gellid gofyn i'r disgyblion:

  • nodi tri pheth wnaeth Kareem er mwyn teimlo’n well, ac yna drefnu’r tri pheth yma o’r mwyaf effeithiol i'r lleiaf effeithiol yn eu barn nhw
  • gellid gofyn iddynt wedyn nodi dau reswm yn cefnogi eu dewis o’r weithred fwyaf effeithiol

Brawddegau a geirfa a allai fod o gymorth i’r disgyblion wrth gyflwyno eu safbwynt:

Yn fy marn i…
Mae’n hollol glir i mi mai…
Rydw i'n meddwl hyn achos…
Mae hyn yn effeithiol oherwydd…
I mi mae’n amlwg mai…

Ar ôl gwylio’r ail ffilm, gellid gofyn i'r disgyblion feddwl am ddau weithgaredd arall allai fod yn effeithiol wrth geisio gwella hunan hyder a lleihau effeithiau negyddol gweld delweddau ‘delfrydol’ ar lein.

O’r holl syniadau o weithgareddau a gweithredoedd y gallai rhywun eu gwneud i deimlo’n well, gellid gofyn i'r disgyblion ddewis eu ffefryn a gweithio mewn grwpiau o ddau neu dri i greu reel fer er mwyn rhannu’r syniad yma gyda disgyblion eraill o’r un oed.

Cysylltiadau â’r Cwricwlwm

Iechyd a Lles

  • Rwy'n gallu myfyrio a dysgu o'r gorffennol er mwyn rhagweld a pharatoi fy hun ac eraill ar gyfer profiadau yn y dyfodol.

  • Rwy'n gallu adnabod gwahanol strategaethau i hunan-reoli fy emosiynau mewn ymateb i ystod o brofiadau.

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

  • Rwy’n gallu deall a dadansoddi ystyr cyffredinol a syniadau sydd ymhlyg.

  • Rwy’n gallu gwrando gydag empathi ar safbwyntiau gwahanol bobl ar bynciau amrywiol gan ddefnyddio’r safbwyntiau i gyrraedd fy nghasgliadau fy hun.

  • Rwy’n gallu gwneud dewisiadau gwybodus am eirfa, iaith idiomatig a chystrawen er mwyn mynegi fy hun yn rhugl, yn eglur ac yn gywir.

  • Rwy’n gallu ymateb i safbwyntiau pobl eraill, gan grynhoi a gwerthuso’r hyn rwyf wedi’i glywed, ei ddarllen neu’i weld, strwythuro dadleuon a herio gyda hyder a sensitifrwydd yr hyn y mae eraill yn ei ddweud.

Back to top

Ble nesa?

Stori Seren. video

Mae rheini Seren wedi gwahanu. Mae tad Seren yn symud i ffwrdd gyda'i bartner ac yn cael babi gyda hi. Sut fydd hi'n delio gyda hyn i gyd?

Stori Seren

Stori Tomos. video

Mae Tomos wedi syrthio mewn cariad am y tro cyntaf. Mae wrth ei fodd â Sara ond mae'n dechrau teimlo nad yw'n gweld llawer ar ei ffrindiau bellach. Sut gall gael gwell cydbwysedd yn ei fywyd - heb chwalu'r berthynas gyda Sara?

Stori Tomos

Stori Alys. video

Mae Alys yn teimlo'n drist ac yn unig ar ôl i'w ffrind gorau wneud ffrind newydd. Sut fydd Alys yn delio gyda hyn? Pa bethau fydd hi'n eu gwneud i deimlo'n well?

Stori Alys
Back to top