Mae’r ffilmiau yn sôn am:
- sut y gall ddiffyg cwsg effeithio ar fywyd plentyn
- sut y mae chwarae gemau neu edrych ar sgrîn yn gwneud pethau’n waeth.
- syniadau ar gyfer rhoi strategaethau mewn lle i gadw cydbwysedd mewn sefyllfaoedd tebyg
Yn y ffilm gyntaf, mae Jay yn sôn am sut mae diffyg cwsg yn effeithio ar eu bywyd. Maent yn sylweddoli bod chwarae cyfrifiadur yn hwyr yn y nos yn cael effaith negyddol ar eu hiechyd. Gwelwn sut maen nhw'n gwneud newidiadau sy’n cael effaith positif ar eu bywyd. Mae’r ail ffilm yn cynnig syniadau i ddisgyblion ar sut i reoli defnydd o sgrin a ffôn, a sut i geisio rhoi strategaethau mewn lle i gadw cydbwysedd gwell mewn bywyd.
Themâu: delio gydag emosiynau; rheoli dy hun; cynllunio a gosod strategaethau; dibyniaeth ar dechnoleg; blinder; iselder.
Stori Jay: Ffilm 1
Ar ôl ysgol, fi’n dwlu chware gemau. Ffeindio trysor, creu bydoedd a jyst dod o hyd i stwff.
O’n i arfer hoffi fe bach gormod. Bydden i’n chware gemau yn hwyr yn y nos ac yna’n methu ymlacio, felly bydden i’n gwylio fideos o chwaraewyr eraill nes i fi gwmpo i gysgu.
Bydden i’n dihuno yn teimlo’n flinedig iawn. Yn aml gyda pen tost.
O’dd mam wastad yn gofyn beth o’dd yn bod, ond wedes i wrthi bo fi’n iawn.
O’dd e’n anodd canolbwyntio. A weithie, bydden i’n cwmpo i gysgu wrth ‘fy nesg. Do’n i ddim yn neud yn dda yn yr ysgol. Nac yn yr ymarfer pêl-droed chwaith. Collais i fy lle ar y tîm.
Hyd yn oed gyda’n ffrindie, bydden i mewn hwyliau drwg ac yn fy myd bach fy hun.
Yna, bydden i’n mynd yn grac pan fydden nhw’n dweud bo fi ddim yn gwrando. Nes i stopio treulio amser gyda nhw ac o ni’n teimlo bach yn unig. Felly, bydden i’n chwarae mwy o gemau drwy’r nos. A na’th hwnna neud y blinder yn waeth.
Felly, un diwrnod, pan ofynnodd Max i fi os o’n i'n iawn, do’n i ddim yn gwbod sut i ateb, felly es i’n flin a jyst gwneud bo fi wedi blino.
Aeth e’n dawel, ond wedyn gofynnodd e i fi os o’n i wedi blino trwy'r amser?
Achos ro’dd e’n arfer chwarae gemau drwy’r nos. Ond dechreuodd e ddiffodd y consol am 8. A’i ffôn hefyd.
Dwedodd ei fod e wedi cael digon o deimlo'n flinedig ac yn grac drwy'r amser. Ddim yn cael digon o gwsg. O’dd e’n swnio’n union fel fi.
Do’n i ddim moyn teimlo fel ‘na dim mwy. Er na ddwedais i wrth Max ar y pryd, penderfynais i y dylen i neud rhwbeth.
Pan gyrhaeddais i adre, nes i ddweud wrth mam fy mod i yn teimlo wedi blino drwy’r amser a sut roedd hynny’n gwneud i mi deimlo.
Awgrymodd hi y dylen i roi cynnig ar syniad Max, felly gosodais i larwm ar fy ffôn er mwyn fy atgoffa i ddiffodd y cyfrifiadur ar amser penodol bob nos. Mae’n gweithio hyd yn hyn - y rhan fwyaf o’r amser beth bynnag.
Fi wedi dechre mynd i’r gwely bach yn gynt. Dyw e ddim yn hawdd a rhai nosweithiau, fi ddim yn stopio pan fi’n bwriadu neud. Ond mae’n haws trio gwneud hyn gyda help Max a mam na’i wneud ar ben fy hun.
Ac mae'n neis cael mwy o amser i ymlacio. Fi’n treulio amser gyda fy ffrindiau eto, dyw’r ysgol ddim mor anodd ag oedd e ac os allai gadw hyn i fynd, falle byddai nôl yn y tîm pêl-droed yn fuan.
Stori Jay: Ffilm 2
Efallai y gall hi ymddangos fel nad oes yna lawer yn mynd ymlaen pan ’da ni’n cysgu.
Ond o dan yr wyneb, mae’r corff a’r ymennydd yn brysur iawn. Mae nhw’n gweithio’n galed i brosesu atgofion, cryfhau ein system imiwnedd a’n hamddiffyn rhag straen a salwch.
Pan ’da ni ddim yn cysgu’n dda iawn mi allwn ni fynd yn flinedig, yn fyr ein tymer a’i chael hi’n anodd canolbwyntio.
Gallwn ni gael ein tynnu i fwyta rhywbeth melys, neu i fod eisiau caffîn neu ddiod egni. Ond mae diod egni arferol, eich energy drink chi, yn cynnwys tua saith llond llwy de o siwgwr a llwyth o gaffîn.
Mae hynny’n golygu, er ein bod ni’n teimlo’n well ar ôl ei yfed, yn fuan wedyn mi fydd ein egni ni’n crasho gan ein gadael ni’n teimlo’n waeth.
Mae’n hawdd datblygu arferion gwael. Pan rydan ni’n teimlo o dan y don, mae pethau syml bob dydd fel ymolchi neu fwyta’n iach yn teimlo’n anodd, a phan nad ydan i’n edrych ar ôl ein hunain mi fedrwn ni fynd i orbryderu. Ac os ydan ni’n cael teimladau o orbryder mae hynny’n gallu ei gwneud hi’n anodd mynd i gysgu.
Ond diolch byth, mae yna sawl peth allwn ni wneud i dorri’r cylch dieflig. Cymrwch gip ar y top tips ‘Cysgu’n Well’.
Rhif un: Cadw at amserlen cwsg.
Os ei di i gysgu a deffro tua’r un amser bob dydd, mi fedri di ddatblygu rhythm. Mi fyddi di’n datblygu cloc corfforol naturiol a bydd dy ymennydd yn dysgu pryd y dylai orffwys a bydd yn annog dy gorff i fynd yn gysglyd pan mae’r amser yn cyrraedd.
Rhif dau: Deffra’r 'sleep-mode'!
Mae chwarae gemau cyfrifiadurol, gwylio’r teledu a syllu ar dy ffôn, i gyd yn deffro dy feddwl. Mae troi’r sgriniau i ffwrdd yn helpu dy gorff i symud i stad gysglyd, dy 'sleep-mode' mewnol, gan adael i dy ymennydd ymlacio a pharatoi i orffwys. Fe allet ti osod larwm i dy atgoffa i droi’r sgriniau i ffwrdd a gwefru dy ffôn mewn ystafell arall er mwyn dy helpu i osgoi temptasiwn.
Rhif tri: Awyr iach a symud.
Mae bod yn actif a mynd allan i’r awyr iach bob dydd wir yn gallu helpu cwsg. Mae codi curiad dy galon yn llosgi egni ac yn helpu dy gorff i fod eisiau gorffwys gyda’r nos. Mae’r golau naturiol ti’n gael drwy fynd allan yn helpu i gadw dy gloc corfforol ar amser. Mae pawb yn ennill wrth ymarfer corff yn yr awyr iach!
Rhif pedwar: Osgoi caffîn yn y pnawn.
Tydi caffîn ddim yn ffrind i gwsg o gwbwl. Mae’n gallu aros yn dy gorff am oriau gan fwydo’r teimlad o fod o dan straen a hormonau sy’n datblygu gor-bryder. Mae hynny’n golygu fod unrhyw de, coffi neu ddiod pop yr wyt ti’n ei yfed yn y prynhawn o bosib yn dy gadw’n effro gyda’r nos.
Rhif pump: Tro’r goleuadau i lawr.
Tro’r goleuadau i lawr a chadwa pethau’n dawel er mwyn creu awyrgylch ymlaciedig cyn i ti fynd i dy wely. Mae hyn yn anfon arwyddion clir i dy gorff ei bod hi’n amser arafu, ac felly erbyn i ti fynd i dy wely dylai hi fod yn haws i ti fynd i gysgu.
Os wyt ti’n ei chael hi’n anodd mynd i gysgu, tria rai o’r syniadau yma.
Mae noson dda o gwsg yn wych o ran dy iechyd corfforol – ac yn gallu gwneud i ti deimlo’n llawer gwell hefyd.
Gweithgareddau posib
Gweithgaredd 1 - Deall effeithiau diffyg cwsg
(Iechyd a Lles; Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu)
Gellid gofyn i’r disgyblion drafod mewn parau y modd y mae diffyg cwsg yn effeithio ar Jay. Ydyn nhw'n gallu meddwl am naw effaith a’u nodi ar ddarn o bapur? Yna, gellid gofyn iddynt eu rhifo o’r effaith waethaf (rhif 1) i'r effaith lleiaf niweidiol (rhif 9) yn eu barn nhw.
Atebion posibl:
- methu ymlacio
- methu cysgu
- cur pen
- teimlo wedi blino
- methu canolbwyntio
- dim egni
- colli lle ar y tim pêl droed
- hwyliau drwg
- colli ffrindiau
- gwylltio
Gellid gofyn i bob disgybl yn unigol ddefnyddio lliw gwahanol i farcio pa effeithiau o’r rhestr y maent wedi eu profi eu hunain. Gellid gofyn iddyn nhw drafod gyda’u partner i ba raddau y maen nhw’n gallu uniaethu gyda Jay.
Gweithgaredd 2 - Cysgu'n well
(Iechyd a Lles; Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu)
Mewn grwpiau o bump, gellid gofyn i’r disgyblion ddewis un o’r ‘top tips’ cysgu’n well o'r ail ffilm.
‘Top tips’ o’r ail ffilm:
- Cadw amserlen gwsg
- Diffodd y cyfrifiadur a’r ffôn
- Cael awyr iach a symud y corff
- Osgoi caffein
- Creu awyrgylch ymlaciol (golau i lawr ayyb)
Gellid gofyn iddynt baratoi araith fer 60 eiliad yn dadlau o blaid y tip y maent wedi ei ddewis. Ydyn nhw’n gallu meddwl am dri neu bedwar rheswm sy’n cefnogi’r ‘top tip’ yma? Ydyn nhw’n gallu dwyn perswâd ar y grŵp i roi cynnig ar y dull hwn i wella eu cwsg?
Gweithgaredd 3 - Amserlenni cwsg
(Gwyddoniaeth a Thechnoleg)
Gellid gofyn i’r disgyblion ddefnyddio meddalwedd addas er mwyn creu amserlen ddigidol ar gyfer yr wythnos sy’n rhoi blaenoriaeth i wella cwsg. Ar yr amserlen, gallant neilltuo amser ar gyfer ymlacio a pharatoi ar gyfer noson dda o gwsg.
Er enghraifft:
- gallant roi amser i wneud hobïau ymlaciol
- gosod atgoffwr ar gyfer troi sgriniau i ffwrdd
- neilltuo amser ar gyfer cael bath ar ôl gwneud chwaraeon
- sicrhau bod cyfle i ddarllen cyn mynd i gysgu
Cysylltiadau â’r Cwricwlwm
Iechyd a Lles
- Rwy’n gallu esbonio’r gwahanol fathau o ymddygiad, cyflyrau a sefyllfaoedd sy’n effeithio ar fy iechyd a lles corfforol a, thrwy fy ngweithredoedd, rwy’n gallu ymateb i a/neu reoli’r rhain er mwyn gweithredu i leihau’r risg o niwed i mi fy hun ac eraill.
- Rwy’n gallu ymchwilio, archwilio a gwerthuso ystod o dystiolaeth er mwyn gwneud penderfyniadau ystyriol a gwybodus.
- Rwy’n gallu gosod nodau addas a chreu cynllun gweithredu er mwyn eu gwireddu.
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
- Rwy’n gallu dewis ac addasu’r iaith briodol ar gyfer ystod o gynulleidfaoedd a dibenion, gan gyfleu ystyr yn effeithiol i’r gynulleidfa.
- Rwy’n gallu rhannu fy meddyliau, teimladau a barn gydag eraill, gan ddefnyddio ystod o dechnegau at wahanol ddibenion gan ddangos empathi a pharch.
Gwyddoniaeth a Thechnoleg
- Rwy’n gallu defnyddio amrywiaeth o ddulliau a thechnegau cyfathrebu dylunio er mwyn datblygu a chyflwyno syniadau’n glir, ac rwy’n gallu ymateb yn adeiladol i adborth.
Ble nesa?
Stori Kareem. video
Mae Kareem yn teimlo'n wael iawn am y ffordd mae'n edrych - yn bennaf oherwydd y lluniau o bobl berffaith mae'n eu gweld ar-lein. Sut y gall newid y ffordd mae'n teimlo am ei gorff?

Stori Seren. video
Mae rheini Seren wedi gwahanu. Mae tad Seren yn symud i ffwrdd gyda'i bartner ac yn cael babi gyda hi. Sut fydd hi'n delio gyda hyn i gyd?

Stori Tomos. video
Mae Tomos wedi syrthio mewn cariad am y tro cyntaf. Mae wrth ei fodd â Sara ond mae'n dechrau teimlo nad yw'n gweld llawer ar ei ffrindiau bellach. Sut gall gael gwell cydbwysedd yn ei fywyd - heb chwalu'r berthynas gyda Sara?

