Iechyd a Lles • 11-14 oed

Dyma gyfres o ffilmiau i gefnogi athrawon yng Nghymru wrth drafod y themâu iechyd a lles canlynol:

  • rhieni yn gwahanu
  • delio gyda ffrindiau
  • gwneud penderfyniadau
  • colli rhiant
  • delio gyda hunan ddelwedd negyddol
  • diffyg cwsg
  • perthynas rhamantus cyntaf a gosod ffiniau

Stori Alys. video

Mae Alys yn teimlo'n drist ac yn unig ar ôl i'w ffrind gorau wneud ffrind newydd. Sut fydd Alys yn delio gyda hyn? Pa bethau fydd hi'n eu gwneud i deimlo'n well?

Stori Alys

Stori Elis. video

Eleni, bu farw mam Elis. Yn y ffilmiau yma fe welwn sut mae'n delio gyda hyn a sut gall blentyn helpu ffrind sydd wedi colli aelod o'r teulu.

Stori Elis

Stori Eva. video

Mae Eva'n ei chael hi'n anodd dweud 'na' wrth ei ffrindiau - ond a fydd hyn yn golygu ei bod yn colli trip arbennig i Gaerdydd gyda'r tîm gymnasteg? Beth fydd Eva'n ddewis ei wneud? Sut gall hi wneud penderfynidau gwell o hyn ymlaen?

Stori Eva

Stori Jay. video

Mae Jay yn teimlo'n flinedig iawn drwy'r amser. Mae'n gwario lot fawr o'i amser yn chwarae ar ei ffôn a'i gyfrifiadur. All pethau ddim cario mlaen fel hyn - sut gall Jay gael trefn ar bethau?

Stori Jay

Stori Kareem. video

Mae Kareem yn teimlo'n wael iawn am y ffordd mae'n edrych - yn bennaf oherwydd y lluniau o bobl berffaith mae'n eu gweld ar-lein. Sut y gall newid y ffordd mae'n teimlo am ei gorff?

Stori Kareem

Stori Seren. video

Mae rheini Seren wedi gwahanu. Mae tad Seren yn symud i ffwrdd gyda'i bartner ac yn cael babi gyda hi. Sut fydd hi'n delio gyda hyn i gyd?

Stori Seren

Stori Tomos. video

Mae Tomos wedi syrthio mewn cariad am y tro cyntaf. Mae wrth ei fodd â Sara ond mae'n dechrau teimlo nad yw'n gweld llawer ar ei ffrindiau bellach. Sut gall gael gwell cydbwysedd yn ei fywyd - heb chwalu'r berthynas gyda Sara?

Stori Tomos

Health and Well-being (Wales) 11-14

English medium resources

Health and Well-being (Wales) 11-14