Stori Alys: Delio gyda newid ffrindiau

Mae’r ffilmiau yn sôn am:

  • y teimladau gall blentyn eu profi wrth i grŵp ffrindiau newid.
  • sut i ddelio gyda emosiynau anodd
  • syniadau i blant ar sut i ymdopi gyda newid fel hyn.

Mae'r ffilm gyntaf yn cyflwyno Stori Alys. Mae Alys yn teimlo'n unig ac yn drist gan fod ei ffrind gorau, Beca, wedi dod o hyd i ffrind gorau newydd. Mae'r ffilm yn edrych ar y modd y mae Alys yn delio gyda hyn. Mae’r ail ffilm yn cyflwyno syniadau ar gyfer delio gydag emosiynau anodd a sut i ymdopi â sefyllfa fel hyn.

Themâu: ffrindiau; ymdopi gyda newid; gwytnwch; rheoli teimladau; adnabod dy hun.

Stori Alys: Ffilm 1

Stori Alys: Ffilm 2

Gweithgareddau posib

Gweithgaredd 1 - Beth sy’n gwneud ffrind da?

(Iechyd a Lles; Iaith a Llythrennedd)

Gellid gofyn i'r disgyblion roi enwau pob un o’r merched yn y stori (Alys / Maia / Beca) mewn cylch ar wahân ar ddarn o bapur. Gellid gofyn iddynt drafod pa emosiynau fyddai pob un o’r merched yma wedi eu profi yn ystod cyfnod y ffilm – a rhoi saeth o’r cylchoedd at yr emosiwn hwnnw.

Gweithgaredd 2 - Ffrindiau a theimladau: Chwarae rôl

(Iechyd a Lles; Iaith a Llythrennedd; Celfyddydau Mynegiannol)

Gellid gofyn i'r disgyblion fynd i grwpiau o dri ac i bob person yn y grŵp chwarae rôl un o’r cymeriadau yn y stori – dyma'r sefyllfa:

Mae Beca, Alys a Maia yn digwydd eistedd ar bwys ei gilydd yn y ffreutur amser cinio. Mae Beca a Maia yn gofyn i Alys a oes rhywbeth yn bod.

Cyn cychwyn ar y sgwrs, gellid gofyn i bob aelod o’r grwp feddwl am y sefyllfa o safbwynt eu cymeriad nhw. Sut fyddai’r cymeriad yma yn teimlo? Sut gallen nhw ymateb i'r sgwrs?

Gellid caniatáu tri munud i bob grwp gynnal y chwarae rôl.

Ar ôl cynnal y ddeialog gellid gofyn i'r disgyblion ystyried:

  • Oedd y sgwrs yn un cadarnhaol / adeiladol? Os oedd – beth wnaeth helpu hynny ddigwydd?
  • Os nad oedd y sgwrs yn un positif – beth oedd wedi mynd o’i le?
  • Oedd pawb yn y grŵp yn cytuno o ran sut fath o sgwrs a gafwyd? (adeiladol neu beidio)

Gweithgaredd 3 - Map meddwl: Beth sy’n gwneud ffrind da?

(Iechyd a Lles; Iaith a Llythrennedd; Mathemateg a Rhifedd)

Gellid gofyn i ddisgyblion, mewn grwpiau, ystyried y gosodiad:

'Beth sy’n gwneud ffrind da?'

Gellid gofyn i bob grŵp greu map meddwl gan ddefnyddio geiriau, brawddegau a/neu luniau er mwyn creu darlun weledol o’r hyn sy’n gwneud ffrind da yn eu tŷb hwy. Gallai bob grŵp ddangos eu map meddwl i’r dosbarth a gellid gofyn i’r disgyblion gadw tali o’r nodweddion sy’n gyffredin i’r grwpiau.

  • Pa nodwedd sydd fwyaf cyffredin?
  • Pa nodwedd sy’n ail?
  • Yna, gellid mynd ati i greu graffiau sy’n arddangos y data a gasglwyd am y nodweddion sy’n gwneud ffrind da ym marn y dosbarth.

Gweithgaredd 4 - Adnabod fy emosiynau

(Iechyd a Lles; Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu)

  • Gellid gofyn i’r disgyblion greu tabl yn cofnodi’r holl emosiynau y mae Alys yn eu profi yn ystod y ffilm yn y golofn chwith.
  • Gellid trafod gyda’r dosbarth y modd mae teimladau / emosiynau yn effeithio ar sut rydym ni’n ymddwyn.
  • Yn y golofn dde yn y tabl, gellid gofyn i'r disgyblion nodi sut y maen nhw’n ymddwyn pan yn teimlo’r emosiwn hwnnw, er enghraifft:
EmosiwnYmddygiad
TristGorwedd ar y soffa gyda blanced
UnigBod yn grac/flin gyda mam a dad
PryderMynd yn dawel

Gellid gofyn i'r disgyblion gymharu eu tabl gyda phartner – ydyn nhw’n ymateb yn yr un ffordd i bob teimlad / emosiwn? Oes gwahaniaethau yn y modd maen nhw’n ymateb?

Gweithgaredd 5 - Rheoli emosiynau

(Iechyd a Lles; Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu)

Mae’r ail ffilm yn awgrymu pump peth y gellir eu gwneud i'n helpu i reoli ein emosiynau. Drwy gydweithio gyda phartner, gellid gofyn i'r disgyblion geisio cofio a nodi’r pump peth yma:

Cysylltu
Symud
Sylwi
Herio dy hun
Helpu rhywun arall

Gellid gofyn i'r disgyblion feddwl sut y gallent ddefnyddio’r syniadau yma i'w helpu i reoli eu teimladau. Gellid gofyn iddynt feddwl am enghraifft ar gyfer pob un o’r pump y gallant hwy eu gwneud, a’u cofnodi ar ddarn o bapur.

Er enghraifft:

Cysylltusiarad gyda ffrind; trefnu i gwrdd â ffrind ar y penwythnos
Symudmynd i'r ymarfer pêl-droed ar ôl ysgol; gwneud sesiwn pilates ar-lein
Sylwimeddwl am arafu fy anadl a chanolbwyntio ar gyfrif i ddeg; edrych ar y coed a’r blodau yn yr ardd neu’r parc
Herio dy huncychwyn prosiect neu hobi newydd; ymuno gyda chlwb newydd amser cinio
Helpu rhywun aralldechrau gwirfoddoli gyda grŵp cymunedol neu o fewn yr ysgol; helpu mam-gu gyda’r gwaith tŷ; helpu chwaer fach i ddysgu darllen

Gellid annog y disgyblion i dynnu llun o’u syniadau a’i arbed ar eu ffôn, fel y gallent edrych arno a meddwl am wneud un o’r gweithgareddau yma y tro nesaf maent yn teimlo’n llawn emosiwn.

Cysylltiadau â’r Cwricwlwm

Iechyd a Lles

  • Rwy’n gallu adnabod gwahanol strategaethau i hunan-reoli fy emosiynau mewn ymateb i ystod o brofiadau.
  • Rwy’n gallu eirioli manteision cyfathrebu am deimladau fel un o’r ystod o strategaethau sy’n gallu bod o gymorth i hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol a lles emosiynol.
  • Rwy’n gallu adnabod pobl a grwpiau sy’n gallu bod o gymorth i mi gyda fy iechyd meddwl a lles emosiynol.
  • Rwy’n gallu dangos ymwybyddiaeth gynyddol o natur gymhleth cydberthnasau.
  • Rwy’n gallu mynegi fy anghenion a’m teimladau, a pharchu anghenion a theimladau pobl eraill.

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

  • Rwy’n gallu deall a dadansoddi ystyr cyffredinol a syniadau sydd ymhlyg.
  • Rwy’n gallu gwrando gydag empathi ar safbwyntiau gwahanol bobl ar bynciau amrywiol gan ddefnyddio’r safbwyntiau i gyrraedd fy nghasgliadau fy hun.
  • Rwy’n gallu gwneud dewisiadau gwybodus am eirfa, iaith idiomatig a chystrawen er mwyn mynegi fy hun yn rhugl, yn eglur ac yn gywir.
  • Rwy’n gallu ymateb i safbwyntiau pobl eraill, gan grynhoi a gwerthuso’r hyn rwyf wedi’i glywed, ei ddarllen neu’i weld, strwythuro dadleuon a herio gyda hyder a sensitifrwydd yr hyn y mae eraill yn ei ddweud.

Y Celfyddydau Mynegiannol

  • Rwy’n gallu cyfuno fy ngwybodaeth, profiad a dealltwriaeth i gynllunio a chyfleu fy ngwaith creadigol ar gyfer ystod o gynulleidfaoedd, dibenion a chanlyniadau.

Mathemateg a Rhifedd

  • Rwy’n gallu gwneud dewisiadau gwybodus am sut i drefnu a chynrychioli data, gan ddefnyddio amrywiaeth eang o graffiau a siartiau, gan gynnwys siart cylch, diagram amlder a pholygon amlder.
Back to top

Ble nesa?

Stori Elis. video

Eleni, bu farw mam Elis. Yn y ffilmiau yma fe welwn sut mae'n delio gyda hyn a sut gall blentyn helpu ffrind sydd wedi colli aelod o'r teulu.

Stori Elis

Stori Eva. video

Mae Eva'n ei chael hi'n anodd dweud 'na' wrth ei ffrindiau - ond a fydd hyn yn golygu ei bod yn colli trip arbennig i Gaerdydd gyda'r tîm gymnasteg? Beth fydd Eva'n ddewis ei wneud? Sut gall hi wneud penderfynidau gwell o hyn ymlaen?

Stori Eva

Stori Jay. video

Mae Jay yn teimlo'n flinedig iawn drwy'r amser. Mae'n gwario lot fawr o'i amser yn chwarae ar ei ffôn a'i gyfrifiadur. All pethau ddim cario mlaen fel hyn - sut gall Jay gael trefn ar bethau?

Stori Jay
Back to top