Stori Elis: Delio gyda galar

Mae’r ffilmiau yn sôn am:

  • y teimladau gall blentyn brofi wrth alaru am riant
  • rhai pethau all helpu plentyn ymdopi gyda digwyddiad anodd fel hyn.

Mae’r ffilm gyntaf yn edrych ar fywyd Elis ar ôl iddo golli ar ei fam, a'r teimladau a'r emosiynau y mae'n eu profi ar adegau gwahanol. Mae’r ail ffilm yn trafod rhai syniadau ar gyfer ffrindiau sy’n ceisio cefnogi ffrind sy’n mynd drwy brofiad fel hyn.

Themâu: galar; colli rhiant; ymdopi gyda newid mawr; gwytnwch; adnabod teimladau; adnabod dy hun.

Stori Elis: Ffilm 1

Stori Elis: Ffilm 2

Gweithgareddau posib

Gweithgaredd 1 - Adnabod emosiynau

(Iechyd a Lles; Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu)

Gellid gofyn i'r disgyblion weithio gyda phartner i enwi’r amrywiaeth o emosiynau mae Elis yn eu profi yn ystod y ffilm a rhoi pob un ar ddarn o gerdyn ar wahân (blin/crac; euog; wedi gwylltio; tristwch; hiraethus).

Gellid gofyn i’r disgyblion ddewis tri o’r ‘cardiau emosiwn’ yma gan ysgrifennu (neu drafod gyda phartner) pryd a pham y bu i Elis brofi’r teimlad hwn.

Yna, yn eu parau, gallai’r disgyblion droi’r cardiau emosiwn ben i waered ar y bwrdd, a chymryd tro yn dewis un ar hap. Ar ôl dewis cerdyn, gallen nhw drafod y canlynol:

  • Ydyn nhw wedi profi’r emosiwn yma erioed? Oedd hynny yn sgil colli rhywun neu efallai oherwydd rhywbeth arall?
  • Am ba mor hir wnaeth y teimlad yna barhau?
  • Beth ddigwyddodd wedyn – sut aeth y teimlad i ffwrdd?

Gweithgaredd 2 - Delio gyda galar: 'pum cam'

(Iechyd a Lles; Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu; Gwyddoniaeth a Thechnoleg)

Gellid cyflwyno’r syniad/theori fod pum cam gwahanol wrth i rywun brosesu galar. Dyma'r camau yna:

sioc 🠚 teimlo’n flin neu’n grac 🠚 bargeinio 🠚 tristwch/iselder 🠚 dod i dderbyn y golled

Gellid egluro ei bod hi’n gwbl naturiol i rywun fynd drwy bob un o’r camau uchod, ond nid o reidrwydd yn y drefn yma.

Gellid gofyn i'r disgyblion greu map meddwl ddigidol o’r pum cam galar uchod. Gallent ddefnyddio llun, emoji neu liw wahanol i gynrychioli’r gwahanol gamau.

Wrth edrych eto ar ffilm Elis, oes modd i'r disgyblion baru rhai o’r emosiynau roedd Elis yn eu teimlo gydag un o’r camau galaru uchod?

Er enghraifft:

  • Teimlo’n flin/grac: Mae Elis yn gwylltio cyn y gem hoci ac yn taflu ei fag a chicio ei locer.
  • Iselder: Weithiau dydy Elis ddim eisiau gwneud unrhyw beth.
  • Derbyn: Mae'r teulu'n dechrau gwneud pethau newydd fel mynd i nofio.

Gweithgaredd 3 - Celf ac emosiwn

(Iechyd a Lles; Celfyddydau Mynegiannol)

Gellid gwahodd y disgyblion i greu cyfres o ddarnau o gelf er mwyn mynegi eu teimladau.

  • Ar y dudalen gyntaf, gellid gofyn iddynt ddefnyddio beiro neu bensil a chreu darlun abstract yn defnyddio llinellau a chysgodi i gyfleu teimlad o’u dewis nhw. Gellid gosod terfyn amser o funud neu ddwy i gyflawni’r dasg.
  • Ar yr ail dudalen, gellid gofyn iddynt feddwl am liw(iau) a siap(iau) sy’n cynrychioli emosiwn yn eu barn nhw, a’u defnyddio i greu darlun o’u dewis ar y papur. Eto, gellid gosod terfyn amser o funud neu ddwy i gyflawni’r dasg.
  • Gellid gofyn i'r disgyblion ymchwilio i artistiaid sy’n defnyddio celf i gyfleu teimlad ac emosiwn. Sut mae’r artist yn gwneud hynny – pa dechneg(au) sy’n cael eu defnyddio? Oes artist o'r ardal leol sy'n gwneud hyn?
  • Gellid gofyn i'r disgyblion greu dan o waith celf sydd wedi ei ysbrydoli gan waith yr artist y bu iddynt ymchwilio uchod.

Gweithgaredd 4 - Cefnogi ffrind sy’n galaru

(Iechyd a Lles; Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu)

Gellid gofyn i'r disgyblion weithio gyda phartner i feddwl am bump syniad ar gyfer cefnogi ffrind sy’n galaru. Er enghraifft:

  • bod yno i siarad os yw’r ffrind yn dymuno hynny
  • cefnogi’r ffrind drwy wrando
  • bod yn amyneddgar gyda’r ffrind
  • cysylltu gyda nhw yn rheolaidd
  • trefnu i wneud rhywbeth gyda’ch gilydd

Yna, ar ôl cofnodi’r syniadau, gellid gofyn i bob person yn y grŵp restru’r syniadau o’r mwyaf defnyddiol i'r lleiaf defnyddiol yn eu tŷb nhw. Ar ôl gorffen, gellid gofyn iddynt gymharu eu hatebion gydag aelodau eraill y grŵp ac ystyried y cwestiynau isod:

  • Faint o wahaniaeth barn oedd ymysg aelodau’r grŵp?
  • Pam fod gwahanol bobl yn ffafrio ffyrdd gwahanol o gefnogaeth?

Cysylltiadau â’r Cwricwlwm

Iechyd a Lles

  • Rwy’n gallu canolbwyntio’n annibynnol ar yr hyn rwy’n ei ganfod a’i feddwl a’i theimlo er mwyn datblygu fy hunanymwybyddiaeth ymhellach.

  • Rwy’n gallu myfyrio a dysgu o’r gorffennol er mwyn rhagweld a pharatoi fy hun ac eraill ar gyfer profiadau yn y dyfodol.

  • Rwy’n gallu dangos empathi tuag at eraill a deall gwerth dangos hyn trwy weithredoedd tosturiol a charedig.

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu

  • Rwy’n gallu deall a dadansoddi ystyr cyffredinol a syniadau sydd ymhlyg.

  • Rwy’n gallu gwrando gydag empathi ar safbwyntiau gwahanol bobl ar bynciau amrywiol gan ddefnyddio’r safbwyntiau i gyrraedd fy nghasgliadau fy hun.

Gwyddoniaeth a Thechnoleg

  • Rwy’n gallu defnyddio amrywiaeth o ddulliau a thechnegau cyfathrebu dylunio er mwyn datblygu a chyflwyno syniadau’n glir, ac rwy’n gallu ymateb yn adeiladol i adborth.

Celfyddydau Mynegiannol

  • Rwy’n gallu gwerthuso effeithiolrwydd ystod eang o dechnegau artistig wrth gynhyrchu ystyr.

  • Rwy’n gallu defnyddio fy sgiliau arbrofi ac ymchwilio i drin gwaith creadigol gyda phwrpas a bwriad wrth fynegi fy syniadau.

Back to top

Ble nesa?

Stori Eva. video

Mae Eva'n ei chael hi'n anodd dweud 'na' wrth ei ffrindiau - ond a fydd hyn yn golygu ei bod yn colli trip arbennig i Gaerdydd gyda'r tîm gymnasteg? Beth fydd Eva'n ddewis ei wneud? Sut gall hi wneud penderfynidau gwell o hyn ymlaen?

Stori Eva

Stori Jay. video

Mae Jay yn teimlo'n flinedig iawn drwy'r amser. Mae'n gwario lot fawr o'i amser yn chwarae ar ei ffôn a'i gyfrifiadur. All pethau ddim cario mlaen fel hyn - sut gall Jay gael trefn ar bethau?

Stori Jay

Stori Kareem. video

Mae Kareem yn teimlo'n wael iawn am y ffordd mae'n edrych - yn bennaf oherwydd y lluniau o bobl berffaith mae'n eu gweld ar-lein. Sut y gall newid y ffordd mae'n teimlo am ei gorff?

Stori Kareem
Back to top