Mae’r ffilmiau yn sôn am:
- brofiadau plentyn sy’n gwneud penderfyniad ac yn delio gyda goblygiadau hynny.
- syniadau ar gyfer gwneud penderfyniadau gwell
Yn y ffilm gyntaf, mae Eva yn dewis mynd i'r traeth gyda’i ffrindiau yn lle helpu ei thîm gymnasteg godi arian. Mae penderfyniad Eva yn cael effaith ar y tîm cyfan ac mae hi’n ceisio datrys y sefyllfa. Mae’r ail ffilm yn trafod rhai syniadau ar gyfer helpu disgyblion wneud penderfyniadau gwell.
Themâu: gwneud penderfyniadau da; delio gyda goblygiadau; beth i'w wneud pan mewn cyfyng gyngor; iechyd meddwl; rheoli teimladau; euogrwydd; datblygu aeddfedrwydd.
Stori Eva: Ffilm 1
Haf blwyddyn dwetha, roeddwn i a’r tîm gymnasteg yn paratoi ar gyfer cystadleuaeth fawr. Ro’n ni i gyd yn ymarfer yn galed iawn ac roedd yn rhaid i ni godi arian i gael mynd i Gaerdydd i gystadlu.
Ro’n i wedi addo y bydden i’n pacio bagiau siopa gyda’r tîm i gyd, i godi arian ar gyfer y trip.
Ond y bore ‘ny, ges i text gan cariad fi i ddweud bo’ hi, a lot o’n ffrindiau, ar y traeth, ac a oeddwn i moyn mynd lawr ‘na gyda nhw? Oedd hynna'n swnio'n lot mwy o sbort na bod mewn tu fewn ar ddiwrnod braf yn pacio bagiau siopa.
Bydde’r tîm a'r athrawes yn iawn hebdda i, yn bydden nhw?
Wnes i roi fy ffôn ar mute ac es i i'r traeth. O’dd y diwrnod yn lot o sbort. Ond wedyn, pan nes i edrych ar fy ffôn, oedd gyda fi lot fawr o texts gan y tîm, yn gofyn ble o’n i ac os o’n i’n iawn. Wedes i bo fi’n iawn, jyst bo fi wedi dewis mynd mas yn lle.
Ges i text nol gan fy ffrind gorau ar y tîm. Dwedodd hi bo pawb wedi bod yn poeni amdana i – a bo nhw heb gyrraedd y targed codi arian oherwydd be wnes i.
Oedd na risg na fydden ni’n gallu mynd i Gaerdydd. O’n i mor grac da’n hunan. O’n ni i gyd wedi gweithio mor galed yn ymarfer a nawr o’n i wedi gadael pawb lawr.
Mae’n hawdd mynd i'r traeth unrhyw bryd, ond dydy cyfle i fynd i Gaerdydd gyda’r gymnasteg ddim yn digwydd yn aml. Pam na nes i ddim meddwl am hynna? O’n i'n teimlo'n euog iawn.
O’n i’n anadlu mor gloi. Do’n i ddim yn gwbod beth i neud.
Nes i ffonio cariad fi a gweud wrthi beth oedd wedi digwydd. Dwedodd hi y byddai'r tîm yn gorfod anghofio am y peth. Allen nhw ddim disgwyl i fi roi lan pob penwythnos!
Ond oeddwn i'n gwybod mai fi oedd ar fai. Yn y sesiwn nesa, nes i siarad gyda’r athrawes. Nethon ni gytuno y dylen i ymddiheuro i'r tîm. O’n i’n eitha nerfus, ond nes i ddweud sori wrth bawb. Doedd e ddim yn hawdd.
Fi dal yn cofio'r ffordd oedden nhw’n edrych arna i – roedd rhai ohonyn nhw'n grac iawn da fi.
Ond wedyn, wnes i ddweud bod gyda fi syniad i neud taith gerdded i godi arian i drio cyrraedd y targed. Oedd pawb yn meddwl bod hynna’n beth da i wneud.
Da’th cariad fi gyda fi – oedd y daith gerdded yn anodd, ond nethon ni lwyddo i godi’r arian oedd ei angen.
O’n i’n falch iawn bo fi wedi llwyddo i sortio pethe mas, ond fi’n flin bo fi wedi siomi pawb ar y dechrau.
Nawr, cyn neud penderfyniad, fi’n stopio ac yn meddwl sut galle fe effeithio ar bobl eraill - a fi’n hunan.
Dyw e ddim bo fi’n berffaith nawr, ond pan fi’n neud rhywbeth o’i le, fi’n trio dysgu o hynny. Fi’n cymryd cyfrifoldeb am be fi di neud a trio gwneud pethau’n well os galla i.
Stori Eva: Ffilm 2
O ddewis beth i gael i ginio i ddewis pynciau TGAU, yr hynaf a’r mwyaf annibynnol yr ydyn ni’n mynd, y mwyaf o benderfyniadau yr ydyn ni angen eu gwneud.
Ond mae gwneud y penderfyniadau cywir yn gallu bod yn heriol.
Mae gwyddonwyr wedi darganfod fod llabed blaen ein ymennydd – y rhan sy’n gyfrifol am wneud penderfyniadau ac emosiynau – yn dal i ddatblygu nes ein bod yng nghanol ein ugeiniau.
Mae hyn yn golygu, pan ydyn ni’n ein harddegau rydyn ni’n dueddol o wneud penderfyniadau sydyn ac yn fwy tebygol o gymryd risg.
Pan mae eraill yn ein gwthio i wneud rhywbeth, pwysau gan ffrindiau er engrhaifft, mae hynny’n gallu dylanwadu’n fawr ar ein penderfyniadau hefyd. Ond mae gwneud penderfyniadau yn sgil y gallwn ni ei ddatblygu.
Dyma bedwar awgrym da i dy helpu pan mae’n rhaid i ti wneud penderfyniadau.
Yn gyntaf: Paid â chynhyrfu.
Dydyn ni ddim bob tro’n gallu meddwl yn glir pan o dan bwysau neu’n cael ein llethu. Cymra eiliad i dy hun a phaid â chynhyrfu. Cysidra beth fydd canlyniadau dy benderfyniad. Sylwa sut rwyt ti’n teimlo am bob opsiwn a cheisia feddwl sut fyddi di’n teimlo wedyn. Weithiau, mae penderfyniadau sy’n gwneud i ni deimlo’n dda yn y foment yn gallu gwneud i ni deimlo’n ddrwg yn y dyfodol.
Yn ail: Perchnoga dy benderfyniadau.
Rydan ni eisiau ffitio i mewn, dyna pam y gall pwysau gan ffrindiau fod mor bwerus. Felly mae’n bwysig i ti gwestiynu os wyt ti yn gwneud rhywbeth oherwydd bod eraill yn disgwyl i ti ei wneud, neu wyt ti’n gwneud beth sydd orau i ti.
Nesaf: Trafod.
Mae trafod dy benbleth gyda rhywun ti’n ymddiried ynddo yn gallu dy helpu i roi dy feddwl mewn trefn. Mae’n bosib y gallan nhw gynnig cyngor neu olwg newydd ar bethau.
Yn olaf: Gwna restr.
Mae ysgrifennu dy feddyliau i lawr yn rhoi rhywfaint o seibiant i dy ben o’r holl jyglo opsiynau. Mae rhestr o be sydd o blaid ac yn erbyn yn gallu dangos yn glir beth yw’r canlyniadau, sy’n ei gwneud hi’n haws i ti weld os yw’n benderfyniad da ai peidio.
Mae’r holl dechnegau yma yn gallu ein helpu gyda phenderfyniadau unigol. Mae eu ymarfer dros amser yn gwella ein sgiliau i wneud penderfyniadau.
Wrth gwrs, does dim gwadu nad ydan ni i gyd yn gwneud penderfyniadau gwael weithiau. Ond os allwn ni adnabod pryd wnaethon ni’r camgymeriad gallwn ddysgu o hynny ar gyfer y tro nesaf.
Gweithgareddau posib
Gweithgaredd 1 - Penderfyniad da
(Iechyd a Lles; Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu)
Yn y fflim, mae Eva yn dewis gwneud gweithgaredd sy’n hwyl iddi yn y tymor byr yn hytrach na gweithio tuag at rhywbeth fydd yn rhoi pleser iddi yn y dyfodol. Gellid gofyn i’r disgyblion weithio mewn parau a thrafod y canlynol:
- A fydden nhw wedi dewis mynd i’r traeth (fel y gwnaeth Eva) neu mynd i’r archfarchnad i helpu’r tîm?
- Beth yw’r rheswm am eu penderfyniad?
Gellid gofyn i'r disgyblion ystyried y sefyllfaoedd yn y tabl isod. Beth fydden nhw yn benderfynu ei wneud? Pam? Os nad oes opsiwn sy’n apelio, gellid gofyn i’r disgyblion ychwanegu dewis o dan y golofn ‘Opsiwn 3’.
| Sefyllfa | Opsiwn 1 | Opsiwn 2 | Opsiwn 3 |
|---|---|---|---|
| Mae tîm hoci’r ysgol yn ymarfer heno – ond mae hi’n bwrw glaw ac rwyt ti’n teimlo’n flinedig. Beth wyt ti’n benderfynu ei wneud? | Mynd adref yn syth ar y bws heb sôn wrth Mr Jones (rheolwr y tîm) – ac yna i dŷ Zack i chwarae gêm ar y cyfrifiadur. Dyma’r peth iawn i wneud – rwyt ti eisiau cadw’n gynnes a chael hwyl. Fe fyddi di'n teimlo’n llai blinedig yfory ar ôl ymlacio heno. | Mynd i’r ymarfer beth bynnag. Mae hi’n glawio ond rwyt ti wedi cael lle ar y tîm ac mae hynny yn golygu bod rhaid mynd i’r ymarferion. | ________________ |
| Mae dy ffrind wedi colli ei cherdyn arian a does dim arian ganddi i dalu am ei chinio. Mae dy fam wedi rhoi pum punt i ti – ond mae angen yr arian yma arnat ti i brynu dy ginio ac i gael bws i dŷ mam-gu ar ôl ysgol. Beth wyt ti’n ei wneud? | Rhannu’r arian gyda dy ffrind fel ei bod hi’n gallu cael cinio hefyd. Wnei di gerdded i dŷ mam-gu wedyn – dyw e ddim yn teimlo’n rhy bell ar y bws! | Prynu dy ginio di a rhoi ychydig o dy afal i dy ffrind. Does dim byd arall rwyt ti’n gallu ei wneud. | ________________ |
| Mae dy ffôn wedi syrthio ar lawr ac mae’r sgrîn wedi torri yn ddarnau mân. Rwyt ti’n siŵr y bydd dy fam a dy dad yn flin iawn am hyn. | Rwyt ti’n dweud wrth dy fam beth sydd wedi digwydd ac yn gadael iddi wybod y gwnei di roi dy arian pen-blwydd at y gost o brynu ffôn arall. | Rwyt ti’n cuddio’r ffôn sydd wedi torri, ac y dweud wrth dy fam bod rhywun o’r dosbarth wedi cymryd dy ffôn o’r bag. Efallai bydd dy fam yn ffonio’r ysgol ac yn creu ffws – ond bydd hynny’n well na gorfod wynebu beth sydd wedi digwydd. | ________________ |
Gweithgaredd 2 - Techneg wrth wneud penderfyniad da
(Iechyd a Lles; Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu)
Mae’r ail ffilm yn dangos nad yw’r rhan o’r ymennydd sy’n ein helpu i wneud penderfyniadau yn datblygu yn llwyr tan ein bod yn ein 20au. Mae’r ffilm hefyd yn cyflwyno pedair techneg sy’n gallu bod o gymorth pan yn gwneud penderfyniad. Un o’r rheiny yw i wneud rhestr o’r pethau da a’r pethau negyddol am benderfyniad (y ‘pros’ a ‘cons’).
Gellid gofyn i’r disgyblion lenwi’r tabl isod gan nodi’r pethau da a’r pethau negyddol am benderfyniad Eva i fynd i’r traeth gyda’i ffrindiau:
Penderfyniad Eva i fynd i’r traeth:
| Pethau da: | Pethau negyddol: |
|---|---|
| gweld ffrindiau | ________________ |
| ________________ | ________________ |
| ________________ | ________________ |
| ________________ | ________________ |
| ________________ | ________________ |
Gellid gofyn iddynt feddwl am benderfyniad y gwnaethant yn ystod y mis diwethaf. Wrth edrych yn ôl, ydyn nhw yn gallu llunio rhestr o’r pethau da a’r pethau negyddol am eu penderfyniad. A wnaethon nhw y penderfyniad cywir?
Fy mhenderfyniad: _______________________________
| Pethau da: | Pethau negyddol: |
|---|---|
| ________________ | ________________ |
| ________________ | ________________ |
| ________________ | ________________ |
| ________________ | ________________ |
Gellid gofyn i’r disgyblion sgorio pa mor effeithiol o 1 - 10 yw’r dechneg 'pros' a 'cons' yma wrth eu helpu i wneud penderfyniad.
1 (lleiaf effeithiol) - - - - - → 10 (mwyaf effeithiol)
| 1 | 2 | 3 | 4 | 5 | 6 | 7 | 8 | 9 | 10 |
|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
| ☐ | ☐ | ☐ | ☐ | ☐ | ☐ | ☐ | ☐ | ☐ | ☐ |
Pa mor debygol fyddai’r disgyblion o ddefnyddio’r dechneg hon wrth wneud penderfyniadau yn y dyfodol? Gellid gofyn iddynt nodi tri pheth sydd yn gwneud hwn yn ddull defnyddiol yn eu barn nhw – yn ogystal ag unrhyw beth sy’n ei wneud yn llai defnyddiol.
Gweithgaredd 3 - Delio gyda goblygiadau penderfyniad
(Iechyd a Lles; Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu)
Gellid gofyn i'r disgyblion feddwl am benderfyniad gwael y bu iddynt wneud yn y gorffennol. Gellid gofyn iddynt lenwi’r grid ysgrifennu isod (yn unigol):
| Fy mhenderfyniad gwael: | ________________ |
| Rhesymau am y penderfyniad: | ________________ |
| Beth oedd goblygiadau (consequences) y penderfyniad yma: | ________________ |
| Sut oeddet ti’n teimlo ar ôl gwneud y penderfyniad: | ________________ |
| Pam oeddet ti’n teimlo fel hyn? | ________________ |
| Fyddet ti’n gwneud y penderfyniad yma eto? | ________________ |
| Os nad, pam ddim? | ________________ |
| Beth fyddet ti’n benderfynu ei wneud y tro nesaf? | ________________ |
| Pam fyddet ti’n penderfynu gwneud hyn y tro nesaf? | ________________ |
Cysylltiadau â’r Cwricwlwm
Iechyd a Lles
Rwy'n gallu myfyrio a dysgu o'r gorffennol er mwyn rhagweld a pharatoi fy hun ac eraill ar gyfer profiadau yn y dyfodol.
Rwy'n gallu adnabod gwahanol strategaethau i hunan-reoli fy emosiynau mewn ymateb i ystod o brofiadau.
Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu
Rwy'n gallu deall a dadansoddi ystyr cyffredinol a syniadau sydd ymhlyg.
Rwy’n gallu gwrando gydag empathi ar safbwyntiau gwahanol bobl ar bynciau amrywiol gan ddefnyddio’r safbwyntiau i gyrraedd fy nghasgliadau fy hun.
Rwy’n gallu ymateb i safbwyntiau pobl eraill, gan grynhoi a gwerthuso’r hyn rwyf wedi’i glywed, ei ddarllen neu’i weld, strwythuro dadleuon a herio gyda hyder a sensitifrwydd yr hyn y mae eraill yn ei ddweud.
Ble nesa?
Stori Jay. video
Mae Jay yn teimlo'n flinedig iawn drwy'r amser. Mae'n gwario lot fawr o'i amser yn chwarae ar ei ffôn a'i gyfrifiadur. All pethau ddim cario mlaen fel hyn - sut gall Jay gael trefn ar bethau?

Stori Kareem. video
Mae Kareem yn teimlo'n wael iawn am y ffordd mae'n edrych - yn bennaf oherwydd y lluniau o bobl berffaith mae'n eu gweld ar-lein. Sut y gall newid y ffordd mae'n teimlo am ei gorff?

Stori Seren. video
Mae rheini Seren wedi gwahanu. Mae tad Seren yn symud i ffwrdd gyda'i bartner ac yn cael babi gyda hi. Sut fydd hi'n delio gyda hyn i gyd?

