Episode details

Radio Cymru,3 mins
Dafydd Owain yn ennill Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2026
Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2026Available for over a year
Dafydd Owain yw enillydd Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2026. Derbyniodd y wobr gan gyflwynydd y seremoni yng Nghanolfan y Mileniwm Caerdydd, Sian Eleri. Mewn cyfweliad gyda Georgia Ruth a Mirain Iwerydd dywedodd ei fod yn "od sefyll ar ben dy hun" ar lwyfan i dderbyn wobr pan fod "un teulu mawr" o bobl, gan gynnwys aelodau band, wedi cyfrannu at y llwyddiant. Daeth i'r brig gyda'r albwm Ymarfer Byw, oedd ymhlith 15 a gyrhaeddodd y rhestr fer eleni. Dyma'r drydedd wobr iddo ennill eleni gyda'r albwm yma ar ôl dod i'r brig yng Ngwobrau'r Selar ddechrau'r flwyddyn ac yna cipio Gwobr Albym Cymraeg y Flwyddyn ym mis Awst.
Programme Website