Bale 'wedi dysgu lot' i Colwill am giciau rhydd

Mae chwaraewr canol cae Cymru a Chaerdydd, Rubin Colwill yn dweud bod cyn-seren Cymru, Gareth Bale wedi "dysgu lot" iddo am sut i gymryd ciciau rhydd.

Daw ei sylwadau ar ôl iddo sgorio i'r Adar Gleision yn eiliadau olaf eu gêm yn erbyn Wrecsam nos Lun.

"Fi'n cofio cwpl o weithiau mi oedd e wedi dweud 'gwna rhywbeth fel hyn' neu 'paid â gwneud hynny'," meddai.

Ychwanegodd fod gwylio Bale yn sgorio ciciau rhydd mewn gemau mawr dros ei wlad yn ysbrydoliaeth iddo hefyd.

Bydd Caerdydd yn wynebu Derby County yn y Bencampwriaeth ddydd Sadwrn.