Ai dyma'r postmon cyntaf i arwain oedfa yr Eisteddfod?

Roedd y pafiliwn yn orlawn nos Sul ar gyfer Cymanfa Ganu Eisteddfod y Garreg Las.

Daniel Rees, sy'n bostmon wrth ei waith o ddydd i ddydd, oedd yn arwain y cyfan.

Wrth siarad â Cymru Fyw, dywedodd ei fod yn "anrhydedd enfawr" iddo.

"Oedd e'n brofiad anhygoel, ro'n i wedi edrych 'mlaen ers sbel a ro'n i wedi penderfynu mod i am fwynhau'r noson, a ro'n i'n gobeithio byddai'r gynulleidfa'n mwynhau'r cwbl.

"A fi'n credu yn ôl yr ymateb bo' pawb wedi mwynhau... a wedd y canu yn fendigedig neithiwr.

Dywedodd iddo wneud "apêl neithiwr" i annog pobl i "gefnogi eu cymanfaoedd lleol".