Creu hanes ar gae yr Oval wrth groesawu sêr y dyfodol

Mae gwaith sylweddol wedi bod i wella'r Oval yng Nghaernarfon, sydd bellach mewn sefyllfa i gynnal gemau Ewropeaidd
- Cyhoeddwyd
Bydd hanes yn cael ei greu nos Fawrth wrth i Gaernarfon gynnal gêm ryngwladol ar gyfer dynion dan-21 Cymru am y tro cyntaf erioed.
Awstria fydd yr ymwelwyr ar gyfer gêm olaf Cymru yn y rowndiau rhagbrofol i gyrraedd pencampwriaeth UEFA ar gyfer timau o dan-21.
Ac er nad oes gan garfan Matty Jones unrhyw siawns bellach o gyrraedd y twrnament yn Albania a Serbia haf nesaf, mae'r clwb yn dal i ddisgwyl torf sylweddol ar gyfer y gêm.
Dyw'r achlysur ond yn bosib yn dilyn buddsoddiad sylweddol yng nghyfleusterau'r Oval.
Felly bydd y gic gyntaf am 17:30 nos Fawrth yn rhoi cyfle i gefnogwyr yn y gogledd-orllewin gael cip ar genhedlaeth newydd o sêr rhyngwladol.
Cydnabod 'ymdrechion' cefnogwyr y gogledd
Bu gwaith ailddatblygu gwerth dros £1.4m er mwyn galluogi Caernarfon - yn ogystal â Bangor, Dinbych a Wrecsam - i gynnal rowndiau terfynol pencampwriaeth o dan-19 UEFA ym mis Mehefin.
Fe gynhaliwyd tair gêm ar yr Oval yn ystod y twrnament, gyda Croatia, Serbia a'r Eidal ymhlith y timau fu'n chwarae yno.
Ond roedd yn rhaid i'r clwb symud eu holl gemau cartref i Landudno am dymor er mwyn caniatàu'r gwaith, oedd yn cynnwys lefelu'r maes yn ogystal ag ymestyn ac adnewyddu'r ystafelloedd newid.
Mae eisteddle newydd hefyd yn ei le erbyn hyn, sy'n dal tua 600 o gefnogwyr.
Mae'r datblygiadau wedi dod yn ystod cyfnod cadarnhaol ar y maes i'r Cofis, a enillodd Gwpan Cymru JD am y tro cyntaf yn eu hanes y llynedd.
Fe olygodd y gwaith bod hefyd modd i Gaernarfon chwarae eu gêm gartref yn rowndiau rhagbrofol Cyngres Europa, yn erbyn Levadia Tallinn, yn y stadiwm.

Dywedodd Matty Jones bod cynnal y gêm yn "ffordd wych o wobrwyo a chydnabod" ymdrechion cefnogwyr sy'n teithio i Gaerdydd i wylio gemau Cymru
Dywedodd rheolwr tîm o dan-21 Cymru, Matty Jones, eu bod nhw'n gwerthfawrogi aberth cefnogwyr y gogledd sy'n teithio'n rheolaidd i Gaerdydd ar gyfer gemau rhyngwladol.
"Mae yna gydymdeimlad a dealltwriaeth o ran yr ymdrechion a'r teithio mae pobl yn ei wneud i ddod i'n cefnogi ni... gyda llawer o'n gemau yn cael eu chwarae i lawr yn y de.
"Yn sicr, o bersbectif y tîm cenedlaethol, rydym yn gweld yr ymdrechion sy'n cael eu gwneud.
"Felly mae'n ffordd wych o wobrwyo a chydnabod hynny.
"Dwi'n meddwl bod y gymdeithas bêl-droed wedi gwneud gwaith anhygoel o ran cefnogi Caernarfon ar eu llwybr, ac mae'n mynd i fod yn gyfle cyffrous."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mehefin

- Cyhoeddwyd6 Ionawr
