'Creu, nid colli, swyddi oherwydd deallusrwydd artiffisial'

Mae'r lled-ddargludyddion sy'n cael eu cynhyrchu yng Nghasnewydd bellach yn helpu systemau deallusrwydd artiffisial i weithio
- Cyhoeddwyd
Mewn adeilad mawr metel yng Nghasnewydd mae Jutta Meier yn sefyll wrth galon y dechnoleg sy'n newid ein byd.
"Rwy'n credu bod ofn mawr bod deallusrwydd artiffisial yn dileu swyddi," meddai Ms Meier, sy'n arwain un o gwmnïau lled-ddargludyddion (semiconductors) mwyaf llwyddiannus Cymru.
"Mae'r sefyllfa yma yn hollol wahanol," ychwanegodd Ms Meier. "Rydym yn creu swyddi gwych sy'n seiliedig ar AI ac yn cefnogi AI; mae hyn yn hollol groes i'r syniad bod AI yn dinistrio swyddi."
Dywedodd gweinidog AI y DU, Kanishka Narayan, fod angen i Gymru "ailddiwydiannu" ar gyfer dyfodol sy'n cael ei drawsnewid gan AI.
Ond rhybuddiodd bod angen hefyd "cefnogi pawb sy'n cael eu heffeithio" gan dechnoleg sy'n newid yn sydyn.

Yng Nghasnewydd mae Jutta Meier yn dweud mai AI sy'n gyfrifol am greu swyddi yn ei chwmni hi
Mewn adeilad enfawr ar ymyl yr M4 yng Nghasnewydd mae gwyddonwyr a pheirianwyr yn IQE yn creu sglodion trydanol sy'n tanio'r chwyldro mewn deallusrwydd artiffisial.
Ers deugain mlynedd mae Casnewydd wedi sefydlu clwstwr o gwmnïau lled-ddargludyddion, gyda IQE yn cynhyrchu lled-ddargludyddion yno ers 1988.
Mae'r swyddi yn talu'n well na'r cyfartaledd, ac mae un ysgol uwchradd leol bellach yn cynnig cymhwyster lled-ddargludyddion i ddisgyblion sy'n awyddus i ymuno â'r diwydiant.
Mae IQE wedi elwa o'r twf diweddar ym maes AI oherwydd bod ei sglodion yn rhan o bensaernïaeth y canolfannau data.
Dydy IQE ddim yn gysylltiedig â'r algorithmau sy'n galluogi pobl i siarad â chatbots fel Copilot a ChatGPT, ond mae'r cwmni yn rhan o'r caledwedd cyfrifiadurol sy'n sylfaenol i'r diwydiant.
"Bu'r 18 mis diwethaf yn gyfnod eithaf ansefydlog," dywedodd Jutta Meier, gan nodi bod IQE wedi ei chael hi'n anodd cynnal diddordeb buddsoddwyr.
Ond yn gynharach eleni, gwelodd y farchnad bod rôl bwysig gan y cwmni ym mhŵer cyfrifiadurol canolfannau data a chododd pris eu cyfranddaliadau'n gyflym. Fe wnaeth hynny alluogi'r cwmni i dalu dyledion a dechrau cyflogi mwy o staff.
"Rydym yn ffodus iawn o gael gweithlu ymroddedig iawn a arhosodd gyda ni drwy'r cyfnod anodd hwn," ychwanegodd Ms Meier.
"Mae talent, i IQE, yn un o'r asedau mwyaf sydd gennym" ac mae'r cwmni eisiau "parhau i fuddsoddi a meithrin ein talent."
Ddwy filltir o IQE, mae disgyblion yn Ysgol Basaleg ymhlith y cyntaf yn y DU i gael cynnig cymhwyster ym maes lled-ddargludyddion.

Plant o Ysgol Basaleg yng Nghasnewydd yw'r cyntaf yn y DU i ennill cymhwyster ym maes lled-ddargludyddion
Dywedodd y pennaeth, Victoria Lamb, fod hyn yn galluogi disgyblion i ddysgu am ddiwydiant oedd "reit ar eu stepen drws" yng Nghasnewydd.
Ychwanegodd ei bod yn "bwysig ein bod yn gweithio gyda'n cymuned i gynnig y mathau hyn o gyfleoedd i ddisgyblion" i ddysgu sgiliau newydd.
"Mae'n wirioneddol hwyl," meddai Grace, sy'n 15 oed. "Rydyn ni'n gwneud gwaith ymarferol, a chyn y cwrs roeddwn i'n meddwl bod lled-ddargludyddion i gyd ar gyfrifiadur."
Dywedodd Grace ei bod hi'n "wych" cael y diwydiant lled-ddargludyddion yn y ddinas.
Mae ei chyd-ddisgybl Evan yn croesawu'r cyfle i roi'r sgiliau ar waith yn yr ysgol.
"Rwy'n credu y bydd lled-ddargludyddion yn chwarae rhan fawr yn yr hyn rydw i eisiau ei wneud," meddai. "Rydw i eisiau mynd i faes electro-fecanyddol, gan wneud robotiaid. Ac mae lled-ddargludyddion yn chwarae rhan enfawr wrth wneud hynny'n bosibl."
Dywedodd Evan fod "cymaint o gwmnïau gwahanol, yn enwedig o amgylch Casnewydd," yn cynnig gyrfaoedd ar ôl gadael yr ysgol.

"Bydd rhai swyddi wedi'u creu, a rhai wedi'u colli" oherwydd deallusrwydd artiffisial, yn ôl Kanishka Narayan
Dywedodd Kanishka Narayan, gweinidog deallusrwydd artiffisial Llywodraeth y DU, fod angen adeiladu ar "dreftadaeth anhygoel Cymru ym maes gweithgynhyrchu" ar gyfer y twf mewn deallusrwydd artiffisial.
"Y cyfle economaidd mwyaf i ni yw sut rydyn ni'n creu mwy o swyddi gweithgynhyrchu yma yng Nghymru, yn ailddiwydiannu, ac yn edrych yn ôl ar ein treftadaeth ond ar gyfer dyfodol mwy gwydn – a bydd AI yn rhan fawr o hynny," meddai.
Ychwanegodd Narayan fod y clwstwr lled-ddargludyddion Casnewydd yn "talu cyflogau oedd rhwng 40 a 50 y cant yn uwch" na llawer o sectorau eraill yn yr ardal.
Ond rhybuddiodd y byddai'r cynnydd sydyn mewn swyddi sy'n gysylltiedig ag AI yn dod â chost bersonol i rai ym myd gwaith.
"Rwy'n credu, ym mhob newid diwydiannol yn y gorffennol, bod rhai swyddi wedi'u creu a rhai wedi'u colli.
"Y dasg i ni fel cymdeithas yw sicrhau ein bod ni'n cefnogi pawb sy'n cael eu heffeithio ac yn creu cyfleoedd i'n plant, ac i'w plant hwythau hefyd," meddai.