'Twpsyn' a 'bwbach' wedi eu hychwanegu i Eiriadur Rhydychen

- Cyhoeddwyd
Maen nhw'n eiriau neu ddywediadau cyfarwydd ar lafar yn y Gymraeg, a bellach mae 'twpsyn', 'boys bach' a 'bwbach' i'w gweld yng Ngeiriadur Saesneg Rhydychen (OED).
Mae nhw ymhlith chwech o dermau Cymraeg neu Gymreig sydd wedi cael eu hychwanegu i fersiwn ddiweddaraf y geiriadur.
Mae'r OED yn eiriadur hanesyddol sy'n cynnwys dros 500,000 o eiriau ac yn cael ei ddiweddaru bedair gwaith y flwyddyn.
Mae 'now in a minute', 'in one's oils' a 'bachgen' hefyd bellach yn y geiriadur.
Dylanwad ieithoedd ar ei gilydd
Tra bod yr ychwanegiadau yn gyfarwydd i siaradwyr Cymraeg a'r rhai sy'n byw yng Nghymru, mae eu cynnwys yn yr OED hefyd yn dangos dylanwad y Gymraeg ar yr iaith Saesneg.
Un o'r dywediadau newydd yn y geiriadur ydi "in one's oils", sydd, er yn cynnwys geiriau Saesneg, wedi deillio mae'n ymddangos o'r dywediad Cymraeg "yn ei hwyliau" sef bod "mewn hwyliau neu dymer da"
Un arall ydi 'boys bach' - ffordd o gyfarch grŵp o ddynion neu grŵp cymysg o bobl, ond sydd hefyd ers dechrau'r 20fed ganrif yn cael ei ddefnyddio fel mynegiad o syndod neu siom.
Mae 'now in a minute' hefyd wedi ei gynnwys - dywediad sydd yn ymddangos fel bod rhywun yn gwrthddweud ei hun wrth ddweud "nawr" ac "mewn munud" yn yr un frawddeg.
Mae'n ddywediad sy'n cael ei ddefnyddio mewn Saesneg Gwyddelig hefyd, a bellach wedi cael ei gydnabod yn swyddogol yng Ngeiriadur Rhydychen.
Iechyd da! Ychwanegu termau Cymraeg i Eiriadur Rhydychen
- Cyhoeddwyd19 Medi 2024
'Sanffaganaidd' ymhlith cannoedd o eiriau newydd i'r geiriadur
- Cyhoeddwyd19 Awst 2025
Croeso, diolch, poody - geiriau Cymraeg newydd yn y geiriadur Saesneg
- Cyhoeddwyd24 Medi 2025
Dywedodd Andrew Hawke, Golygydd Geiriadur Prifysgol Cymru bod y geiriau a'r termau Cymraeg neu Gymreig yn cael eu hychwanegu i'r OED "mewn cyd-destun Saesneg", ac yn cael eu cynnwys pan fo nifer o enghreifftiau o'r un gair neu derm yn dod i'r amlwg.
Y gair Cymraeg hynaf o'r rhai diweddaraf i'w cynnwys ydi 'bwbach' - sy'n deillio'n ôl i'r 14eg ganrif, a sy'n air o chwedloniaeth Gymreig yn cyfeirio at gymeriad fel bwgan, neu fwci bo neu ellyll.
Eglurodd Andrew Hawke eu bod yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru yn ailedrych eu hunain ar y gair hwnnw ar hyn o bryd.
Dywedodd hefyd bod 'twpsyn' yn enghraifft ddiddorol o air sydd mae'n debyg wedi ei fenthyg yn wreiddiol o'r Saesneg cyn cyrraedd yr OED fel gair Cymraeg.
"Beth sydd wedi digwydd mae'n debyg yn yr achos yna ydi bod 'tup' sef 'stupid person' wedi cael ei fenthyg i'r Gymraeg, ac wedi lledu wedyn yn y Gymraeg a datblygu ffurfiau eraill fel twpsyn ac ati; a wedyn yn y de yn arbennig mae'n cael ei ddefnyddio ar lafar yn Saesneg a bobl ddi-Gymraeg hyd yn oed yn sôn am twps a twpsyn, a wedyn mae'n mynd yn ôl i'r OED fel benthyciad o'r Gymraeg ond wedi dod o'r Saesneg yn wreiddiol."
Y termau Cymraeg neu Gymreig newydd:
Bachgen
Boys Bach
Bwbach
In one's oils
Now in a minute
Twpsyn
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.