Teyrnged i 'fam-gu gariadus' fu farw wedi gwrthdrawiad beic modur

Bu farw Lynne Trump, 45, wedi gwrthdrawiad beic modur yn ardal Castell-nedd ddydd Sul
- Cyhoeddwyd
Mae teulu "mam-gu gariadus" fu farw wedi gwrthdrawiad beic modur yng Nghastell-nedd Port Talbot dros y penwythnos wedi rhoi teyrnged iddi.
Bu farw Lynne Trump, 45 oed ac o Greunant, yn dilyn gwrthdrawiad beic modur ar yr A4109 ger Pwll Glo Cefn Coed, ger Castell-nedd ddydd Sul.
Dywedodd ei theulu ei bod yn berson "hynod arbennig a oedd yn goleuo'r byd i bawb oedd yn ei nabod".
"Hi oedd calon ei theulu, a rhywun a fyddai bob amser yn rhoi anghenion eraill cyn ei hanghenion ei hun," meddai'r teulu mewn datganiad a rannwyd gan Heddlu'r De.
"Fel gwraig, mam a mam-gu, rhoddodd gymaint o gariad, cefnogaeth ac atgofion gwerthfawr i'w theulu – pethau a fydd yn cael eu trysori am byth.
"Ei theulu oedd popeth iddi, ac roedd hi'n ymfalchïo'n fawr wrth weld y rhai yr oedd hi'n eu caru yn tyfu ac yn adeiladu eu bywydau eu hunain."
Ychwanegon nhw eu bod yn "dorcalonnus ac wedi'u llorio" gan ei cholled.
Mae'r llu yn apelio ar unrhyw dystion o'r gwrthdrawiad i gysylltu â nhw.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.