Melin Llynon yn ôl yn wyn ar ôl ei phaentio ar gyfer Eisteddfod yr Urdd

- Cyhoeddwyd
Mae Melin Llynon ar Ynys Môn, a gafodd ei phaentio'n goch, gwyn a gwyrdd ar gyfer Eisteddfod yr Urdd, wedi cael ei phaentio'n ôl i'w lliw gwyn blaenorol.
Roedd deiseb wedi'i llunio gan y tenant Richard Holt i gadw'r lliwiau amryliw ar y felin, gan eu bod wedi profi'n boblogaidd ymhlith ymwelwyr a rhai yn lleol.
Fodd bynnag, roedd y newid wedi codi pryderon Cyngor Ynys Môn gan fod y felin yn adeilad rhestredig.
Dyma'r unig felin wynt sy'n dal i weithredu yng Nghymru.

Cafodd Melin Llynon ei phaentio'n goch, gwyn a gwyrdd ym mis Mai
Ym mis Mai fe benderfynodd Richard Holt i baentio'r felin i gyd-fynd â lliwiau Urdd Gobaith Cymru, gan fod eisteddfod y mudiad ieuenctid ar fin cael ei chynnal ar yr ynys.
Ond cafodd orchymyn gan y cyngor i ailbaentio'r adeilad yn wyn cyn gynted â phosib, gan nad oedd wedi cael caniatâd i newid yr adeilad rhestredig.

Roedd Richard Holt yn credu y gallai cadw'r lliwiau helpu'r felin i aros ar agor gan fod cymaint o ymwelwyr yn dod i'w gweld
Roedd Holt yn bwriadu ailbaentio'r felin yn ôl yn syth ar ôl yr Eisteddfod, ond cafodd ei synnu gan ymateb croesawgar ymwelwyr a phobl leol - felly aeth ati i gyflwyno deisebau i glywed barn y bobl.
Ar y pryd, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Ynys Môn y byddai unrhyw gais yn y dyfodol am ganiatâd adeilad rhestredig yn cael ei benderfynu yn unol â'r ddeddfwriaeth berthnasol, polisi cynllunio a dyletswyddau'r Cyngor i ddiogelu'r amgylchedd hanesyddol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mai
